Canlyniadau 581–600 o 1000 ar gyfer speaker:David Melding

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Carchardai (13 Meh 2018)

David Melding: Fel un arall o gyn-fechgyn etholiadol Blaenau Gwent, os mai dyna'r ffordd iawn o'i roi, credaf mai llwyddiant cyfyngedig a gafodd pawb ohonom. Cafodd hynny ei drawsnewid gennych chi yn ddiweddar, ond yn sicr apêl gyfyngedig a oedd i mi a Mr Lee. A gaf fi gymeradwyo gwaith Robert Jones, gŵr yr wyf yn ei adnabod—ac rwyf wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr yma...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru' (13 Meh 2018)

David Melding: Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon (19 Meh 2018)

David Melding: Prif Weinidog, rydym ni eisoes yn gweld, o'r ystadegau poblogaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac Aberdâr, sy'n bwysig iawn, bod cynnydd i'r boblogaeth o bobl sydd rhwng 30 a 40, gan fod rhai pobl yn adleoli i'r ardaloedd hynny i brynu tai maint teulu. Mae hyn yn arwain at gymysgedd gymdeithasol fwy o faint a mwy amrywiol, sydd ei hun yn adfywio ardaloedd fel Aberdâr. Ond un rhan hanfodol o...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Anwes (19 Meh 2018)

David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu'r datganiad? Rwy'n credu bod yr egwyddor o berchnogaeth gyfrifol a grybwyllir tuag at ddiwedd eich datganiad yn allweddol, ond rwyf yn credu bod angen gwneud mwy â hynny. Mae nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Gareth Bennett, wedi sôn am yr angen am addysg, ac wedi'r cyfan, perchnogion anifeiliaid anwes sydd yn mynd i allu...

7. Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018 (19 Meh 2018)

David Melding: A gaf i ddweud ein bod yn awyddus iawn i gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n gwahardd microbelenni o gynhyrchion hylendid personol. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u pasio eisoes, ac yn wir y maen nhw'n dod i rym heddiw yn Lloegr ac yn yr Alban. Felly, rydym ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn yr un modd. Felly, o leiaf, yn y DU, bydd gennym ymagwedd gyson. Rwy'n credu bod hwn yn gam...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllid Strwythurol yr UE (20 Meh 2018)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a ydych wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad yr Athro Graeme Reid ar gyllid ymchwil. Daw i'r casgliad, Rwyf wedi nodi cryfderau ac asedau cenedlaethol mawr ym mhrifysgolion Cymru ac mewn canolfannau ymchwil ac arloesi a ddatblygwyd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf ond nid wyf yn argyhoeddedig fod potensial yr asedau hyn yn cael ei wireddu'n llawn er budd...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Arloesi ar Draws y Sector Cyhoeddus (20 Meh 2018)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi gefnogi galwad Lee Waters a'ch atgoffa, o dan strategaeth ddigidol y DU, fod ganddynt bartneriaeth sgiliau digidol, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol? Onid ydych yn cytuno y dylem fod yn canolbwyntio ar ddull traws-sector o ysgogi...

4. Cwestiynau Amserol: Colli Swyddi ym Mharclays yng Nghaerdydd (20 Meh 2018)

David Melding: Fel pawb arall, rwy'n ystyried bod penderfyniad Barclays yn gwbl annealladwy, ac mae gennyf gydymdeimlad â chi; mae'n anodd iawn meddwl sut y gallwch ragweld penderfyniad mor afreolus. Rwy'n meddwl bod yr hyn a ddywedwch ynghylch cadernid y sector yn allweddol, oherwydd mae swyddi'n parhau i gael eu cynhyrchu, ac efallai yn erbyn y disgwyl gydag awtomatiaeth, mae'r gwasanaeth yn dod yn fwy...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y—

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn eich llongyfarch ar ba mor gyflym y newidioch chi eich meddwl yno? Ar ddau achlysur, anghofiais alw ar Ann Jones pan oedd yn Gadeirydd pwyllgor perthnasol, ac roeddwn yn teimlo mor ddrwg yr ail dro, prynais focs o siocledi iddi. [Chwerthin.] Nid wyf yn awgrymu bod hwnnw'n gynsail.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

David Melding: Ni chywirais fy hun yn gyflym iawn, felly roedd fy nghamgymeriad yn fwy difrifol. A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am arwain y ddadl heddiw a chael consensws gwirioneddol dda? Roeddwn yn meddwl fod UKIP hyd yn oed gyda ni, ond oni bai bod eu gwelliant yn pasio, nid yw'n ymddangos y byddant yn llwyddo i'n cefnogi, ond rydym newydd glywed cyfraniad adeiladol i raddau helaeth. Rwy'n credu bod...

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (27 Meh 2018)

David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn am un peth yn benodol, sef y ffaith y byddai wedi bod yn bosibl cael cynnig heddiw y gallai'r Cynulliad cyfan fod wedi cytuno arno, rwy'n credu, oherwydd rydym o ddifrif yn siomedig gyda'r canlyniad ar y morlyn llanw ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i ni ailystyried pethau cyn gynted â phosibl yn y tymor canolig. Mae'n ddyletswydd ar y...

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (27 Meh 2018)

David Melding: Wel, wyddoch chi, dyna yw'r taro a'r gwrthdaro a geir mewn gwleidyddiaeth—

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (27 Meh 2018)

David Melding: Wel, gadewch i mi orffen fy mhwynt, diolch i chi, Leanne. Mae gwleidyddiaeth angen cymariaethau. Wrth wraidd Llywodraeth ddatganoledig, mae'r ddamcaniaeth eich bod yn edrych ar awdurdodaethau gwahanol ac yn dysgu ganddynt. Mae hynny'n bendant yn ddilys. Ond yr hyn nad ydych yn ei wneud ym model San Steffan—yn wir, mewn unrhyw system ddemocrataidd o lywodraethu—yw cael un ddeddfwrfa i...

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (27 Meh 2018)

David Melding: Carwn wneud y pwynt hwn yn unig. A gaf fi ychwanegu hyn, mewn ysbryd o gonsensws? Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ar faterion economaidd yn deilwng yn fy marn i. Ac ers 2010, rydym wedi gweld cynnydd o dros 18,000 yn nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y gallwch ddweud mai Llywodraeth y DU yn unig yw hynny, na Llywodraeth...

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (27 Meh 2018)

David Melding: Rydych yn hollol gywir yn dweud bod unrhyw Lywodraeth yn atebol i'r etholaeth am yr hyn y mae'n ei ddatgan mewn maniffesto. Nid wyf yn credu bod yr un Lywodraeth yn cyflawni popeth y mae'n bwriadu ei wneud, ac yn amlwg os ydych yn cyrraedd islaw pwynt penodol gallwch ddisgwyl ymateb deifiol gan yr etholaeth. Ond rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei gyflawni, a byddwn yn ei amddiffyn, ac rwy'n...

7. Dadl ar Ddeisebau P-04-472 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf' a P-04-575 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig' (27 Meh 2018)

David Melding: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

7. Dadl ar Ddeisebau P-04-472 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf' a P-04-575 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig' (27 Meh 2018)

David Melding: Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.