Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a diolch iddo hefyd am ddod i Gwmbrân ddoe, i'r clinig cwympo, i wneud y cyhoeddiad? Rydych yn gywir iawn i nodi ei bod yn gyfle gwych i weld y mathau o wasanaethau sy'n cael eu cyflwyno ar lefel y gymuned wrth i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Ond roeddwn wrth fy modd eich bod yn gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw...
Lynne Neagle: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau'r cap budd-daliadau yn Nhorfaen? OAQ(5)0252(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn anffodus, bydd estyniad ddoe i’r cap budd-daliadau yn sicrhau, rwy’n credu, bod mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi trwy ddiwygiadau lles y Torïaid. Mae'r ffigurau a roddwyd gennych yn hollol gywir—mae £58 yr wythnos yn swm sylweddol o arian ac mae tua 516 o blant sydd ar aelwydydd sy'n cael eu heffeithio. Mae gan nifer o’r teuluoedd hynny...
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd plant yng Nghymru?
Lynne Neagle: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(5)0262(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Heddiw, roeddwn yn falch iawn unwaith eto o gynnal digwyddiad i nodi mis ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yma yn y Senedd. Y llynedd, pan ofynnais i chi am hyn, pwysais arnoch ar yr angen i godi ymwybyddiaeth. Eleni, mae Pancreatic Cancer UK wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos na all tri chwarter y cyhoedd yn y DU enwi unrhyw symptom o ganser y...
Lynne Neagle: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar raglen waith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru? Er fy mod i’n croesawu cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd yn fawr, a’r adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yng Nghymru, sy’n hir-ddisgwyliedig, yn fy marn i, rwyf yn pryderu y bydd mynediad at gyffuriau newydd yn parhau i gael ei gyfyngu gan...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Yn enwedig, croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am ddarparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws pob ysgol a gynhelir, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Rydych yn ymwybodol o fy mhryderon ynghylch y mater hwn. Hefyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yn...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae hawliau a chymorth i bobl sydd â dementia yn bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ganolbwyntio arno eto heddiw. Ym mis Ionawr eleni, arweiniais ddadl ar yr angen am strategaeth ddementia genedlaethol a chyflwyno’r achos mai dementia yw her iechyd ein cyfnod ni. Mae bob amser yn werth...
Lynne Neagle: Mae’n rhaid iddo gael ei arwain o’r gwaelod i fyny, ond rwyf hefyd yn meddwl os oes gennych systemau ar waith fel yr angen am weithwyr cymorth a thargedau ar gyfer cyfraddau diagnosis, rhaid i’r rheini gael eu gyrru gan y Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at glywed gan Lywodraeth Cymru sut y bydd y strategaeth yn mynd o fod yn ddogfen ar bapur i rywbeth sydd o ddifrif yn trawsnewid...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a rhoi croeso cynnes iawn i gynnwys y datganiad hwnnw heddiw? Yn benodol, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth hon yn mynd i fod yn cyflwyno system sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei chefnogaeth i israddedigion amser llawn a rhan-amser ac i fyfyrwyr ôl-raddedig. Rwyf i hefyd yn croesawu cyflymder Ysgrifennydd y Cabinet wrth...
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Dorfaen?
Lynne Neagle: Ym mis Mawrth 2015, pasiodd Llywodraeth y DU dan adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 gyfraith sy'n ei gwneud yn drosedd i oedolyn gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn. Pasiodd y Cynulliad hwn gynnig cydsyniad deddfwriaethol er mwyn galluogi hynny, y mis cynt. Fodd bynnag, dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r gyfraith hon, a allai helpu'r heddlu a stopio pobl a allai...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o amlinellu barn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd yr Aelodau yn gweld o'n hadroddiad bod y pwyllgor yn cefnogi'r dull a nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn cytuno ei bod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol....
Lynne Neagle: Helo. [Chwerthin.] Iawn. [Chwerthin.] Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw at gyhoeddi’r Bil hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf gyda Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK ac am wrando ar y pryderon ynglŷn â’r angen i gynnwys dyletswydd yn y Bil i ddiwallu anghenion meddygol plant yn yr ysgol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf...
Lynne Neagle: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arian cyfalaf ychwanegol a bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael yn dilyn y cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU? OAQ(5)0323(FM)
Lynne Neagle: Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb toriadau'r Torïaid o San Steffan, ond mae cyni cyllidol parhaus wedi golygu’n anochel y bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd, a bu gostyngiad sylweddol i’r gyllideb ar gyfer y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol. Gwn fod hon yn ffynhonnell werthfawr o gyllid i lawer o grwpiau cymunedol...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Rwy’n gwerthfawrogi ei harfarniad gonest o'r sefyllfa ac, fel hithau, rwyf innau’n credu nad ydym yn ble yr hoffem fod yno eto ac mae'n bwysig cydnabod hynny. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod yr holl wledydd sydd wedi gwella eu safle PISA wedi cymryd rhai blynyddoedd i wneud hynny, ac nid wyf yn credu y byddem yn gwneud unrhyw...
Lynne Neagle: Rydym yn byw mewn amseroedd ansicr iawn. Agorodd fy nghydweithiwr, Mark Drakeford, ei ddatganiad ar y gyllideb yn ôl ym mis Hydref gyda’r geiriau hynny. Ac mae’n iawn. Ni allai'r amser fod yn fwy ansicr ar gyfer y DU a Chymru a’r blaid Dorïaidd sydd wedi dod â ni yma. Ers 2010, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi dwyn tua £1.5 biliwn oddi ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r...
Lynne Neagle: Rwy’n ymwybodol iawn o ganlyniad y refferendwm, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r anhrefn yr ydym yn symud tuag ato, yn enwedig gyda Brexit caled. Gyda dyfyniad enwog Groucho a'n dyfodol yn Ewrop mewn golwg, pwy mewn difri fyddai eisiau bod yn rhan o glwb a fyddai'n cael y tri hynny yn aelodau? Yng nghanol anhrefn y Torïaid mae'n rhaid i ni barhau i wneud cyllideb. Yng nghanol y llanastr,...