Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cyfaddef o'r diwedd na fydd yn rhoi cyllid yn lle cyllid yr UE yn llawn i Gymru am dair blynedd. Mae hyn er i Boris ddweud yn gyson na fyddai pobl Cymru geiniog yn dlotach ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Boris yn economaidd o ran dweud y gwir—pwy fyddai wedi meddwl? Wrth i'r Cymry ddisgwyl colli £1 biliwn y flwyddyn,...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn effeithio ar bob un aelwyd yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr gyfarfod Ofgem y Gweinidog ar lawer o bynciau, ond yn enwedig o ran y pryderon ynghylch y mesuryddion rhagdalu a godwyd. Mae Ofgem wedi dweud y bydd taliadau ynni cyfartalog aelwydydd yn codi i £1,971 ym mis Ebrill, heb unrhyw gymorth uniongyrchol ar hyn o...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans, am ei dull o weithredu a'i dull o ymgysylltu â Phwyllgor Cyllid y Senedd i graffu ar y gyllideb ddrafft deg iawn, werdd a blaengar hon. A hoffwn ddiolch hefyd i'n cyd-Aelodau cyllid a'n Cadeirydd cadarn iawn. Mae Cymru wedi dioddef ac mae'n parhau i ddioddef pandemig byd-eang sydd wedi arwain at siglo hanfodion a model ein heconomi ni yng Nghymru....
Rhianon Passmore: Diolch. O ran y datganiad diwethaf hwnnw, gwyddom ni i gyd fod arnom angen economi gymysg fywiog o ran gofal, boed hynny mewn meithrinfa neu ofal plant neu mewn gofal iechyd i'r henoed. A fyddech chi hefyd yn cydnabod, pan fyddwn yn mynd i'r afael â phrinder arian yn y pwrs cyhoeddus, oherwydd toriadau grant bloc Cymru mewn termau real—mewn termau real—fod—
Rhianon Passmore: Weinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn cael effaith ar bob aelwyd yn Islwyn. Fodd bynnag, er bod rhai o drigolion Islwyn yn gorfod dewis rhwng bwyta neu wresogi, ddoe, cyhoeddodd y cawr olew BP ei elw uchaf ers wyth mlynedd: £9.5 biliwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Shell elw o £14.3 biliwn, y mae dadansoddwyr yn credu y bydd yn tyfu i £23.6 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn...
Rhianon Passmore: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y prentisiaethau yn Islwyn? OQ57681
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ymrwymiad a addawyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn arwydd o agenda flaengar y Llywodraeth Lafur sosialaidd hon yng Nghymru. Prif Weinidog, pan fyddaf i'n siarad gyda fy etholwyr, pa un a ydyn nhw'n fam-gu yng Nghrymlyn, yn dad yng Nghwmcarn neu'n berson...
Rhianon Passmore: Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy er mwyn cynnwys pobl Islwyn mewn sgwrs genedlaethol am natur?
Rhianon Passmore: Fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd, hoffwn i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Peredur Owen Griffiths, am ei stiwardiaeth, ac i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, Mike Hedges a Peter Fox, am eu gwaith cadarn ar y pwyllgor. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelodau Jack Sargeant, Carolyn Thomas ac Alun Davies, sydd wedi dirprwyo'n fedrus ar fy rhan i ar...
Rhianon Passmore: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi pobl Islwyn drwy'r argyfwng costau byw? OQ57922
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Mae pobl yn fy etholaeth i yn Islwyn a ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw gwirioneddol ddigynsail. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y byddwn yn gweld y gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw yn 2022-23. Gwyddom mai’r bobl dlotaf mewn cymdeithas fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, yn enwedig y rhai ar fudd-daliadau mewn etholaethau fel fy un i....
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A oes unrhyw gydnabyddiaeth bod Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 yn llesteirio'r hawl i brotestio?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. A ydych yn cydnabod bod lefel gwariant y DU ar seilwaith yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol a phryd y mae eich plaid yn mynd i sefyll dros Gymru?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A fyddech chi'n cydnabod bod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn mynd i daro'r bobl dlotaf, pro rata, yn fwy na neb arall, a'i bod yn dreth lechwraidd?
Rhianon Passmore: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni disgyblion ysgolion cynradd yn Islwyn gyda chost y diwrnod ysgol? OQ58190
Rhianon Passmore: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n falch, fodd bynnag, fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo'n briodol i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru. Mewn llythyr diweddar at Lywodraeth y DU gan undebau athrawon nodwyd y manteision a ddarperir gan brydau ysgol am ddim, a dywedodd: 'Bob diwrnod ysgol rydym yn gweld y manteision y mae prydau ysgol am ddim yn eu...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?