Vikki Howells: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i staff y Comisiwn am y ffordd y maent wedi cefnogi Aelodau o'r Senedd yn ystod y pandemig, ac wrth gwrs, i staff cymorth yr Aelodau o'r Senedd, gan y gwn eu bod wedi mynd y tu hwnt i bob galw i gynorthwyo etholwyr i ymdrin ag ystod o ymholiadau pwysig. Pa asesiad a wnaed gan y Comisiwn o effaith y pandemig ar ein staff gwych...
Vikki Howells: Hoffwn eich llongyfarch, Trefnydd, ar eich swyddogaeth newydd hefyd. Trefnydd, ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ'r Cyffredin ei adroddiad ar gynllun pensiwn y glowyr, ac roedd ei ganfyddiadau'n llwm. Dyfynnaf: 'Mae'n hollol amlwg...bod Llywodraeth y DU wedi elwa heb hawl ar drefniadau'r cynllun ac mae'n anniffynadwy i'r Llywodraeth...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, hefyd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, a bydd athrawon, myfyrwyr a rhieni ledled Cymru yn croesawu ei gynnwys a'i gywair, rwy'n siŵr. Ac fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn iawn am y baich y mae biwrocratiaeth yn ei roi ar ein staff addysgu, a sut y mae'r baich...
Vikki Howells: Diolch.
Vikki Howells: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau economi Cymoedd y de yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56537
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd. Roedd tasglu'r Cymoedd yn ymyrraeth galonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ystod pumed tymor y Senedd, ac arweiniodd at lawer o fanteision gwirioneddol i fy etholaeth yng Nghwm Cynon, gan gynnwys £1.5 miliwn i Barc Gwledig Cwm Dâr, creu hyb gweithio o bell yn Aberpennar, a phrosiect bwyd dim gwastraff cyffrous iawn yn Aberdâr. Pa gynlluniau...
Vikki Howells: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod yng Nghymru sy'n profi'r menopos? OQ56536
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd. Mae'r menopos, wrth gwrs, yn gyflwr a fydd yn effeithio ar hanner poblogaeth Cymru ar ryw adeg yn eu bywydau, gyda symptomau'n cynnwys problemau cysgu, problemau gyda chanolbwyntio, problemau treulio a chymalau stiff a phoenus. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod saith o bob 10 menyw yn dweud bod y menopos yn effeithio'n sylweddol ar eu lles...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Ewch yn ôl ychydig wythnosau'n unig a byddai trenau dosbarth 143, y Pacers, wedi bod yn rhan o'r rhestr hir honno o weithredoedd dros dro sydd wedi aros gyda ni. Cyflwynwyd y Pacers, enw a ddaeth i gyfleu anghysur cymudo a gwasanaethau hwyr cronig, fel ateb dros dro yn lle trenau diesel hŷn. Nid oedd y corff bws Leyland—mae'n wir mai o hen fysiau y cawsant eu...
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Tri chwestiwn byr. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fwrw ymlaen â chynllun treialu incwm sylfaenol. A wnewch chi roi rhagor o fanylion am hyn, yn enwedig ynghylch meini prawf daearyddol? Rwy'n gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi mynegi parodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun treialu, felly byddwn i'n ddiolchgar os...
Vikki Howells: Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol, yr ICA, ystyriaeth bwysig o sut y gellir ailadeiladu economi cymunedau hŷn Prydain. Roedd yr adroddiad yn cynnig casgliadau a oedd yn effeithio ar dros chwarter poblogaeth y DU a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn, a chyfran fwy fyth o ddinasyddion yng Nghymru, gydag argymhellion a fyddai'n effeithio ar 12 o'r 22 ardal cyngor...
Vikki Howells: 7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu cyfleoedd ar gyfer addysg awyr agored yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56598
Vikki Howells: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gall dysgu yn yr awyr agored ddod â chymaint o fanteision i ddysgwyr o bob oed a gallu. Fodd bynnag, efallai y gellir gweld y manteision mwyaf ymhlith dysgwyr sydd wedi cael trafferth i ymsefydlu mewn lleoliadau addysgol prif ffrwd. Mae hyn yn arbennig o wir am leoliad addysgol awyr agored yn fy etholaeth i, Cynon Valley Organic Adventures, sydd wedi'i...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Mae'r degfed o Fehefin 2021 yn nodi canmlwyddiant ffurfio Côr Meibion Cwm-bach. Mae'r 16 mis diwethaf wedi bod yn heriol i gorau ledled Cymru, ond mae Côr Meibion Cwm-bach wedi goroesi'r pandemig, fel y mae wedi goroesi holl galedi'r ganrif ddiwethaf—wedi goroesi ac wedi dod yn gryfach, gan wneud Cwm-bach yn un o gorau blaenllaw Cymru. Maent wedi mwynhau cryn lwyddiant...
Vikki Howells: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau urddas mislif, ac yn benodol o ran pryd y mae'r Gweinidogion yn disgwyl gallu cyflwyno eu cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif? Rwy'n croesawu'r £3.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eto i'r mater hwn, a hefyd yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ond rwy'n awyddus i weld...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Nodaf eich sylwadau ar ffyrdd yn y dyfodol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau a phrofion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y gall y panel eu pennu, felly a allech roi unrhyw gyd-destun ehangach inni, gan ychwanegu at eich atebion cynharach i Delyth Jewell a Cefin Campbell, ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn ffordd dda sy'n addas ar gyfer...
Vikki Howells: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56657
Vikki Howells: Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld cyfeiriad yn y rhaglen lywodraethu at wahardd defnyddio maglau, mater rwyf wedi ymgyrchu drosto ers i mi gael fy ethol am y tro cyntaf yn 2016. Fel y gwyddom, mae maglau'n achosi dioddefaint diwahân i anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a rhywogaethau a warchodir fel ei gilydd. A allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â phryd y bydd...
Vikki Howells: Mae'n bleser cefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan fy nghyfaill yr Aelod dros Ogwr heddiw. Pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, deuthum o hyd i ffigur ar StatsCymru a'm syfrdanodd ac a danlinellai bwysigrwydd y ddadl heddiw, sef nifer teithiau teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul y pen o'r boblogaeth yn 2019-20. Ar gyfer Lloegr, roedd yn 72.3, yr Alban 67, ac i Gymru...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae cynllun paru swyddi arbrofol Cymru'n Gweithio yn swnio'n gadarnhaol iawn o ran integreiddio'r cyflenwad a'r galw. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau, serch hynny, fod swyddi gwag a gynigir yn swyddi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol, a hefyd bod cyfleoedd cyflogaeth mewn cymunedau fel Cwm Cynon yn cael eu hehangu a'u meithrin fel nad ydym yn gweld...