Alun Davies: Mae llywodraeth leol a ninnau yn parhau i weithio mewn partneriaeth i archwilio ffyrdd o wella'r fformiwla ariannu gyfredol sy'n seiliedig ar anghenion, er mwyn gwella'r modd yr eir ati i adlewyrchu angen cymharol awdurdodau i wario.
Alun Davies: Bydd y Llywydd yn ymwybodol mai un o fy ngweithredoedd cyntaf fel Aelod yma yn ôl yn 2007 oedd cynnal adolygiad o dlodi ac amddifadedd gwledig mewn cymunedau gwledig ac rwy'n cofio'r ymchwiliad hwnnw hyd heddiw. Rydym yn deall y gall tlodi yng nghefn gwlad Cymru fod yn wahanol iawn i dlodi mewn cymunedau trefol. Rydym yn deall hynny'n dda iawn. Mae'r fformiwla'n ceisio adolygu'r materion...
Alun Davies: In April, I set out in my written statement the range of future support from the Welsh Government for the armed forces community.
Alun Davies: The Government’s overall budget priorities, including the funding for local authorities, were set out yesterday. Whilst there is no ring-fencing of any specific part of the settlement, we and local government have prioritised funding for essential public services such as education and social care.
Alun Davies: Local authorities are democratically accountable for their performance. Welsh Government supports self-assessment and peer review and transparency about performance to enable public bodies to drive improvement and offer citizens a clear picture of performance. Audit, inspection and regulatory bodies have a key role in monitoring the quality of public services.
Alun Davies: Local authorities are subject to accountability through the electorate, and the Welsh Government continues to encourage local government to conduct its business in an open and transparent manner. Our recent consultations on local government reform proposed a range of ways to further increase transparency.
Alun Davies: Anti-social behaviour has a damaging effect on our communities. We are committed to addressing the issue through our funding of an additional 500 community support officers and implementing the recommendations of the Working Together for Safer Communities review.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Canolfan Llywodraethiant Cymru, ar 5 Mehefin eleni, wedi cyhoeddi, 'Imprisonment in Wales: a Factfile', sy'n tynnu sylw at ddata penodol i Gymru ar draws y system garchar. A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod yn ddiolchgar iawn i Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Dr Robert Jones am y gwaith hwn? Rydym ni'n cydnabod mai ciplun...
Alun Davies: Rwy'n sôn am system a strwythur o sefydliadau diogel, ac rwy'n gofyn y cwestiwn: a yw hynny'n gwasanaethu buddiannau Cymru? A chredaf y byddai'n anodd iawn canfod yr ateb 'ie' wrth archwilio hynny. Ac os ydych yn edrych ar sefydliadau diogel sydd gennym yma yn y de, ar hyd coridor yr M4, rwyf am weld buddsoddi sylweddol yn y sefydliadau diogel hynny. Os ydych chi'n cerdded i mewn i Abertawe...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd yr amser i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae hon yn ddadl bwysig i bob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr hon, oherwydd mae'r ffordd yr ydym yn ymdrin â system cyfiawnder troseddol yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn trefnu ac yn rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A gadewch imi ddweud...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn wrth lunio Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Dirprwy Lywydd, mae pob un ohonom a anwyd ac a fagwyd yng Nghymoedd y De yn deall hanes y tirlun. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y lle o ran stori ein cenedl. Mae cymunedau yng Nghymoedd De Cymru wedi bod â chysylltiad arbennig â'r...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, gallai dim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae tirweddau'r Cymoedd wedi'u gweddnewid yn rhyfeddol, mwy mae'n debyg nag a welsom yn unrhyw le arall yng Nghymru, y DU neu du hwnt. Yr her i ni heddiw, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain ac mewn cymunedau Cymoedd ôl-ddiwydiannol yr unfed ganrif ar hugain, yw sut yr ydym yn gwneud y mwyaf o'n...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rwyf mewn hwyliau rhyfeddol o dda ac yn hael y prynhawn yma, bydd yr Aelodau yn falch o glywed. Felly ni fyddaf yn derbyn gwahoddiad llefarydd y Ceidwadwyr i droi'r ddadl hon y prynhawn yma yn anghytundeb pleidiol nac yn gystadleuaeth rhwng rhanbarthau Cymru. Credaf y byddai'r ddau gynnig yn ffordd anghywir o fynd ati i ateb y ddau gwestiwn, y cwestiynau teg iawn, a...
