Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, ddechrau mis Gorffennaf, galwodd arweinwyr 22 awdurdod lleol Cymru ar Lywodraeth Cymru i adolygu pwerau a chylch gwaith y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yma yng Nghymru—Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac fel y gwyddoch, cododd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, y mater hwn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ym...
Sam Rowlands: Diolch am hynny hefyd, Weinidog. Fel y gwyddoch, un o'r materion a godwyd gan y cynghorau yn eu gohebiaeth â Llywodraeth Cymru yw pa mor anodd yw dwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif ar brydiau. Yn y llythyr gan arweinwyr y 22 cyngor y cyfeiriais ato, llythyr a ysgrifennwyd gan arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, maent yn nodi, ac rwy'n dyfynnu, 'wrth ymdrin â digwyddiadau ar lefel leol, gall...
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Siân Gwenllian yn y fan yna. Rwy'n sicr yn cydymdeimlo â'r sylwadau a wnaed drwy Siân Gwenllian gyda'r geiriau gan berchnogion cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal. Mae'n anodd, rwy'n credu, i lawer ohonom ni ddeall y gwahaniaeth sylweddol hwnnw o ran diogelwch ar gyfer swyddi a thasgau sy'n ymddangos yn eithaf tebyg, rhwng gweithiwr iechyd a...
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ar y cronfeydd pwysig hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn ôl ym mis Mehefin, cawsom ddadl y Llywodraeth ar y pwnc hwn, ac fel y byddech yn ei ddisgwyl, canolbwyntiais fy sylw a fy amser yn y ddadl honno ar rôl awdurdodau lleol a sut y gallan nhw chwarae eu rhan wrth dynnu'r arian pwysig hwn i'n cymunedau. Ac fel y...
Sam Rowlands: Ac un o'r elfennau mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu yw cyllid ar gyfer y capasiti hwn o £125,000 i'r awdurdodau lleol hyn er mwyn galluogi'r capasiti hwnnw, fel y gall awdurdodau lleol dynnu'r cyllid hwn i lawr. Pa fath o gymorth y byddech chi'n bwriadu ei ddarparu i awdurdodau lleol i ehangu'r capasiti hwn er mwyn sicrhau bod cymunedau yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid hwn? Diolch.
Sam Rowlands: Yn gyntaf oll, gadewch imi fynegi fy nghefnogaeth innau hefyd i alwad yr Aelod am fuddsoddi ym mhorthladd Caergybi, yn unol â'r cwestiynau a godais gyda'r Prif Weinidog yn y Siambr bythefnos yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gan Ynys Môn gyfleoedd unigryw i gyflenwi ynni gwyrdd oherwydd peth o'r seilwaith sydd yno eisoes, gan gynnwys y porthladdoedd wrth gwrs, yn ogystal â rhywfaint...
Sam Rowlands: 8. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56919
Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb cryno, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae rhannau sylweddol o economi gogledd Cymru o fewn y sector adeiladu, ac yn ddiweddar cefais y fraint o gyfarfod â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y CITB, a amlinellodd rai o'r heriau y maent yn eu profi gyda phrinder sgiliau o fewn y sector. Yn wir, yn ogystal â'r prinder sgiliau presennol, erbyn 2025 ledled Cymru,...
Sam Rowlands: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fynediad i gyfleusterau chwaraeon yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro gogledd Cymru? OQ56973
Sam Rowlands: Diolch am eich diweddariadau ar gynnydd metro gogledd Cymru, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn falch o weld y gwaith ar y prosiect hwn yn cyflymu, a'r buddion y gallai eu darparu i bobl gogledd Cymru. Cynigiwyd y cynlluniau hyn gyntaf yn 2016, i'w cyflawni oddeutu 2035—felly amserlen o bron i 20 mlynedd ar gyfer cyflawni metro gogledd Cymru. Nid wyf...
