Canlyniadau 641–660 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol (17 Gor 2019)

Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru?

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau holi am y peth hwn rydych chi'n ei ddweud yn gyson, fod yna negodiadau'n digwydd. Defnyddiodd Philippe Lamberts, ASE o Wlad Belg, air rheg a dywedodd nad oedd unrhyw negodiadau'n digwydd ar hyn o bryd—nad oes negodi oherwydd nad oes cyfaddawd ar y 'backstop'. Nid oes unrhyw negodiadau. A wnewch chi roi'r gorau i ddweud celwydd yn y Senedd hon fod yna rai ar y gweill?

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Bethan Sayed: Dyfyniadau bachog, sbin, celwyddau, dadleuon di-drefn, protestiadau, sloganau ar fysiau, addewidion wedi'u torri, ASau sy'n hanner gorwedd, ci cwtsh i dynnu sylw. Beth bynnag y bo, mae'n debyg o fod wedi digwydd yn ystod drama Brexit. Byddai'n sicr o roi dau dro am un i The Thick of It, beth bynnag. Ond mae sbin arwynebol a chwarae gemau'n un peth ym myd dirmygus y Senedd yn San Steffan sy'n...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

Bethan Sayed: Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Ineos ynglŷn â'r potensial ar gyfer creu 500 o swyddi pan fydd Ford—. Wel, mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n gadael safle Pen-y-bont. Os ydy hynny am ddigwydd, dŷn ni ar ddeall o'r Financial Times fod gan Jim Ratcliffe ddiddordeb yn y safle hwnnw. Mae'n rhaid imi...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

Bethan Sayed: Mae'r ail gais am ddatganiad—ac rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma i'm clywed gan fy mod yn mynd yn fwyfwy rhwystredig—yn ymwneud â'r ffaith nad ydym yn cael unrhyw gynnydd o gwbl ar y cyhoeddiad o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf wedi bod yn eithaf goddefgar, rwy'n credu, wrth geisio aros am ganlyniad y fframwaith, ond rwyf wedi dod i'r pwynt yn awr...

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Gan eich bod wedi fy ngwahodd, a ydych chi wedi siarad â rhai o'r bobl ifanc ynglŷn â pham y maent allan ar streic, yn hytrach na dim ond eu beirniadu am eu bod 'allan ar streic', sy'n gwyro oddi wrth y broblem go iawn yn fy marn i? Maent yn ymgyrchu am fater y maent yn poeni'n fawr yn ei gylch. A ydych chi wedi gofyn iddynt pam y maent yn ei wneud?

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Mae'r mudiad dros fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn un hir ac mae wedi bod yn adeiladu momentwm ers y 1960au a'r 1970au ar draws y byd, ac mae'r mudiad presennol y gellir dadlau ei fod yn llawer mwy wedi digwydd ar ôl blynyddoedd o godi ymwybyddiaeth a lleisio pryderon. Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn am fod pobl iau yn iawn i boeni am yr amgylchedd y maent yn mynd i'w etifeddu....

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud. Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Med 2019)

Bethan Sayed: Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sêl ei bendith i'r cyffur ffibrosis systig Orkambi, rhywbeth yr wyf fi ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn ei groesawu. Ond hefyd yr wythnos diwethaf, trydarodd Corbyn, ac rwy'n dyfynnu: 'Nid oes gan bobl â ffibrosis systig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fynediad o hyd at y cyffur sy'n newid bywyd...

3. Cwestiynau Amserol: Thomas Cook (25 Med 2019)

Bethan Sayed: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341

3. Cwestiynau Amserol: Thomas Cook (25 Med 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw. Gan ddechrau ar bwynt cadarnhaol, hoffwn ofyn i chi ymuno â mi i ganmol Elaine Kerslake o'r Gilfach Goch, a aeth ati i godi arian ar daith awyr yn ôl adref gyda Thomas Cook pan sylweddolodd nad oedd y staff yn cael eu talu. Felly, a fyddech yn awyddus i'w chanmol am wneud hynny? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi, felly, i ofyn i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn i'n disgwyl i Leanne gael ei galw cyn fi, mae'n ddrwg gen i. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am weithdrefnau cwyno, a'r hyn y gall pobl ei wneud i gael atebion a gwell adborth a chanlyniadau pan fydd anghydfod ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol? Rwyf wedi cael nifer o achosion gan bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod ag anghydfodau ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn, ac ymddiheuriadau.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Roedd yn ymwneud â'r pwynt roeddech yn ei orffen ynglŷn â'r gost. Felly, rwy'n meddwl tybed a ydych wedi llwyddo i gael unrhyw sgyrsiau am y twneli gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fyddai rhoi costau yswiriant yn unig yn ddigon, ac y byddai angen—. Mae'n rhwymedigaeth enfawr. Felly, a allwch dweud wrthym a ydych yn cael y sgyrsiau hynny?

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, mae'n bwysig inni yma yng Nghymru fod gennym y gallu i ddefnyddio ein dewis iaith wrth ymgysylltu bob dydd â gwasanaethau cyhoeddus. Nid yn unig yw hon yn hawl sylfaenol, mae'n hanfodol o ran meithrin ein hymdeimlad o hunaniaeth a chymuned. Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, felly, yn garreg filltir bwysig yn hanes ein hiaith. Cyhoeddodd y Mesur, am y tro...

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny oedd wedi cyfrannu yma heddiw, a da iawn eto i Caroline Jones am ymarfer ei Chymraeg yma heddiw hefyd; mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud hynny pan fyddwn ni'n gallu.  Mae gen i amser, efallai, jest i esbonio rhai o'r pethau oedd gan rai Aelodau gonsérn ynglŷn â nhw. Hoffwn i ddechrau, felly, gyda'r cysyniad yma roedd Suzy wedi ei ddweud o ran...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Diwydiant Fferyllol ( 8 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Byddwn yn cytuno bod lles y cyhoedd yn rhan annatod o hyn, a dyna pam, o ran y cyffur ffibrosis systig Orkambi, nad yw Vertex yn cyflwyno cais am y cyffur yn unig, mae'n cyflwyno cynllun helpu cleifion i gael gafael arno ochr yn ochr â hynny, ac wrth gwrs fe wnaeth hynny ganiatáu iddo gael cymeradwyaeth yn yr Alban. Fy nghwestiwn i yw: Pa mor aml y caiff y cynlluniau helpu cleifion i gael...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Amodau Gwaith Priodol ( 9 Hyd 2019)

Bethan Sayed: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau amodau gwaith priodol mewn cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaethau ar ran llywodraeth leol? OAQ54471

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Amodau Gwaith Priodol ( 9 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Fel y gwyddoch, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi trosglwyddo'u gwasanaethau hamdden—fel y gwnaeth llawer o gynghorau eraill ar y pryd—i Celtic Leisure, a rhybuddiodd llawer ohonom ar y pryd y byddai amodau gwaith yn gwaethygu oherwydd hynny yn y pen draw. Yr hyn a welsom yn ddiweddar, felly, yw Celtic Leisure yn dweud, os nad yw pobl yn cytuno i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Maint yr Ystâd Carchardai yng Nghymru (15 Hyd 2019)

Bethan Sayed: 1. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch maint yr ystâd carchardai yng Nghymru? OAQ54520


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.