Jack Sargeant: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am rôl chwaraeon o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod? OAQ53094
Jack Sargeant: Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw, ac rwyf yn siŵr ei bod hi’n ymwybodol, fel y mae hi wedi ei ddweud yn gwbl gywir, mae astudiaethau wedi cysylltu digwyddiadau chwaraeon mawr â chynnydd mewn adroddiadau o drais yn y cartref, heb sôn am y trais nad yw’n cael ei gofnodi. Er enghraifft, yn ystod Cwpanau pêl-droed y Byd yn 2002, 2006 a 2010, cofnododd Heddlu Caerhirfryn...
Jack Sargeant: Mark Drakeford.
Jack Sargeant: 8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig? OAQ53166
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb a dweud fy mod i'n falch iawn o'i weld yn cyfeirio at agwedd fwy garedig at wleidyddiaeth yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog? Bydd yn gwybod fy mod i wedi bod yn gweithio'n galed i weld newid cadarnhaol yn ein gwleidyddiaeth, ac rwy'n cytuno'n llwyr bod y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac anniddig. Nawr,...
Jack Sargeant: Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, rwy'n hynod o falch o gynrychioli fy nhref enedigol ac Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'r etholwyr yn gwbl briodol yn haeddu ac yn disgwyl gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth o ansawdd uchel gan y cyngor lleol, ac, yn yr achos hwn, Cyngor Sir y Fflint yw hwnnw. Nawr, yn sicr nid wyf yn eiddigeddus o'r Llywodraeth yn...
Jack Sargeant: Mae allforion, wrth gwrs, yn bwysig iawn i economi'r gogledd-ddwyrain ac economi Cymru yn gyffredinol. Ar y cyfan, fel mae'r Aelod yn cydnabod yn ei gwestiwn, mae canran yr allforion yn uwch o Gymru na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i Ewrop. Y ffordd orau bosib o sicrhau ffyniant allforion yn y dyfodol yw'r berthynas agosaf bosib gyda'r farchnad sengl, y math o beth dydyn ni ddim wedi...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am gydnabod pwysigrwydd economi gogledd-ddwyrain Cymru? Roeddwn yn falch iawn ddydd Gwener diwethaf o groesawu Prif Weinidog Cymru a'n Gweinidog newydd dros ogledd Cymru i Alun a Glannau Dyfrdwy, ac ychydig dros ffin yr etholaeth yn Nelyn, lle y cawsom gyfle i drafod Brexit mewn cynhadledd fusnes Brexit, gyda dros 150...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn dechrau, hoffwn roi gwybod i'r Siambr y buaswn yn hoffi rhoi munud yr un o fy amser i David Melding, Mohammad Asghar a fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore. Mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon heddiw ar iechyd meddwl yn y gweithle, yn enwedig yng ngoleuni contract economaidd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i Weinidog yr Economi a...
Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chymorth i fusnesau yng ngogledd Cymru yn dilyn Brexit?
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad economaidd yng ngogledd Cymru?
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith digidol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Jack Sargeant: A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Aelod dros Ynys Môn am godi'r cwestiwn brys pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Gweinidog am ei ymateb? A gaf i hefyd ychwanegu bod fy nghydymdeimlad gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad diweddar hwn? Rwyf wir yn gobeithio y gallwn ni ddod o hyd i ateb o ran y mater hwn, oherwydd mae'r bobl leol a'r cymunedau lleol ar yr ynys, ond hefyd y...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyfaill ar draws y Siambr, Nick Ramsay, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Ac rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi eistedd y bore yma gyda'r Gweinidog Cyllid i drafod y mater pwysig hwn, sy'n cael ei ddwyn i fy sylw ar bob achlysur bron pan fyddaf yn cyfarfod ag aelodau o lywodraeth leol yng ngogledd Cymru. Mae hon, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r...
Jack Sargeant: Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl braidd yn danllyd hon heddiw. Ers y refferendwm, ac ers dod i'r Cynulliad, rwyf wedi gwneud popeth a allwn i geisio uno'r bobl a bleidleisiodd dros adael a'r rhai a bleidleisiodd dros aros yn yr UE yn fy etholaeth. Byddai'n naïf dyfalu'n union pam y pleidleisiodd pob person yn y modd y gwnaethant, er fy mod yn credu rhai o'r sylwadau a...
Jack Sargeant: —i'w gweld yn amharod i gyfaddawdu. Iawn, fe wnaf.
Jack Sargeant: Diolch, Joyce, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi yno, ac rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon fod angen i gyni ddod i ben, a daw hwnnw'n uniongyrchol o Lundain. I fwrw ymlaen, nid wyf yn fodlon gweld rhanbarth Gogledd Cymru yn dioddef chwaith, Lywydd, ac ni ellir ac ni ddylid tanbrisio effaith gogledd Cymru ar economi Cymru. Mae gennym ni yng ngogledd Cymru gyfradd gyflogaeth uwch, lefelau...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy ffrind Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon a chaniatáu imi ddilyn yr araith agoriadol wych honno? Nid oes gennyf gerdd, ond rwy'n croesawu'r cyfle i rannu fy meddyliau. Mae'r holl faterion y soniodd Bethan amdanynt yn costio bywydau mewn gwirionedd. Maent yn achosi torcalon a gofid i bobl ag anhwylderau bwyta a mathau eraill o salwch iechyd meddwl a'u...
Jack Sargeant: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw? Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaethoch i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd. Hoffwn ymuno hefyd â Jenny Rathbone i dalu teyrnged i'r rhai sy'n helpu gyda'r sefyllfa hon sydd gennym ni o ddydd i ddydd. Mae'n achos gofid mawr i mi, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, fod cysgu allan yn...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddweud fy mod yn falch iawn o gefnogi'r cynnig heddiw? A diolch i David Rees, fy nghyd-Aelod, am gyflwyno'r ddadl hon, ond nid yn unig am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond am eich ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru drwy eich gwaith yn y Siambr a'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw dros y diwydiant dur yn gyffredinol, ond...