Canlyniadau 581–600 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

4. Cwestiynau Amserol: Gwaith Trostre yn Llanelli ( 3 Ebr 2019)

David Rees: Weinidog, rwy'n gobeithio bod eich pwynt olaf yn wir, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n dod yn endid masnachol ar wahân a byddant yn edrych am y fargen rataf y gallant ei chael, nid o reidrwydd y fargen orau y gallant ei chael. Felly, yn amlwg, mae'r goblygiadau ar gyfer Port Talbot yn ddifrifol ac rydym yn pryderu ynglŷn â Phort Talbot, ond hefyd am y gweithwyr yn Nhrostre, oherwydd mae'n...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ( 3 Ebr 2019)

David Rees: Lywydd, hoffwn ddiolch yn swyddogol i'r Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwy'n cytuno â barn Darren Millar, ac rwy'n cydnabod hynny. Cyflwynwyd y ddadl hon yn yr ysbryd o weithio i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae hynny'n hollbwysig. Y mis diwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl pan drafodwyd yr adroddiad....

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Negodiadau Brexit (30 Ebr 2019)

David Rees: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog dros Brexit—am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i hefyd ategu Delyth Jewell a chefnogi'r sylwadau am waith caled ac ymroddiad y gweision cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn, ac sydd wedi bod yn gweithio arno ers misoedd lawer? Rydych chi wedi nodi'n glir yn eich datganiad y llanast yr ydym ni'n ei weld yn sgil...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (30 Ebr 2019)

David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda TATA ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anghenion Iechyd a Lles Disgyblion ( 1 Mai 2019)

David Rees: Weinidog, mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i'r ysgol. Mae angen i ni edrych hefyd ar golegau addysg bellach yn ogystal â cholegau ôl-16, lle nad oes amser gorfodol o reidrwydd. Ond gall cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a gweithgareddau corfforol anghystadleuol eraill helpu ysgolion a cholegau i sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'u hagendâu iechyd a...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglenni Sgrinio ar gyfer Canser ( 1 Mai 2019)

David Rees: Weinidog, mae'n amlwg bod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn faes pwysig. Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol yn seiliedig ar sensitifrwydd, ac mewn gwirionedd, bydd lefel y sensitifrwydd yn hanfodol yn hynny o beth, ond hefyd yr oedran, o bosibl, oherwydd ar hyn o bryd, 60 yw'r oedran hwnnw ond gallai ostwng i 50, ond ceir profion ceg y groth hefyd. Felly, ceir amrywiaeth o brofion sy'n...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol' ( 1 Mai 2019)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw, gan nodi ein hadroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, a gwneud y cynnig. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma yw ail gam ein gwaith mewn gwirionedd, oherwydd yn 2018, cyhoeddasom adroddiad, sef cam 1, a ganolbwyntiai ar Ewrop, ac mae hwn wedi mynd yn ehangach i edrych ar Ewrop a'r byd? Cyn imi ddechrau fy araith, a...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol' ( 1 Mai 2019)

David Rees: Nawr, canfu ein gwaith fod gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, o ran ymgysylltiad rhyngwladol, wedi bod yn rhy dameidiog yn ein barn ni, ac yn anghydlynol, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld y newid hwn. Gwnaethom gyfanswm o 11 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi nodi eu bod wedi derbyn y cyfan ohonynt yn llwyr neu mewn egwyddor—er ein bod bob...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol' ( 1 Mai 2019)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am ymateb y Gweinidog a thynnu sylw at ambell beth? Rwy'n credu mai'r themâu cyffredin a welsom drwy gydol y cyfraniadau oedd pwysigrwydd pŵer meddal a sut y gall hynny adeiladu a helpu Cymru yn y dyfodol, a hefyd mater y Cymry alltud a sut y mae hynny'n gweithio. Ac nid ydym wedi defnyddio hynny er...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 1 Mai 2019)

David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella amseroedd aros ysbytai?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Llanw yng Ngorllewin De Cymru (14 Mai 2019)

David Rees: Prif Weinidog, tynnodd Dai Lloyd sylw at y ffaith y gallai cynigion ynni'r morlyn llanw greu sector newydd o ddiwydiant ar draws rhanbarth de Cymru ac, yn amlwg, cefnogi diwydiannau eraill yno hefyd, gan gynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot. Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am fethiant y fenter ar y cyd sy'n debygol o ddigwydd rhwng Tata a Thyssenkrupp, mae hyn yn bosibilrwydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ehangu Gradd-brentisiaethau (14 Mai 2019)

David Rees: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu gradd-brentisiaethau? OAQ53873

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ehangu Gradd-brentisiaethau (14 Mai 2019)

David Rees: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw? Yn amlwg, mae prentisiaethau wedi cael eu cysylltu â chymwysterau addysg ers blynyddoedd lawer—ONC, HNC—a nawr mae'r prentisiaethau gradd yn gam ymlaen ac i'w croesawu'n fawr. Ond, deallaf yng Nghymru, fod gennym ni ddau fframwaith sy'n weithredol ar hyn o bryd ac nid ydym ni wedi ehangu'r ddau fframwaith hynny hyd yn hyn. Rwy'n falch...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwasanaethau Cynghori (14 Mai 2019)

David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau cynghori'n cael eu cefnogi'n llawn am weddill y pumed Cynulliad? OAQ53857

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwasanaethau Cynghori (14 Mai 2019)

David Rees: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg eu bod yn chwarae rhan bwysig. Y llynedd, clywsom ni'r Prif Weinidog yn honni bod cyni wedi dod i ben; wel, roedd hi'n anghywir, yn yr un modd a'i bod yn anghywir am bopeth arall. Nid yw cyni wedi dod i ben ac mae llawer o etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru sy'n dal i ddioddef o dan ideoleg cyni'r Llywodraeth Dorïaidd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Mai 2019)

David Rees: Trefnydd, yn amlwg, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf fod cyd-fenter Tata â ThyssenKrupp mewn perygl ac yn annhebygol o fynd yn ei blaen a'u bod yn atal proses y gyd-fenter, a gawn ni alw am ddatganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—ond, a dweud y gwir, byddai'n well gen i ei gael gan y Prif Weinidog, gan fy mod i'n credu bod hyn mor bwysig â hynny—ynglŷn â'r...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Llygredd Aer yng Ngorllewin De Cymru (15 Mai 2019)

David Rees: Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn droeon am lygredd yn fy etholaeth yn sgil allyriadau diwydiannol. Un o'r agendâu yr hoffem edrych arnynt yw effaith gronnol unrhyw gynnig a gyflwynir ar gyfer unrhyw losgydd neu unrhyw agwedd arall, i edrych ar sut y mae hynny'n effeithio ar y gymuned yn ogystal â'r hyn sydd yno'n barod. A wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-aelod o'r Cabinet, Julie James,...

3. Cwestiynau Amserol: Tata Steel a Thyssenkrupp (15 Mai 2019)

David Rees: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal? 310

3. Cwestiynau Amserol: Tata Steel a Thyssenkrupp (15 Mai 2019)

David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw a'r ymrwymiad y mae wedi'i roi i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? Nawr, yn 2016 ar ddechrau hyn, bydd llawer yn cofio inni weld y bygythiad i gau gwaith Port Talbot. Yn dilyn y penderfyniad gan Tata wedyn i beidio â'i gau, yn yr ymrwymiad i geisio cael cyd-fenter neu uno â ThyssenKrupp, gan nodi mai'r cynnig hwnnw a fyddai'n rhoi dyfodol...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (15 Mai 2019)

David Rees: Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei rhaglenni gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ers dechrau datganoli?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.