Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y diffiniad o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n fater sydd wedi'i godi gyda mi ac rwyf i, yn fy nhro, wedi ysgrifennu atoch chi yn ei gylch—nad yw rhai mathau o weithwyr wedi'u cynnwys yn y cynllun cydnabod gofal cymdeithasol, er enghraifft, eiriolwyr a staff cymorth busnes. Yn ail, rwy'n...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gant a dau ddeg saith o flynyddoedd yn ôl ar 23 Mehefin 1894, digwyddodd ffrwydrad aruthrol yng nglofa'r Albion yng Nghilfynydd. Roedd y ffrwydrad i'w glywed bedair milltir i ffwrdd. Roedd y sŵn hwnnw a chwmwl trwchus o fwg sylffad rhagargoel erchyll o'r dinistr a oedd wedi digwydd. Cafodd strwythurau haearn eu rhwygo o'r tir, eu plygu fel gwifrau a'u saethu gryn...
Vikki Howells: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OQ56717
Vikki Howells: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, undeb rwy'n aelod ohono, wedi cynhyrchu cynllun adfer manwerthu, sy'n nodi ymyriadau allweddol i gefnogi'r sector. Gan gydnabod, wrth gwrs, fod rhai o'r dulliau wedi'u cadw'n ôl a bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni ar rai gofynion allweddol, megis rhyddhad...
Vikki Howells: 7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella systemau digidol o fewn GIG Cymru? OQ56716
Vikki Howells: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod datrysiadau TG wedi'u dyfeisio ers blynyddoedd bellach gan ymarferwyr o fewn y GIG, megis ap pwrpasol y mae dau feddyg teulu yn fy etholaeth yn ei ddatblygu gyda chwmni lleol. Bydd yr ap hwn yn galluogi cleifion i gael mynediad at eu cofnodion, i feddyginiaethu eu cyflyrau eu hunain yn well ac i archebu presgripsiynau...
Vikki Howells: Prif Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy etholaeth i yng Nghwm Cynon wedi elwa yn aruthrol ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai cymdeithasol, wrth i lawer o hen adeiladau segur gael eu troi yn gywir yn llety o ansawdd uchel, yn ogystal ag adeiladau newydd sbon. Un mater sy'n codi'n aml, fodd bynnag, yw'r galw am eiddo wedi ei addasu ac y gellir ei addasu. Mae'n aml yn anodd i'r...
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56805
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraith Lucy, y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, yn dod i rym yn gynharach y mis hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr a gefnogodd y gyfraith hon, a diolch i chi'n gyhoeddus am gyflawni'r ymyrraeth bwysig hon. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr ymgysylltu a gafwyd gyda busnesau, bridwyr...
Vikki Howells: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gwyliau gartref ar economi Cymru yn ystod tymor twristiaeth 2021? OQ56850
Vikki Howells: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac, yn ddi-os, mae Cymru wedi elwa'n economaidd ar y cynnydd i wyliau cartref eleni. Mae gennym ni wlad mor wych i'w harddangos, felly sut gall Llywodraeth Cymru annog pobl i barhau i fynd ar wyliau yng Nghymru wrth i'r farchnad dwristiaeth fyd-eang agor eto yn y dyfodol?
Vikki Howells: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi creu cynlluniau pantri bwyd yng Nghwm Cynon? OQ56851
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf wedi ymweld â chryn dipyn o gynlluniau pantri bwyd yn fy etholaeth yn ddiweddar, gan gynnwys cynllun gwych iawn yng Nglyn-coch y mis diwethaf, lle gwnaeth yr amrywiaeth o fwydydd ffres a phrif fwydydd a oedd ar gael argraff fawr arnaf, ynghyd â gwasanaethau cynghori eraill hefyd. Mae'n amlwg fod gan bantrïoedd bwyd rôl hirdymor sylweddol a chynaliadwy...
Vikki Howells: 5. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi canol trefi? OQ56935
Vikki Howells: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Canol trefi, wrth gwrs, yw curiad calon ein cymunedau, ond mae rhai adroddiadau diweddar, fel adroddiad Archwilio Cymru, 'Adfywio Canol Trefi yng Nghymru', yn braslunio'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Rwy'n croesawu sylwadau cadarn Llywodraeth Cymru ar sut y bydd Gweinidogion yn mynd i'r afael â llawer o'r materion hyn drwy, er enghraifft, ganol...
Vikki Howells: Gweinidog, gwn i chi gyfarfod â'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol yn ddiweddar i drafod eu pryderon am y cronfeydd ffyniant a rennir a'r cronfeydd codi'r gwastad, arian sydd mor bwysig i ddyfodol economaidd etholaethau fel fy un i, Cwm Cynon. Mae'r ICA wedi dadlau ers tro bod yn rhaid i unrhyw gyllid o'r cynlluniau fod yn hirdymor ac yn gynaliadwy os yw am sicrhau newid trawsnewidiol. A...
Vikki Howells: Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o uchelgais yr arbenigwyr twristiaeth seryddiaeth, Awyr Dywyll Cymru, i agor planetariwm cenedlaethol i Gymru ar safle hen lofa'r Tŵr yn Hirwaun. A ydych yn cytuno y gallai'r cyfleuster seryddiaeth arfaethedig hwn roi hwb sylweddol i economi twristiaeth Cymoedd de Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant Zip World ar yr un safle a gwella ymhellach...
Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Prif Weinidog, galwodd llythyr diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru at Aelodau'r Senedd am ymyriadau allweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i gael eu diogelu a'u datblygu. Gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid ar ôl yr UE, ac ymdrechion amlwg Llywodraeth y DU i adennill arian a phwerau, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn fygythiad i...
Vikki Howells: 8. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i gefnogi gwasanaethau gofal plant a chwarae? OQ56961