Rhianon Passmore: Mae i'w groesawu'n fawr fod cefnogaeth drawsbleidiol yn Siambr y Senedd hon i anfon neges glir iawn o'n penderfyniad ar y cyd i ddileu hiliaeth ac i adeiladu Cymru wrth-hiliol ochr yn ochr â chenedl noddfa. Cefais fy nharo yn ddiweddar, fel y cafodd llawer o bobl eraill, gan y dadorchuddio hwnnw yng nghanol Caerdydd o'r cerflun o Betty Campbell, a'r diwrnod canlynol, ar dudalen flaen papur...
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57070
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn yn bryderus o weld bod ffigurau diweddar yn dangos bod troseddau casineb homoffobig wedi treblu ar draws y DU yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Yn wir, hyd at 31 Awst eleni, cafodd dros 150 o droseddau casineb LHDTC+ eu hadrodd i Heddlu Gwent. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod gan y rhai sy'n dioddef troseddau casineb hyder i...
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu sylwadau y Dirprwy Weinidog ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus annigonol i ysbyty'r Faenor. Mae consensws cynyddol ynghylch yr angen am weithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd y mae ein planed yn ei wynebu, er bod y Ceidwadwyr gyferbyn yn parhau i fod yn ddryslyd er bod Boris wedi newid o oren i wyrdd. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn uchelgeisiol,...
Rhianon Passmore: Rwy'n prysur ddod at y cwestiwn—
Rhianon Passmore: —cymaint o groeso y mae'r rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd wedi'i gael. Ddirprwy Weinidog, pa gamau y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd felly er mwyn cyfarfod â Llywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau bod Cymru'n cael yr arian mawr ei angen hwnnw i drawsnewid seilwaith sector cyhoeddus Cymru?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae'r pandemig a COP hefyd wedi dangos bod angen i Lywodraethau ledled y byd weithio'n agosach. Roedd uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gafodd ei chynnal gan Lywodraeth Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan eiconig, yn gyfle unigryw i Gymru ddangos gwerth sut yr ydym ni i gyd yn gryfach yn cydweithio gyda'n gilydd. Prif Weinidog, a gawsoch chi gyfle yn ystod...
Rhianon Passmore: Hoffwn i ddiolch hefyd i'n gweithwyr gofal iechyd eto ar yr adeg hon, a hefyd y rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu atgyfnerthu. Rwyf i yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y rhaglen atgyfnerthu yn cael ei hymestyn i bob oedolyn, y bydd pob plentyn yn cael cynnig ail ddos, a bydd lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu o chwech i dri mis. Gweinidog, mae...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i'r cyd-Aelodau canlynol o'r Senedd: Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths, Delyth Jewell, Sam Rowlands a Mike Hedges. Rwy'n croesawu cyfraniadau Aelodau trawsbleidiol y Senedd yn y ddadl bwysig hon heddiw yn fawr. Diolch yn fawr i chi i gyd. Rwy'n codi yn Siambr y Senedd hon yng Nghymru i alw am yr angen dybryd i gynnal Cymru gerddorol ar...
Rhianon Passmore: Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol ddiffuant ar draws y Siambr ar y mater hollbwysig hwn. Ddydd Sadwrn diwethaf, cefais y fraint o gymryd rhan yng nghynhadledd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion lle cynrychiolais y Senedd i drafod addysg cerddoriaeth ar draws y gwledydd datganoledig. Yn wir, mae gennym enw...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i dyfu busnesau bach a chanolig eu maint yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad ar y rhaglen lywodraethu yma heddiw, a'r ysbryd o gydweithredu a amlinellwyd. Roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo yn yr ymgyrch etholiadol i greu gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol newydd. Felly, braf oedd gweld y Gweinidog addysg yn cadarnhau y bydd £6.8 miliwn ar gael ar gyfer...
Rhianon Passmore: Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a chroesawu'r newyddion am ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Crosskeys i Gasnewydd, o ddydd Sul, 12 Rhagfyr, mewn pryd ar gyfer y Nadolig? Nid camp fach mo hon a dyma fydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol cyntaf i deithwyr o gymunedau Islwyn i Gasnewydd mewn bron i 60 mlynedd. Ers fy ethol, rwyf wedi ymgyrchu dros ailgysylltu...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A ydych yn credu mai gwaith eglwysi a mudiadau gwirfoddol yn unig yw darparu'r rhwyd ddiogelwch, fel y dywedwch, i'r rhai sydd â'r angen mwyaf?
Rhianon Passmore: A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am geisio mynd i'r afael â'r broblem anodd iawn a deimlir ym mhob cymuned ledled Cymru, a hefyd ymestyn y diolch hynny i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy? Gwyddom fod y DU yn cael ei gwasanaethu'n wael gan nifer o fanciau mawr sy'n anwybyddu adborth cwsmeriaid ac yn parhau i fabwysiadu polisi o gefnu ar fancio cymunedol. Yn wyneb gwrthwynebiad...
Rhianon Passmore: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'n hyrwyddwyr brechlyn yn y GIG. Gweinidog, gwyddom fod yr amrywiolyn omicron i bob pwrpas yn lleihau imiwnedd a gyflawnwyd gan ddau ddos o'r brechlyn i ddim byd bron yn achos Oxford-AstraZeneca ac i'r amddiffyniad lleiaf posibl rhag haint yn achos Pfizer, ond nid yw hynny'n golygu na fydd y dosau dwbl yn helpu pobl i frwydro yn erbyn...
Rhianon Passmore: 5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ57364
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Ddechrau mis Tachwedd, datganwyd bod Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar, sy'n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid adar caeth ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu eu hadar. Mae hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un aderyn rydych chi'n berchen arno, ac mae hwn yn gyfnod pryderus i geidwaid adar. Weinidog, beth yw'r ffordd orau y gall pobl...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, un o dasgau sylfaenol unrhyw lywodraeth yw diogelu bywydau a sicrhau iechyd cyhoeddus ei dinasyddion, ac mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cadw Cymru'n ddiogel yn ystod y pandemig byd-eang hwn. Gyda'r don omicron a ddaeth drosom ni, roedd angen mesurau iechyd y cyhoedd, a gwelwn arwyddion calonogol, gyda'r gyfradd heintio yn gostwng dros ddau ddiwrnod yn olynol. Prif...