Alun Davies: Gadewch imi ddweud hyn: dylai creu parc rhanbarthol yng Nghymoedd y De fod yn rhywbeth y gellir ei ddathlu ar draws y wlad gyfan. Roedd yr araith gyntaf, Dirprwy Lywydd, a wneuthum yn y lle hwn, rhywbeth fel 11 neu 12 mlynedd yn ôl yn ymwneud â pheryglon plwyfoldeb, gosod pentref yn erbyn pentref, lle yn erbyn lle, sir yn erbyn sir, gogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn gorllewin,...
Alun Davies: Mae'r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi gwneud i mi deimlo'n hollol annigonol. Does yr un aelod o fy nheulu i, hyd y gwn i, wedi ysgrifennu unrhyw emynau o gwbl—
Alun Davies: Gobeithio—er bod nifer ohonom, ar wahanol adegau, wedi ceisio eu canu. Roeddwn i'n ofni am eiliad fod yr Aelod yn bwriadu mynd drwy'r caniedydd cyfan ar un adeg, a fyddai wedi fy ngadael yn teimlo'n fwy annigonol byth. Fodd bynnag, gwnaeth hefyd grybwyll rhai pwyntiau diddorol iawn. Efallai na fydd yn dymuno gwybod hyn, ond y llyfr wrth ymyl fy ngwely i ar hyn o bryd yw 'I Know Another...
Alun Davies: Wrth gwrs, mae gweithfeydd haearn y Gadlys yn enwog, ac mae'r gymhariaeth â Merthyr yn un dda, ond mae'r naill a'r llall yn pylu o'u cymharu â Sirhywi, wrth gwrs, lle mae'r gwaith haearn yno—. Mae'n enghraifft dda, mewn gwirionedd, pan adawyd rhan eithriadol bwysig o'n treftadaeth i bydru ac i ddirywio am ddegawd ar ôl degawd, oherwydd nad oeddem ni—bob un ohonom yma o'r...
Alun Davies: O ran gweithredu ar nifer o faterion gwahanol, rydym ni wedi gweld drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol nifer o asedau cymunedol yn cael bywyd o'r newydd. Ymwelais i â Neuadd y Gweithwyr Blaenafon beth amser yn ôl ac mae'n rhyfeddol ei gweld hi'n cael ei haileni unwaith eto. Yn fy etholaeth i, mae Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn parhau i fod yn ganolfan i'r gymuned. Rydych chi'n...
Alun Davies: Ie, hollol, fe fydd, a'r prawf litmws fydd Rhymni—nid oes gennyf amheuaeth ynghylch hynny. Os ydym yn edrych ar ddatblygu'r parc rhanbarthol fel cysyniad, fel fframwaith i ddatblygiadau eraill ddigwydd ynddo, yna os llwyddwn ni, yna byddwn yn llwyddo yn Rhymni. Os edrychwch ar y mathau hynny o gymunedau lle'r ydych chi wedi cael trefi mawr yn agos—rydym ni wedi gweld buddsoddiad a...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rhaid i bob trafodaeth ar Gymoedd De Cymru gynnwys trafodaeth ar Gastell-nedd. Mae'n gwbl hanfodol inni roi sylw i hanes a diwylliant y lle gwych hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: Ymwelais â Chefn Coed, rwy'n deall y problemau—rwy'n gobeithio fy mod yn deall rhai o'r problemau sy'n codi yno—ac y mae angen inni weld sut y gallwn ni sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'i...