Canlyniadau 601–620 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Gwasanaeth Prawf ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Lywydd, yn fy ateb cynharach, dywedais fy mod wedi bod yn trafod y materion hyn ar lefel weinidogol a swyddogol ers peth amser, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir wrth yr Aelodau yma yn y gorffennol. Rwy'n cydnabod y cynnig a wnaed gan yr Aelod dros y Rhondda, ac rwy'n fwy na pharod i gynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn ystyried ailuno'r gwasanaeth prawf...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Cafodd blaenoriaethau cyffredin y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb, gan gynnwys y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, eu hamlinellu ddoe. Byddaf yn cyhoeddi setliad llywodraeth leol dros dro ar 9 Hydref.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Mi oedd yna ddatganiad ddoe gan y Gweinidog cyllid fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu'r codiad cyflog i athrawon yn llawn, ac mi fydd hynny yn digwydd fel rhan o'r setliad ac fel rhan o'r gyllideb y flwyddyn nesaf.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rwy'n cytuno â hynny, a bydd yr Aelod yn gwybod o'i brofiad ei hun fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'u diogelu mewn ffordd nad ydynt wedi cael eu diogelu yn Lloegr. Er ein bod yn cael sgyrsiau anodd iawn weithiau yn ein gwahanol gyfarfodydd â llywodraeth leol, wyddoch chi, rwyf eto i glywed arweinwyr llywodraeth leol yn dweud, 'Yr hyn sydd ei angen arnom yw'r polisïau sy'n cael eu...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Mae gofal cymdeithasol yn un o'r meysydd hynny yn y setliad rydym wedi ceisio sicrhau gwell diogelwch ar ei gyfer. Dywedodd y Gweinidog cyllid yn glir ddoe y byddwn yn buddsoddi £20 miliwn yn ychwanegol fel rhan o'r setliad ariannu ei hun, £30 miliwn yn ychwanegol drwy gyllid grant ychwanegol, a £30 miliwn arall yn rhan o'r bartneriaeth gofal cymdeithasol ar gyfer iechyd a llywodraeth...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Cyn ateb, Lywydd, a gaf fi groesawu llefarydd newydd y Ceidwadwyr i'w le? Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi croeso mwy brwd iddo nag y gwnaeth rhai o'i gyd-Aelodau y prynhawn yma. [Chwerthin.] Rwy'n teimlo y gallent fod wedi gwneud yn well yn hynny o beth. A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at lawer o sgyrsiau ac at ymwneud â chi, Mark, dros y cyfnod i ddod? O ran y grant y cyfeiriwch...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Byddwn yn gwerthuso'r cynlluniau braenaru ac yn edrych ar lawer o'r materion rydych wedi'u codi y prynhawn yma fel rhan o hynny. Cafodd yr adroddiad interim ei gyhoeddi heddiw, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwerthuswyr annibynnol i ddeall rhai o'r materion hynny cyn y bydd eu hadroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd ddechrau'r haf y flwyddyn nesaf. Ond...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Buaswn yn ymateb drwy gytuno â Sefydliad Bevan yn eu dadansoddiad. Yn amlwg, rydym angen y lefel honno o ddealltwriaeth o effeithiau tlodi ar bobl os ydym am ei drechu mewn ffordd fwy cyfannol. Efallai y gallwn ateb y cwestiwn gydag enghraifft sydd o fewn fy mhortffolio mewn gwirionedd, mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, lle'r ydym yn edrych ar yr union ystod honno o ddangosyddion i ddeall...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rwy'n gobeithio ein bod yn gweld cydweithio'n digwydd. Mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi cwblhau eu cyfnod cynllunio ac mae ganddynt raglenni y maent bellach am eu darparu. Yn amlwg, bydd gan bob rhaglen ei hamcanion ei hun, ac fe fyddwn ni—ac Aelodau ar draws y Siambr hon, rwy'n gobeithio—yn dwyn ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus ein hunain i gyfrif mewn perthynas â...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rwy'n gobeithio mai'r hyn a welwn yw deinameg wahanol gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Credaf eu bod yn fwy adeiladol na'r byrddau gwasanaethau lleol a oedd yn eu rhagflaenu. Rydym wedi gweld eu cynlluniau llesiant lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth eang yno, sy'n adlewyrchu dyheadau gwahanol byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n croesawu'r amrywiaeth honno. Rwy'n croesawu'r...