Rhianon Passmore: Bydd pobl Islwyn yn croesawu'r datganiad pwysig hwn heddiw, a bydd y gyllideb hon yn datblygu Cymru. Fel y nododd y Gweinidog, nid ydym ni wedi dianc, mewn unrhyw ffordd, flynyddoedd o gyni'r Torïaid cyn i'r pandemig hwn daro. Mae'r diffyg cyllid teg i Gymru, yn niweidiol yn ystod y degawd diwethaf, a'r diffyg gwariant seilwaith y DU yng Nghymru, gan gynnwys diffyg symiau canlyniadol HS2,...
Rhianon Passmore: Ydy. Rydym ni'n cael problemau gyda'r fideo. Mae'n rhaid ei rhoi yn ôl yn ysbeidiol. Rydw i bron â gorffen. Os caf i ddod at fy nghwestiwn, Dirprwy Lywydd.
Rhianon Passmore: Mae hynny'n hollol iawn. Mae'n gwneud hynny, ac maen nhw'n ceisio ei ddatrys. Felly, Gweinidog, sut yr ydych chi'n egluro, felly, i fy etholwyr pam y bydd Cymru'n cael £46 miliwn yn unig eleni o gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, ar sail ad hoc, nad yw'n dryloyw, o'i gymharu â'r £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021? Mae hynny'n...
Rhianon Passmore: Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru heddiw yn dal yn fregus; amcangyfrifir bod un o bob 20 o ddinasyddion wedi eu heintio, mae achosion sy'n profi'n bositif tua 50 y cant ac, o ganlyniad uniongyrchol, mae absenoldebau staff ar draws GIG Cymru ychydig dros 8 y cant yr wythnos diwethaf, gyda rhai ymddiriedolaethau yn gweld dwywaith hyn. Felly, nid yw'n syndod bod bwrdd iechyd Aneurin...
Rhianon Passmore: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun setliad dinasyddion Affganistan? OQ57427
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Gwyddom fod gwerthusiad ffisegol unigolyn yn hanfodol i anghenion y cyfryw unigolyn, ond dechrau ei daith yn unig yw cael ei adsefydlu a chael diogelwch mewn gwlad newydd. Fel cenedl noddfa, gwn ein bod yng Nghymru yn ymfalchïo yn y ffordd y cynigiwn y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. A all y Gweinidog...
Rhianon Passmore: 6. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i effaith adolygiad Llywodraeth y DU o ddeddfwriaeth hawliau dynol ar gyfraith Cymru? OQ57428
Rhianon Passmore: Diolch. Mae Martha Spurrier, cyfarwyddwr grŵp hawliau dynol Liberty, wedi dweud: 'Mae’r cynllun hwn i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn enghraifft amlwg a digywilydd o gipio pwerau gan Lywodraeth sydd am osod eu hunain uwchben y gyfraith. Maent yn llythrennol yn ailysgrifennu'r rheolau o'u plaid hwy fel na ellir eu cyffwrdd.' Mae llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi dweud:...
Rhianon Passmore: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty gyda COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ57479
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd a Gweinidog. Diolch am y diweddariad hwnnw. Yn anffodus, mae 1,160 o bobl wedi marw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda marwolaethau'n gysylltiedig â COVID-19. Mae dinasyddion Islwyn a Chymru wedi aberthu cymaint yn ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws dieflig hwn yn ystod y pandemig. Dywedodd prif swyddog COVID Sefydliad Iechyd y Byd, David Nabarro, yr wythnos hon:...
Rhianon Passmore: Mae argyfwng costau byw Llywodraeth Dorïaidd y DU yn taro pobl Cymru'n galed. Mae'n argyfwng, ac ydy, mae'n un a welwyd yn agosáu. Ond mae'n rhaid inni gydnabod mai'r Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau ardrethiannol a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Ac eto, mae'r un sy'n dymuno etifeddu'r goron Dorïaidd, y prentis eglur, Rishi Sunak, wedi bod ar goll. Roedd ar goll...
Rhianon Passmore: 7. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch llywodraethu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig? OQ57513
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Fel cyn-aelod o Gyngor Darlledu'r BBC yng Nghymru, hoffwn ddatgan ar gyfer y cofnod. Ers i'r Torïaid gymryd rheolaeth dros Lywodraeth y DU yn 2010, mae cyllideb y BBC wedi dioddef toriad o 30 y cant mewn termau real. Nawr mae Nadine Dorries a'r Torïaid eisiau cynnig rhewi ffi'r drwydded am ddwy flynedd arall, ac mae hynny yn cyfateb i holl gyllideb radio'r DU. Prif...
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau rheilffordd yn Islwyn? OQ57511
Rhianon Passmore: Diolch. Ar 12 Rhagfyr y llynedd, yn dilyn y buddsoddiad o £1.2 miliwn i uwchraddio rheilffordd Glynebwy, ailddechreuodd gwasanaeth teithwyr uniongyrchol bob awr rhwng Crosskeys a Chasnewydd ar ôl bwlch o 60 mlynedd. Weinidog, cyfarfûm â chynrychiolwyr Network Rail a Trafnidiaeth Cymru gyda chyd-Aelodau yn ddiweddar i drafod cynlluniau ehangu pellach y rheilffordd tua'r gogledd drwy...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae'n gwestiwn syml iawn, ac mae'n mynd at wraidd rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd, Darren Millar. Sut y mae'n dda i ddemocratiaeth os yw'n anos cofrestru i bleidleisio ac felly'n anos pleidleisio?
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gyfleusterau cymunedol sydd ar gael yn Islwyn o ganlyniad i raglen ysgolion yr 21ain ganrif?
Rhianon Passmore: Diolch, Gweinidog, am ddiweddariad pwysig i'r Senedd. Rwy'n croesawu'n fawr y profiad a'r arbenigedd y bydd Derek Vaughan yn eu cynnig i'r swydd hon. Fel y dywedwch chi yn gywir, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal a meithrin y berthynas waith ragorol honno rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a'n bod yn parhau i geisio cysylltiadau rhynglywodraethol priodol a...
Rhianon Passmore: Ar ran pobl a chymunedau Islwyn, hoffwn gofnodi ein gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth cyhoeddus ffyddlon ac ymroddedig y mae Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi'i roi ac yn parhau i'w roi heddiw. Ni fyddai unrhyw un, ni waeth beth yw eu barn ar y frenhiniaeth, heb eu cyffwrdd, fel roeddwn innau, wrth weld Ei Mawrhydi yn eistedd ar ei phen ei hun y llynedd yn y capel yn Windsor yn angladd...
Rhianon Passmore: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU i gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd? OQ57608