Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn, James. Ac rwy'n falch iawn hefyd o gydnabod ar goedd y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o weithgareddau'n cael eu cynnal ac ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn darparu cyllid i gryn dipyn o sefydliadau trydydd sector—rhai’n uniongyrchol, eraill drwy’r cyllid...
Lynne Neagle: Diolch, James. Yn amlwg, mae'r Bil diogelwch a niwed ar-lein yn gyfrwng pwysig i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y cyfeirioch chi atynt, ac y gwn eich bod wedi eu codi eisoes yn y Siambr hon. Rydych yn llygad eich lle nad yw materion digidol wedi’u datganoli i ni, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a swyddogion yn San Steffan, ac...
Lynne Neagle: Diolch, James. Ac mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn bwysig iawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym am i broblemau pobl ifanc waethygu. Dyna pam fod ein holl bwyslais yn Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth yn gynnar, yn ddelfrydol yn yr amgylcheddau lle maent yn byw eu bywydau, fel yr ysgol. Felly, mae gennym ddull ysgol gyfan yr ydym yn parhau i...
Lynne Neagle: Mae camau i dargedu negeseuon iechyd cyhoeddus cryf at gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi'u hymgorffori yn ein gwaith atal ar gyfer iechyd y cyhoedd, i helpu pobl i gynnal pwysau iach, rhoi'r gorau i ysmygu, a chefnogi eu lles meddyliol. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd y gwyddom fod y cymunedau hyn yn eu profi.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John. Fel yr ydych wedi nodi, mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a dyna pam y sefydlodd y Prif Weinidog y grŵp i edrych ar yr anghydraddoldebau iechyd hynny, sy'n flaenoriaeth inni. Rwy'n ddiolchgar iawn i Muslim Doctors Cymru am y gwaith a wnaethant. Rwy'n gwybod eu bod...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael negeseuon pwrpasol. Roedd ein hymgysylltiad drwy'r pandemig yn rhagweithiol iawn yn hynny o beth. Fe wnaethom gontractio asiantaeth ymgysylltu arbenigol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Cafodd deunyddiau ar gyfer cymunedau penodol eu cydgynhyrchu gydag unigolion o'r cymunedau hynny, gyda lluniau cardiau dyfyniadau...
Lynne Neagle: Rydym yn datblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi gweithredu lleol i gynyddu'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad y mis nesaf.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Heledd. Fel y nodwyd gennych, mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd dda iawn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol wedi ei leoli yn y gymuned, ac mae angen i hynny fod yn ddull cyfannol sy'n cydnabod bod ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd pobl, ac fel y nodwyd gennych, nid yw hynny'n ymwneud yn unig...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am 'ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy.' Fel y mae ein gwelliant yn cydnabod, nid ydym yn hunanfodlon, ond mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i atal a mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio alcohol a hanes cadarn o gyflawniad. Yn wahanol i...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Lynne Neagle: Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Efallai y dylech edrych ar rai o'r adroddiadau hynny.
Lynne Neagle: Rwy'n mynd i roi sylw i hynny.
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na gwella, amddiffyn a chefnogi lles meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ac ailddatgan fy ymrwymiad droeon yn y Siambr hon, ac rwy'n dal yn benderfynol o'n gweld yn gwneud y cynnydd sydd ei angen i drawsnewid eu bywydau er gwell. Mewn gwirionedd,...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Darren. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â mwy na'r amseroedd aros yn unig. Rwyf fi fy hun wedi galw am fwy o ffocws ar ganlyniadau a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael asesiad. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddilysu'r data er mwyn inni allu darparu mwy o wybodaeth gyhoeddus am fynediad at driniaethau seicolegol. Ond rwy'n credu bod yr hyn rydych newydd ei...
Lynne Neagle: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Lynne Neagle: A wnaethoch chi wrando mewn gwirionedd ar yr hyn a ddywedais pan esboniais ein bod yn cael adolygiad, adolygiad yr uned gyflawni, o wasanaethau CAMHS yng Nghymru? Felly, rydym yn gwneud yr hyn rydych chi wedi codi i alw amdano yn awr. Efallai y byddai'n help pe baech yn talu sylw.
Lynne Neagle: Mae byrddau iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau yn unol â safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer iechyd meddwl amenedigol. Cefnogir y gwaith gan gyllid gwella ychwanegol ar gyfer gwasanaethau eleni, sy'n adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Delyth, ac fel y dywedwch, mae wedi bod yn anodd iawn cael babi newydd yn ystod y cyfyngiadau symud. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny, ac fe fyddwch yn cofio imi arwain dadl yn y Siambr fel aelod o'r meinciau cefn ar fabanod yn ystod y cyfyngiadau symud. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau yn Llywodraeth Cymru. Gwn fod gwasanaethau...