Sam Rowlands: Hoffwn ddiolch i Mr Sargeant hefyd am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Fel y gwnaethoch ei gydnabod, Weinidog, i rai dysgwyr, nid dysgu traddodiadol mewn ysgolion yw'r dewis gorau iddynt bob amser. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ffynnu mewn lleoliadau anhraddodiadol, sy'n eu galluogi i symud i fyny'r ysgol addysgol ar eu cyflymder eu hunain, a chanolbwyntio efallai ar feysydd diddordeb...
Sam Rowlands: Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod gan ogledd Cymru enw da o'r radd flaenaf am gyflwyno digwyddiadau eithriadol a bod yn gyrchfan fyd-enwog. Ac yn dilyn pwynt y gwnes i ei godi gyda chi cyn yr haf, o ran cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, rwy'n siŵr eich bod chi'n falch iawn o weld bod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer i gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant y DU 2025, ynghyd â...
Sam Rowlands: Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw ynghylch setliadau llywodraeth leol. Weinidog, ymddengys bod gwahaniaeth sylweddol ar adegau rhwng yr hyn y mae arweinwyr cynghorau ac aelodau a etholir yn lleol yn ei ddweud yw'r cyllid sydd ei angen drwy'r fformiwla ariannu i ddarparu llawer o'r gwasanaethau pwysig a'r hyn rydych chi, yn ôl pob golwg, yn barod i'w...
Sam Rowlands: Rwy'n siŵr fod pob plaid ar draws y Siambr yn cefnogi camau i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cyrraedd, ac rwyf bob amser yn hapus i ddatgan buddiant fel perchennog daeargi Glen of Imaal hyfryd sy'n ddwy oed. Mae'n bwysig iawn fod gennym y safonau lles anifeiliaid cywir ar waith. Byddwn yn sicr yn adleisio'r geiriau a grybwyllwyd o ran y rôl hanfodol y mae gwarchodfeydd...
Sam Rowlands: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, sy'n amlwg yn eang ei chyrhaeddiad o safbwynt ei theitl—gallai'r Aelodau ddilyn sawl trywydd mewn perthynas â'r ddadl hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu a chefnogi adran gyntaf y cynnig gan Blaid Cymru, sy'n nodi'r holl waith da sydd wedi digwydd mewn gwahanol sefydliadau ac mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Rwyf am...
Sam Rowlands: Rwy'n sicr yn cydnabod hynny a byddaf yn parhau i gefnogi manteision ynni'r llanw o fy ochr i. Efallai nad yw'r cynllun penodol hwnnw wedi bod mor effeithiol â rhai eraill, ond nid yw'n golygu bod ynni'r llanw a'r dechnoleg yn beth drwg. Ac rwy'n credu bod y gwaith da mewn lleoedd fel Morlais, sy'n edrych ar ynni'r llanw a sut y gellir ei wella, yn bwysig iawn a dylem barhau i'w gefnogi....
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'n ddatganiad amserol iawn wrth gwrs. Ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais gwestiwn i chi yn y Siambr ynghylch metro gogledd Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn cytuno â mi y dylai fod brys ynghylch darparu'r metro yng ngogledd Cymru. Ac yng ngoleuni hyn, rwy'n sicr yn croesawu rhywfaint o ffocws pellach ar fy...
Sam Rowlands: Trefnydd, byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ymdrin â'r hyn sy'n ymddangos yn brinder sgiliau cynyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, cefais i'r pleser o gwrdd â nifer o fusnesau bach o bob rhan o ogledd Cymru gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a dau o'r rheini oedd Cwmni Fifth Wheel yn Rhuallt a hefyd gwesty a sba...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf i'n sicr yn croesawu'r uchelgais i adeiladu economi gryfach a gwyrddach yma yng Nghymru. Rhan allweddol o sicrhau a gweld llwyddiant yr economi werdd honno yw'r rhan y gall awdurdodau lleol ei chwarae wrth gyflawni hyn. Yng ngoleuni hyn, roeddwn i wedi siomi o weld nad oedd sôn am awdurdodau lleol a chynghorau yn eich datganiad heddiw,...