Bethan Sayed: Bûm yn ymwneud â’r anghydfod hwn o’r dechrau, a’r cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi, Weinidog, yw a ydych yn credu y gallai hyn fod wedi cael ei ddatrys yn gynt pe baech chi, fel Gweinidog, wedi ymyrryd yn gynt er mwyn sicrhau na fyddai hwn yn anghydfod a fyddai’n para dwy flynedd? Hefyd, hoffwn glywed eich ateb mewn perthynas â’r hyn y mae’r rheolwyr wedi ei ddweud wrthyf: nad...
Bethan Sayed: Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw. Cychwynasom y ddadl hon ochr yn ochr ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ar sail drawsbleidiol yng nghyd-destun proses adnewyddu siarter y BBC, i geisio rhoi pwysigrwydd ein perthynas gyda’r BBC ar yr agenda yn nhymor gwleidyddol newydd y Cynulliad, a dangos iddynt nad ydym yn mynd i ddiflannu ac y byddwn yn craffu nid yn unig arnynt hwy ond ar...
Bethan Sayed: Gwnaf.
Bethan Sayed: Yn amlwg, nid wyf am siarad fel rhyw fath o unben ar hyn o bryd; rydym yn mynd i fod yn siarad fel pwyllgor. Rwy’n siŵr na fyddai pobl eisiau meddwl y byddwn yn dweud wrth bawb yn awr beth y byddwn yn ei wneud fel pwyllgor, ond mae’n rhywbeth sy’n—wel, wyddoch chi, gallai’r pŵer fynd i fy mhen—. Mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel pwyllgor gyda’n gilydd. Oherwydd,...
Bethan Sayed: Wel, rydych wedi profi’r pwynt hwnnw ar ei ben felly. I didn’t want to finish without mentioning S4C in the minute that I have left. We should also mention the fact that they want to be part of the BBC charter and that they believe that there should be a clause in the new charter talking about their independence and what they do. From what I hear from S4C the Westminster Government may...
Bethan Sayed: Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar ddiwydiant dur Cymru oherwydd, fel y gwyddom, gwnaethpwyd honiadau amrywiol am ddyfodol llewyrchus i’r diwydiant gan y rheini oedd o blaid Brexit yn y cyfnod cyn y refferendwm—honiadau a oedd wedi cael effaith ar rai gweithwyr dur, rhaid dweud, a sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm hwnnw. Felly, nawr mae'n gyfrifoldeb ar y rhai a...
Bethan Sayed: Diolch, ac rwyf wedi rhoi munud i Dawn Bowden. Rydym yn ddyledus i undebaeth lafur am y Gymru sydd ohoni heddiw. Nid fy marn i’n unig yw hon. Bydd unrhyw un sydd wedi darllen gwaith Gwyn Alf Williams yn gwybod ei fod wedi clustnodi un adeg benodol mewn amser, sef y gwrthryfel yn y dref lle mae fy nghartref, Merthyr Tudful, yn 1831, fel y foment pan symudodd y dosbarth gweithiol Cymreig...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ehangu mynediad i gyfleusterau chwaraeon?
Bethan Sayed: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0126(FM)
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb, ac mi gefais y datganiad hwnnw. Yn y llythyr hwnnw gan y Gweinidog, mae'n dweud bod cynnydd da yn cael ei wneud ar amrywiaeth o brosiectau sydd wedi galluogi’r gweithfeydd yng Nghymru i fod yn fwy effeithlon a gallu gwrthsefyll y gystadleuaeth fyd-eang, gan gynnwys datblygu prosiect gwella'r amgylchedd mawr ar gyfer Port Talbot, yn ogystal â'r prosiectau buddsoddi mewn...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0037(EI)
Bethan Sayed: Lywydd, mae’n peri cryn bryder i mi bod y Prif Weinidog, gan gofio mai yn ei etholaeth ef y mae hyn, wedi gadael ar yr union gwestiwn hwn gan fy mod eisiau cyfeirio yn gynharach at yr hyn a ddywedodd o ran Brexit gan fy mod yn rhannu ychydig o sinigiaeth ynghylch bod hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â Brexit, o ystyried bod Ford yn gwmni amlwladol, ac ni wnaethant ddweud hyn cyn Brexit. Ers...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd, rydw i wedi cael nifer o bobl yn dod ataf i yn ardal Aberafan sydd yn poeni ynghylch lleoliad tyrbinau morlyn bae Abertawe oherwydd y ffaith eu bod nhw’n credu y bydd yn effeithio ar y llif i mewn i’r môr a hefyd, wedyn, sut y bydd hynny’n effeithio ar eu gallu nhw i fod yn rhan o’r broses y maen nhw’n ei mwynhau yn yr ardal honno. A ydych chi wedi cael cyfle i edrych...
Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd adfywio strategol? OAQ(5)0022(CC)
Bethan Sayed: A allwch chi ddweud wrthyf pa waith sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod cwm Afan yn elwa ar y cynllun adfywio yma? Fe dderbyniais i lythyr gan gyngor Castell Nedd Port Talbot dros yr haf yn cadarnhau ei fwriad i leoli gwaith datblygu ar hyd coridor arfordirol yr ardal honno, gan gynnwys cwm Nedd uchaf a chwm Tawe uchaf yn ardaloedd o dwf strategol. Ond, beth rwy’n ei ddarganfod trwy gnocio...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn oedd cyn refferendwm yr UE, a gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau ar faint o gynlluniau gwrthdlodi sy’n cael eu hariannu gan yr UE. Felly, gwyddom bellach, wrth gwrs, fod y rhai a fu’n ymgyrchu i adael yr UE, gan gynnwys rhai o aelodau’r Blaid Lafur, fel Gisela Stuart, wedi addo y bydd pob ceiniog sy’n cael ei derbyn oddi...
Bethan Sayed: Diolch am eich ymateb. Mae llawer iawn o bryder/diddordeb wedi bod ymysg llawer o blith y sefydliad gwleidyddol fod llawer o’r ardaloedd a elwodd fwyaf o arian Ewropeaidd wedi pleidleisio dros adael. Ond er gwaethaf yr holl arian sy’n mynd i’r Cymoedd, mae tlodi, tai gwael a chyflogaeth ansicr yn parhau i fod yn ffeithiau bywyd i lawer o bobl sy’n byw yno. Felly, gellid gweld y...
Bethan Sayed: Diolch am hynny, ond rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hefyd nad yw rhai o leiaf o’r biliynau hynny wedi cyflawni’r nod a fwriadwyd ar eu cyfer, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn agored am y ffaith honno. Mae’n sicr yn wir fod cyllid ar gyfer rhaglenni gwrthdlodi mewn perygl, a dylid gwneud cynlluniau wrth gefn, fel rydych wedi nodi, i ddod yn fwy cadarn. Ond mae’n rhaid i...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, rydych chi eisoes wedi crybwyll y plant, ond mae 200 o blant mewn gwirionedd yn ardal Calais nad ydynt yn cael eu derbyn gan unrhyw Lywodraeth ar hyn o bryd, a hefyd yn Libanus a Syria, yn ogystal, yn ychwanegol at y 200. Rydym ni wedi gweld y lluniau erchyll ar ein sgriniau dros yr haf, ac, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae’r ffaith nad ydym ni’n gwneud digon i'r plant...
Bethan Sayed: 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio llwybrau beicio a rennir yng Nghymru? OAQ(5)0142(FM)