David Rees: Diolch i'r Aelod am ildio. Gwrandewais ar yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn amlwg dangoswyd yn Nhŷ'r Arglwyddi fod yr achos cyfreithiol—nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu’r £39 biliwn. Mae yna gwestiwn ynghylch gofyniad moesol. Ond rydych chi newydd grybwyll bod yna rai rhwymedigaethau. A ydych wedi cael ffigur ar gyfer y rhwymedigaethau hynny, o ran y swm y mae'n ofynnol i ni ei...
David Rees: Unwaith eto, rwy’n derbyn y cwestiwn a roesoch i mi ar erthygl 24 y GATT, sy’n amlwg ond yn berthnasol os ydych chi mewn trafodaethau ar gytundeb masnach gan nad yw'n berthnasol os nad ydych yn cael y trafodaethau hynny. Hefyd, os ydych yn mynd i leihau tariffau i ganiatáu mewnforio masnach yn rhatach—rhywbeth y gallai’r DU ei wneud, fel y dywedwch yn gywir—fe nodwch fod yn rhaid...
David Rees: Unwaith eto, rwy'n cytuno â Darren; rydym yn ôl gyda'r un peth unwaith eto. Clywn eto mai'r cynnig cyntaf gan Blaid Brexit yw cynnig i gefnogi eu cred fod gadael yr UE heb gytundeb yn weithred rinweddol ac y bydd yn gwella bywydau pobl Cymru. Er hynny, y tro hwn, maent wedi ychwanegu mân bethau er mwyn ceisio ein hannog drwy ddweud y bydd gostyngiadau ar fwyd, dillad ac esgidiau, fel y...
David Rees: Lywydd, rwy'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yn refferendwm 2016. Yn wir, yn fy etholaeth i, pleidleisiodd y mwyafrif dros adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, nid wyf yn sefyll yma i herio'r hyn roeddent eisiau ei wneud. Roeddent eisiau gadael. Efallai ein bod yn gwahaniaethu o ran yr hyn oedd 'gadael' yn ei olygu, ond roeddent eisiau gadael. A rhaid i...
David Rees: Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb hwnnw, oherwydd yr oeddech chi a minnau'n bresennol yn y rali ym Mhort Talbot, lle mynegodd menywod eu rhwystredigaeth a'u dicter tuag at yr ymateb hwnnw a oedd wedi dod i law Llywodraeth Cymru, sef un a oedd, yn y bôn, yn fy marn i, yn ffiaidd ac ni ddylai fod wedi'i ysgrifennu gan Ysgrifennydd Gwladol o'r fath, gan adlewyrchu ymagwedd anghwrtais....
David Rees: Beth yw blaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer y de-orllewin am weddill tymor y Cynulliad hwn?
David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54122
David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Croesawaf gyhoeddiad y strategaeth cyn diwedd tymor yr haf, gan ei bod yn hanfodol i ni weld y cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. A gaf fi hefyd eich llongyfarch ar nifer y cyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda'r gwahanol lysgenhadon a chynrychiolwyr eraill sydd wedi dod i Gymru? Ond rydym am weld y strategaethau, gan ein bod am allu...
David Rees: Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae Jistcourt wedi'u lleoli yn fy etholaeth i ac mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn byw yn yr ardal, ac mae hyn yn peri cryn ofid i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y bobl hynny'n dod o hyd i swyddi eraill mewn mannau eraill. Ond fel y dywed Rhun ap...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch am dderbyn ymyriad; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rydych newydd ddweud mai'r rhai sydd am aros sy'n peri'r ansicrwydd. Yn dilyn y refferendwm yn 2016, digwyddodd y dirywiad bryd hynny. Felly, nid ansicrwydd ydoedd, ond ofn yr hyn y byddai gadael yn ei olygu i ddinasyddion yr UE yn y DU a'u statws addysg. Nid y rhai sydd am aros sydd ar fai; yr holl broses sydd ar fai mewn gwirionedd.
David Rees: Diolch. Hoffwn ymuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma i werthfawrogi ymdrechion ac ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar fywyd sifil yn ogystal â'n heconomi. Fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o hynny cyn imi ddod yn Aelod Cynulliad. Bûm yn gweithio yn y sector am flynyddoedd lawer. Dros y blynyddoedd hynny, rwy'n...
David Rees: Wel, roeddwn yn mynd i ddod at rai o’r pryderon sydd gennyf ynghylch llywodraethu, ac rwy'n cytuno bod angen mwy o dryloywder yn y trefniadau llywodraethu a mwy o gyfranogiad gan staff a myfyrwyr. Ac ni ddylid byth eu rhwystro rhag cymryd rhan yng nghyfarfodydd pa gorff llywodraethu bynnag ydyw, gan fy mod yn cofio bod yn aelod o undeb llafur ar gorff llywodraethu ac ni chawn fynd i rai...
David Rees: Ni allaf ateb ar y niferoedd yn Lloegr; nid wyf wedi astudio'r niferoedd yn Lloegr. Fe gymeraf eich gair, os mai felly y mae. Ond rwy'n credu mai'r hyn a welwn yw bod perthynas dda iawn yn arfer bod rhyngom a llawer o sefydliadau yn Ewrop a byddai myfyrwyr yn dod draw. Nawr, os yw'r gostyngiad yn nifer myfyrwyr yr UE yng Nghymru yn digwydd, yr hyn sy’n rhaid ei ofyn yw 'Pam?' Ac nid yw'n...
David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd cymunedol? OAQ54184
David Rees: Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi ac yn cymeradwyo'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi ac yn ôl i'w cymunedau, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod y gallwch wella yn eich cartref os ydych yn teimlo'n fwy cyfforddus, ond mae'n rhaid i chi fod yn ddiogel ac mae'n rhaid i chi gael cymorth. Ac i wneud hynny, mae...
David Rees: Prif Weinidog, er fy mod i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyflwyno i sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth anghenion dysgu ychwanegol y dylen nhw fod yn ei gael, rydym ni'n dal i gael llawer o lythyrau gan etholwyr yn cyfleu'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu yn feunyddiol o ran gallu sicrhau bod eu plant yn gallu cael gafael ar y cymorth...
David Rees: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, rydym yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau trasig ar y rheilffordd ym Margam yn fy etholaeth i a'r bywydau a gollwyd gan ddau unigolyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud datganiad ddydd Mercher diwethaf am hynny, ac rwy'n deall yn iawn fod yn rhaid i'r ymchwiliad ddigwydd, a byddwn ni'n aros am y canlyniadau hynny. Ond mae Network...
David Rees: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd yn Aberafan? OAQ54227
David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r holl agwedd. Rwy'n siŵr y byddaf yn bwrw golwg dda arall ar y cynllun gweithredu. Ond fel y gwyddoch, mae gennyf ymrwymiadau cryf i'r diwydiant dur yn fy etholaeth ac mae digwyddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda Ford, wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen i ddatblygu economi amrywiol yn Aberafan,...