Hannah Blythyn: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o raglen tai ac adfywio strategol Cyngor Sir y Fflint, y gyntaf o’i bath yng Nghymru i arloesi gyda chynlluniau buddsoddi uchelgeisiol mewn tai. Mae’r cyngor wedi arwain drwy esiampl ar sut i fynd i’r afael â phrinder tai, gan gynnwys adeiladu tai cyngor newydd am y tro cyntaf mewn nifer fawr o flynyddoedd. Yn fy...
Hannah Blythyn: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd buddsoddi mewn twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0216(FM)
Hannah Blythyn: Diolch. Roeddwn i mewn cyfarfod Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint ddydd Gwener, lle’r oedd nifer o bobl, yn trafod gwerth yr economi ymwelwyr i’r gogledd-ddwyrain. Rwy’n croesawu ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru a chynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet i greu coridor diwylliant ar draws yr A55, sy'n cynnwys arwyddion newydd i nodi ein hasedau treftadaeth a thwristiaeth anhygoel yn y...
Hannah Blythyn: Yn yr un modd rwyf innau’n croesawu’r datganiad heddiw ac, Ysgrifennydd y Cabinet, eich ymateb i fy nghydweithiwr Vikki Howells lle’r oeddech yn cyfeirio at bwysigrwydd cael prosiectau clir yn yr arfaeth, sy'n rhywbeth a gafodd ei ddwyn i mi yn uniongyrchol mewn ymweliad â Tarmac yn Hendre yn fy etholaeth i ddoe, pan wnaethant bwysleisio pwysigrwydd dull mwy strwythuredig o weithredu...
Hannah Blythyn: Diolch. Fy mwriad yw ceisio rhoi munud i Jeremy Miles, Mark Isherwood, Llyr Gruffydd a Michelle Brown. Mae gogledd Cymru yn falch o’n treftadaeth ddiwydiannol—dur, glo, llechi a gweithgynhyrchu—ond hefyd o’r harddwch a’r diwylliant y gellir ei ganfod ar flaenau ein bysedd, o Eryri, castell Caernarfon a marina Conwy yn y gorllewin, i fryniau Clwyd, castell y Fflint a Theatr Clwyd yn...
Hannah Blythyn: 3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau? OAQ(5)0248(FM)
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gan Gymru lawer o gysylltiadau hanesyddol â'r Unol Daleithiau, ac roedd nifer o lofnodwyr y datganiad o annibyniaeth yn Gymry. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod llawer i'w wneud o’r cysylltiadau hanesyddol hyn i hybu masnach a thwristiaeth, y cyntaf yn bwysicach fyth yng ngoleuni Brexit. Yn wir, mae heddiw o bosibl yn ddiwrnod hanesyddol yn yr...
Hannah Blythyn: Rwy’n croesawu diweddariad ychwanegol y Gweinidog i’r Aelodau ar y mater hwn. Dylwn i, ac rwyf wedi codi hyn o'r blaen, fod yn gyfarwydd â chael gafael ar fand eang cyflym iawn ac mae’n rhywbeth o bwys i etholaethau a busnesau yn Nelyn. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod arweiniad Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael arno, er...
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddwn yn falch o’ch clywed yn agor drwy ailadrodd sut y cafodd y gogledd ei bleidleisio yn un o’r rhanbarthau gorau yn y byd gan Lonely Planet. Ni fydd yn syndod i gydweithwyr ddysgu na allaf glywed hynny ddigon. Mae Blwyddyn y Chwedlau yn gyfle unigryw i arddangos ein hanes a'n treftadaeth, mythau a...
Hannah Blythyn: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal llwyddiannau Cymru ym maes chwaraeon?
Hannah Blythyn: Gwyddom fod mannau chwarae diogel, hygyrch a hwyliog ar gyfer plant yn bwysig ac yn rhan annatod o’n cymunedau lleol. Mae’r un mor bwysig fod plant yn cael lleisio barn wrth lunio’r hyn sy’n effeithio arnynt. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n falch iawn o weld bod senedd Ysgol Merllyn, dan arweiniad eu prif weinidog, Tony, yma yn yr oriel heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet,...
Hannah Blythyn: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cronfeydd strwythurol yr UE yn cynorthwyo busnesau a chyflogaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0064(FLG)
Hannah Blythyn: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae arian yr UE wedi helpu i sicrhau arloesedd yng ngogledd Cymru, drwy gynorthwyo mentrau fel ADC Biotechnology a leolir yn OpTIC yn Llanelwy, yn ogystal â chyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n cefnogi darpariaeth cymorth dwys ac ystod o ymyriadau pwrpasol i helpu i ddod â phobl yn agosach at y farchnad lafur drwy raglen OPUS Bwrdd Uchelgais...
Hannah Blythyn: 3. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion? OAQ(5)0055(EDU)
Hannah Blythyn: Diolch. Croesawaf y cyfleoedd y mae Bagloriaeth Cymru a’r adolygiad cyffredinol o’r cwricwlwm yn eu cynnig i ymgorffori camau gweithredu a rhaglenni sy’n galluogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol, ac yn y pen draw, i ddwyn pobl fel ni i gyfrif. Mae cymaint o enghreifftiau da i’w cael. Yn fy etholaeth i, mae pwyllgor eco yn Ysgol Croes Atti yn y Fflint yn...
Hannah Blythyn: 4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o effaith y Ddeddf Hawliau Dynol ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0010(CG)
Hannah Blythyn: Diolch. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, ac fe fyddwch yn ymwybodol, Gwnsler Cyffredinol, o ymgyrch Amnesty International yn erbyn hyn. Yn wahanol i’r hyn yr hoffai ei gwrthwynebwyr i chi ei gredu, mae’r Ddeddf yn amddiffyn rhyddid, diogelwch ac urddas pobl gyffredin, ac yn helpu pobl i ddwyn awdurdod i gyfrif pan fydd pethau’n mynd o...
Hannah Blythyn: Fel Aelod Cynulliad sy’n gwasanaethu etholwyr sydd wedi arfer defnyddio gwasanaethau penodol ar draws y ffin, croesawaf y ddadl hon a’r cyfle i allu cyfrannu’n fyr. Rwyf eisoes wedi sôn droeon yn y Siambr hon sut y mae ardal gogledd-ddwyrain Cymru wedi ei chysylltu’n economaidd ac yn ddiwylliannol â gogledd-orllewin Lloegr, ac mae’r ffin yn cynorthwyo fel llwybr dwy ffordd i...
Hannah Blythyn: Yn y misoedd diwethaf, mae dau fanc mawr wedi cau canghennau yn Nelyn—HSBC yn y Fflint a Barclays yn Nhreffynnon, a NatWest yw'r diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn cau cangen yn Nhreffynnon hefyd. Er fy mod yn cydnabod y camau y mae’r banciau hyn wedi eu cymryd i sicrhau y gall cwsmeriaid bancio personol gael mynediad at eu cyfrifon yn y swyddfa bost, mewn llawer o ardaloedd, mae...
Hannah Blythyn: Mae rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y bydd £50 miliwn yn ychwanegol ar gael i hybu datblygiad system metro gogledd Cymru. Dylid croesawu hyn, ond cyn cyflwyno system metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru, credaf fod angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod y system bresennol sydd gennym yno yn barod am system metro, fel petai. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y...