Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o effeithiau posibl Brexit ar gadwyni cyflenwi yng Nghymru? OAQ53805
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ers refferendwm 2016, mae'r sector modurol yn y DU wedi cyhoeddi eu bod yn cau nifer o safleoedd. Mae'r ddadl ynglŷn ag i ba raddau y mae Brexit ar fai yn parhau, ond yn y cyfamser, mae gan bobl bryderon gwirioneddol ynglŷn â'u swyddi. Mae cau ffatri Honda yn Swindon yn peri cryn bryder imi, gan mai un o'u cyflenwyr cydrannau yw ffatri Kasai ym Merthyr...
Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn y broses o ddatrys yr anghydfod yn ymwneud ag atal uwch swyddogion gweithredol yng Nghyngor Caerffili?
Delyth Jewell: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer llwybr du arfaethedig yr M4? OAQ53922
Delyth Jewell: Diolch am eich ateb, Weinidog. Os, yn ôl y disgwyl, y bydd y Prif Weinidog yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r llwybr du yn dilyn datganiad eich Llywodraeth ar yr argyfwng hinsawdd, a allwch gadarnhau y bydd yr arian a glustnodwyd ar gyfer y prosiect ar hyn o bryd—a chyfeiriaf yn benodol at yr arian sydd ar gael drwy bwerau benthyca—ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer prosiectau...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, ceir consensws cyffredinol nad yw Cymru'n gwneud digon i ymgysylltu â Chymry alltud. Mae'n debygol fod degau o filiynau o bobl o dras Cymreig yn byw ledled y byd, gan gynnwys dros 10 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau'n unig, yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2006. Gallai ymgysylltu'n well â Chymry alltud gynyddu proffil Cymru, darparu arbenigedd, denu buddsoddiad a...
Delyth Jewell: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae ymgysylltu â Chymry alltud hefyd yn hollbwysig er mwyn hybu proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, fel y dywedoch. Mae memyn poblogaidd ar-lein ar hyn o bryd sy’n dangos cwpl o Americanwyr—nid wyf am geisio dynwared eu hacen, ond maent yn gofyn i'w ffrind a yw'n dod o Loegr neu Gymru, a phan fydd yn ateb, 'Dim un; rwy’n Gymro', maent yn edrych yn...
Delyth Jewell: Hoffwn droi yn awr at gysylltiadau masnach, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd economaidd Cymru, yn enwedig o ran allforion. Nodais gyda diddordeb eich taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau, lle buoch yn dadlau’r achos dros fewnfuddsoddi drwy werthu Cymru fel lle deniadol i wneud busnes. Roedd hwnnw’n gam calonogol. Ond tybed a yw polisi Brexit eich Llywodraeth yn...
Delyth Jewell: Rwy'n falch o groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid eich polisi. Dyw e ddim yn reaffirmation, fel yr oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud yn gynharach, mae yn newid polisi ar yr angen i gynnal refferendwm er mwyn rhoi'r penderfyniad terfynol am ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn nwylo'r bobl. Dwi ddim yn sicr faint o weithiau rydym wedi trafod y mater yn y Siambr hon gyda'r...
Delyth Jewell: Mae gennym ni farn gyffredin ynglŷn â sut y dylai cymorth gwladwriaethol weithio.
Delyth Jewell: —shared view, hynny yw, gyda Llywodraeth San Steffan. Mae Plaid Cymru yn cytuno bod state aid yn fater datganoledig, gan ei fod ddim wedi ei restru yn Neddf Cymru fel pŵer sydd wedi ei gadw yn ôl. Ond, allwch chi esbonio sut mae'ch Llywodraeth chi, dan arweinyddiaeth sosialydd, yn rhannu gweledigaeth â Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ynglŷn â sut ddylai state aid weithio? Pam nad...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n addo bod yn un fywiog. Mae'n fater y mae bron bawb yn teimlo'n gryf eu bod yn iawn yn ei gylch, ac mae cymaint yn y fantol. Mae'r cynnig ger ein bron yn galw ar y lle hwn i ddatgan ei gefnogaeth ddigamsyniol i refferendwm cadarnhau. Do, rydym wedi galw am eglurder diamwys heb ei gymylu gan amgylchiadau posibl, oherwydd dyn a ŵyr, mae polisïau'r...
Delyth Jewell: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Delyth Jewell: Rwy'n dod o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, ac roeddwn hefyd yn gweithio i Cyngor ar Bopeth pan gynhaliwyd y refferendwm, felly gallaf ddeall eithaf tipyn ynglŷn â pham y pleidleisiodd pobl dros adfer rheolaeth mewn gwirionedd.
Delyth Jewell: I egluro hynny, dywedais fy mod yn credu bod pawb bron yn credu eu bod yn iawn ar y mater hwn, oherwydd ei fod yn rhywbeth y maent yn teimlo mor gryf yn ei gylch. Nid wyf o reidrwydd yn gwneud sylw ar hynny.
Delyth Jewell: Hoffwn ddechrau gyda neges syml: bu croeso erioed i ymfudwyr yng Nghymru a dyma fydd yr achos o hyd yn y dyfodol. Mae croeso i chi, cewch eich gwerthfawrogi, a bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio i amddiffyn eich hawliau. Bob wythnos, rydym ni'n trafod yn y Siambr hon y peryglon i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Brexit, a dyma ni eto'n trafod newidiadau enfawr a gynigiwyd gan...
Delyth Jewell: Yn rhy aml mewn dadleuon fel hyn sy'n canolbwyntio ar gyllid, gallwn ganolbwyntio gormod ar fanylion y canrannau a'r ffigurau yn y pellter sy'n ymddangos mor bell ei bod yn anodd olrhain eu perthynas â bywydau pobl. Mewn gwirionedd, bydd y cynigion yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, hynny yw, sut y bydd cronfeydd yn cael eu dyrannu ar ôl Brexit i helpu ein cymunedau, yn cael effaith annileadwy...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae Donald Trump wedi dweud y byddai am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â chytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA. Yn ddiweddarach, fe dynnodd yn ôl ar hyn, ond mae'r ffaith bod ei lysgennad i'r DU, Woody Johnson, hefyd wedi dweud yr un peth yn dangos yn glir beth fydd blaenoriaethau'r UDA os a phan fydd trafodaethau masnach yn...
Delyth Jewell: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rydych yn sôn am fecanweithiau a thrafodaethau heb lawer o fanylion yn y fan honno, ond rwy'n credu efallai mai'r rheswm am hynny yw mai ychydig iawn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn y GIG pe bai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu ei werthu. Mae'n amlwg y byddai Plaid Cymru yn eich cefnogi pe baech chi, fel y dywedodd y Gweinidog...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, a diolch i chi am droi'r craffu arnaf yn ôl arnaf fi yn y fan honno, ond fel yr eglurasom mewn dadleuon yn y gorffennol yn y Siambr hon, cafodd pwerau caffael cyhoeddus eu hildio yn rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, a buaswn yn croesawu trafodaeth bellach gyda chi ar hynny. Ond i ddod yn ôl at y cwestiwn, ac fel rydych newydd gydnabod, gwyddom bellach nad oes fawr...