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Nid wyf eisiau defnyddio terminoleg o'r fath i ddisgrifio'r ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio. A gaf fi ddweud hyn? Credaf fod llawer o gymhlethdod yn y ffordd rydym yn llywodraethu a'r prosesau a'r strwythurau sydd gennym. Un o fy uchelgeisiau ac un o fy amcanion yw lleihau ein cymhlethdod yn y Llywodraeth a lleihau faint o lywodraethu, os hoffech chi, sy'n digwydd yng...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Torri Gwasanaethau Cynghorau Lleol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol a’r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i gynghorau eu gwneud. Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ymateb gyda’n gilydd i’r heriau sy’n dod yn sgil y gyllideb sydd gyda ni. Mae’n bwysicach nag erioed bod awdurdodau lleol yn cynnwys pobl leol wrth bennu blaenoriaethau lleol ac yn y penderfyniadau hyn.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Torri Gwasanaethau Cynghorau Lleol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rydw i eisiau pwysleisio fy mod i'n cytuno â'i ddadansoddiad bod awdurdodau yn wynebu amser caled iawn, ac un o'r swyddi mwyaf anodd yng ngwleidyddiaeth ar hyn o bryd yw arwain awdurdod lleol—nid oes gennyf amheuon am hynny na dim amheuon chwaith am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Ond, a gaf i ddweud hyn hefyd: nid yw'r polisïau a arweiniodd at beth ddigwyddodd yn Northampton yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Torri Gwasanaethau Cynghorau Lleol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau ar y grant cynnal refeniw yr wythnos nesaf. Deallaf y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, ac yn sicr rwy'n deall y pwysau sy'n wynebu nifer o awdurdodau gwledig ar draws y wlad gyfan mewn perthynas â pharhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar draws ardaloedd sydd â phoblogaethau gwasgaredig iawn weithiau. Ond dywedaf hyn wrtho: roeddwn innau hefyd yn eistedd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Atal Tanau Trydanol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Cyhoeddais waith ymchwil manwl ar danau trydanol domestig ym mis Gorffennaf. Mae ein hawdurdodau tân ac achub yn gweithio gyda ni a chydag Electrical Safety First i ddeall beth sy'n eu hachosi ac i'w helpu i'w hatal.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Atal Tanau Trydanol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r darpariaethau a wnaed o dan y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi diweddar, a'n bwriad ni yw sicrhau bod y darpariaethau hynny'n cael eu gorfodi. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth i ddangos nad ydynt yn cael eu gorfodi, buaswn yn hapus iawn i fynd i'r afael â hynny gyda hi. Fe ddywedaf hyn: rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn tanau yn y sector domestig...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Atal Tanau Trydanol ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ers peth amser, rydym wedi ariannu tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru i ddarparu archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i ddeiliaid tai. Bydd y gwiriadau hyn yn cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch tân, yn ogystal â pheryglon eraill fel codymau, a deallaf fod oddeutu 60,000 o wiriadau o'r fath yn cael eu cynnal bob blwyddyn, ac maent yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ar gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Gan fod yr holl gynlluniau llesiant lleol wedi cael eu cyhoeddi bellach, mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio'n drwyadl ar y gwaith o'u darparu.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Fel Llywodraeth, rydym yn darparu pecyn cymorth cenedlaethol yn ogystal â rhaglen o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer cyllid rhanbarthol, a sesiynau galw heibio rheolaidd i alluogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus i brofi'r syniadau sy'n datblygu ganddynt. Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau bod y dull o weithredu byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ( 3 Hyd 2018)

Alun Davies: Ers tro, fy null o weithredu yn y rôl hon yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol; nid wyf yn credu bod honno'n ffordd gywir na phriodol i Weinidog ymateb, na rhoi sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Ond rwyf am ddweud hyn—rwyf am ddweud bod gwella canlyniadau iechyd yn rôl gwbl hanfodol i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, a bydd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.