Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Fel y gŵyr, rwy'n credu, mae byrddau iechyd bellach yn derbyn, ers 2017, £3.8 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau mewn amseroedd aros a gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac ers 2019, mae cyllid wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd yn benodol er mwyn ad-drefnu gwasanaethau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar fel y gellir gweithio tuag at...
Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn, James. Credaf fy mod eisoes wedi nodi'r buddsoddiad sylweddol iawn rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta er mwyn eu trawsnewid ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n gadarn iawn ar ymyrraeth gynnar. Rydym yn buddsoddi £3.8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, ac mae hynny wedi parhau ers 2017. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn, gan y gwelsom gynnydd yn ystod...
Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn atodol, Mike. Dywedasom yn glir, pan gyhoeddwyd adolygiad Tan, na fyddai'r newidiadau'n digwydd dros nos, o ystyried nifer a chynnwys yr argymhellion, a dyna pam ein bod wedi parhau i fuddsoddi swm mor sylweddol o gyllid er mwyn gweithredu argymhellion Tan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel rydych wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau anhwylderau bwyta o ganlyniad i'r...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i gofnodi fy nghydnabyddiaeth o ymrwymiad bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i barhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Hoffwn gydnabod ymroddiad y staff ar lawr gwlad yng ngogledd Cymru, sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i gleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl. Bydd yr Aelodau’n cofio inni drafod y...
Lynne Neagle: Mae rhai'n awgrymu y bu rhyw fath o oedi rhwng cynhyrchu'r adroddiad a rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y gwyddom, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon ynghylch ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ni fu unrhyw oedi. Mewn...
Lynne Neagle: —yr ymateb i argyfwng. Fodd bynnag, nid oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar y rhan fwyaf o bobl mewn trallod emosiynol. Yn aml, cymorth ar gyfer anghenion cymdeithasol a lles ehangach sydd ei angen arnynt, ac rwyf wedi ymrwymo i arwain dull amlasiantaethol a thrawslywodraethol o wneud hyn. Mae'r cynnig hwn yn gofyn inni sicrhau Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Rydym wedi cytuno...
Lynne Neagle: Nid yw'r cynnig hwn yn cydnabod y gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yn hytrach, mae'n ceisio taflu bai. Nid yw'n cefnogi'r sefydliad. Nid yw'n cefnogi'r staff gweithgar a phenderfynol ar lawr gwlad—y staff y buom yn eu cymeradwyo ar garreg y drws heb fod mor bell yn ôl â hynny. Nid yw'n cydnabod y gwelliannau a wnaed yn y gwasanaethau yn y blynyddoedd ers adroddiad...
Lynne Neagle: Diolch. Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Nid wyf wedi gweld yr astudiaeth y cyfeirioch chi ati, er fy mod wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng bod dros bwysau a'r cynnydd yn y risg o gael COVID difrifol. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr â'ch awgrym mai dim ond strategaeth arall gan Lywodraeth Cymru yw ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym yn buddsoddi £6.6 miliwn bob...
Lynne Neagle: Wel, o ran y cynllun cyflawni rydym wedi bod yn ei ddilyn, bu'n rhaid ei addasu oherwydd effaith y pandemig. Heb os, mae'r pandemig wedi cael effaith ar ein gallu i weithredu yn y maes hwn ac fel y dywedais eisoes, mae wedi gwaethygu'r problemau gyda gordewdra a phobl dros bwysau. Nodais y ffigurau rydym yn eu buddsoddi, sy'n sylweddol iawn, yng nghyfarfod y pwyllgor plant yr wythnos...
Lynne Neagle: Diolch, James. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, rydym wedi bod yn treialu'r rhaglen atal diabetes, a'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ehangu'r rhaglen honno ar draws Cymru. Ond nid dyna'r unig fesur rydym yn ei roi ar waith i atal diabetes math 2. Mae gennym hefyd lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan, sy'n cynnwys plant ac oedolion, a chredaf na ddylem anghofio ein bod, yn...
Lynne Neagle: Diolch, Buffy. Mae'r hybiau datblygu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf yn enghreifftiau da o brosiectau sy'n ymgorffori egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol.
Lynne Neagle: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, Buffy. Fel y gwyddoch, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod darpariaeth dda ym mhobman mewn gwirionedd, nid mewn pocedi yn unig. Ceir rhai enghreifftiau gwych o bresgripsiynu cymdeithasol, ac rwy'n frwd fy nghefnogaeth i fudiad Men's Shed. Rydym wedi dweud yn glir iawn,...
Lynne Neagle: Diolch, Mark. Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn unol â’r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018. Rydym wedi cynyddu buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017 i gefnogi gwelliannau teg i wasanaethau, gan gynnwys cynyddu triniaeth a chymorth cymunedol a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.
Lynne Neagle: Diolch, Mark. Fel y dywedoch chi, nododd adolygiad 2018 agenda radical ar gyfer newid, ond roeddem yn glir iawn y byddai’n rhaid gwneud hynny fesul cam. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Beat; rydym yn rhoi £100,000 i Beat. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Beat am y cymorth hynod bwysig y maent yn ei ddarparu fel sefydliad trydydd sector. Ni chefais gyfle i gael mwy na...
Lynne Neagle: Diolch. Darperir cymorth iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan y GIG ac amrywiaeth o bartneriaid. Mae rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu manteision pellach.
Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr unigolyn ifanc y cyfeirioch chi ato. Rwy'n falch iawn o weld unrhyw sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan hunanladdiad neu i atal hunanladdiad. Nid wyf yn gyfarwydd â'r sefydliad hwn fy hun, ond rwy’n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith a wnânt. Yn ddiweddar, caeodd cylch ceisiadau am...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf iawn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n cael ei wneud o dan ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22, wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Nod cyffredinol y cynllun cyflawni yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, James, am y geiriau caredig hynny, y croeso i'r datganiad ac am gydnabod y gwaith cadarnhaol, a hefyd am eich cwestiynau. Mae'n galonogol iawn eich clywed yn dweud eich bod chithau hefyd yn awyddus iawn i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n gysylltiedig ag iechyd o ran materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Dyna'r ethos sy'n llywio ein...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Peredur, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddod i'r grŵp trawsbleidiol, i un o'ch cyfarfodydd yn y dyfodol, ac rwy'n cydnabod bod hwn yn faes yr ydych yn teimlo'n angerddol amdano, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda chi. Rwy'n cytuno'n llwyr eto â'ch sylwadau am yr angen i beidio â throseddoli pobl. Yn anffodus, nid yw'r ymgysylltiad a gawsom gan...