Canlyniadau 641–660 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol (15 Meh 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Janet, a gallwch fod yn gwbl dawel eich meddwl fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y gwnaethom sicrhau bod y cyllid rheolaidd ar gael, i sefydlu timau iechyd meddwl amenedigol. Maent ar waith ym mhob rhan o Gymru. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r tîm amenedigol yn Betsi, sy'n gwneud gwaith rhagorol iawn yn cefnogi teuluoedd ar adeg a all fod, fel y dywedwch, yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol (15 Meh 2022)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Buffy. Fel rydych yn iawn i ddweud, rydym i gyd yn disgwyl cael profiad hapus iawn wrth eni plant, ond yn anffodus, gall pethau fynd o chwith, gall fod profiadau trallodus, a gwn eich bod yn cydnabod hynny, fel finnau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi cymorth ar waith. Rwy'n ddiolchgar ichi hefyd am gydnabod y gwaith a wnaethom eisoes drwy sefydlu'r uned mamau a babanod...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lles Meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd (15 Meh 2022)

Lynne Neagle: Diolch. Mae gwella llesiant Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, diolch i'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n torri tir newydd. Mae enghreifftiau o gamau gweithredu penodol yn cynnwys y gronfa iach ac egnïol, i gefnogi prosiectau sy'n cynyddu gweithgarwch corfforol y rhai nad ydynt yn gwneud fawr o weithgarwch corfforol ar hyn o bryd, os o gwbl, a gwella lles meddyliol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lles Meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd (15 Meh 2022)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol hwnnw, Gareth. A gaf fi achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith a wneir gan Men's Sheds ledled Cymru? Rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o gefnogi iechyd meddwl a mynd i'r afael ag unigrwydd, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu eu cefnogi drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn y gorffennol. Ar y mater a godwyd gennych...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant (15 Meh 2022)

Lynne Neagle: We are committed to ensuring all neurodiverse children, young people and adults receive equal access to assessment and support. We are working with our stakeholders, including neurodiverse women, to make sure that their needs are central in developing sustainable neurodevelopmental services across Wales.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diabetes (29 Meh 2022)

Lynne Neagle: Yn ffurfiol.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diabetes (29 Meh 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw? Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd bellach yn byw gyda diabetes, yn enwedig math 2, yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom boeni yn ei gylch. Mae'r cynnydd mewn diabetes yn broblem fyd-eang. Nid oes ond raid inni edrych ar gyfraddau yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae gan dros 34...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Mae swyddogion yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ystyried sut y gallwn ddatblygu ystod o raglenni drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n fframwaith presgripsiynu cymdeithasol arfaethedig. Bydd y rhaglenni hyn yn cynnwys ffocws ar iechyd corfforol a meddyliol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Heledd, a chytunaf yn llwyr fod cwpan y byd yn rhoi cyfle gwirioneddol dda inni ddefnyddio grym a brwdfrydedd pêl-droed i fynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu. Nid wyf wedi gweld y papur y cyfeiriwch ato, ond byddaf yn sicr yn gofyn am gael copi ohono. Er mwyn ehangu ychydig ymhellach ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd, fel y dywedais, mae uwch...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, James. Mae hwn yn sicr yn fater trawslywodraethol. Fel y gwyddoch, mae ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn gynllun trawslywodraethol, gyda'r holl Weinidogion yn cyfrannu at yr hyn y ceisiwn ei wneud. Yn amlwg, mae yna rôl bwysig iawn i addysg, ac rydym mewn sefyllfa unigryw o dda yng Nghymru gyda'n cwricwlwm newydd, gyda'n maes dysgu sy'n canolbwyntio...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal â'i ddyraniad a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn £4.9 miliwn ychwanegol o gyllid iechyd meddwl rheolaidd eleni i barhau i wella cymorth iechyd meddwl.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Llyr, ac roeddwn yn falch iawn fod sied y dynion ar agor eto, a gwelais ar Twitter eich bod wedi gallu ymweld â hwy i ddathlu'r agoriad hwnnw. Bu swyddogion yn holi'r bwrdd iechyd beth oedd y sefyllfa mewn perthynas â chau sied y dynion yn sydyn. Roeddwn wedi cael e-bost yn ei gylch yn fy mewnflwch fel Aelod o'r Senedd, felly llwyddais i roi gwybod i swyddogion, a chawsom y sicrwydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yr Agenda Gofal Iechyd Ataliol (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco, rydym yn cydfuddsoddi, gyda byrddau iechyd lleol, mewn nifer o raglenni ac ymyriadau sy'n cefnogi canlyniadau iechyd y boblogaeth.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yr Agenda Gofal Iechyd Ataliol (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, John, a gwn eich bod yn un o gefnogwyr brwd y rasys parkrun, a chredaf eu bod yn chwarae rhan enfawr yn sicrhau y gallwn gael pobl yn fwy egnïol ac rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi. Cyn y pandemig, roedd fy swyddogion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a parkrun UK ynghylch rhaglen i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Atal Clefyd y Galon (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Gall unigolion roi amrywiaeth o gamau ar waith i leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, drwy beidio ag ysmygu, cynnal pwysau iach ac ymarfer corff yn rheolaidd, er enghraifft. Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Atal Clefyd y Galon (13 Gor 2022)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Mike. Fe fyddwch yn falch o wybod bod gennym strategaeth gwrth-ordewdra gynhwysfawr iawn yng Nghymru o'r enw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae'n strategaeth 10 mlynedd yr ydym yn ei rhannu'n gynlluniau cyflawni dwy flynedd fel y gallwn ganolbwyntio'n iawn ar sicrhau ein bod yn cyflawni mewn maes sy'n wirioneddol gymhleth. Mae'n faes hynod heriol, oherwydd gwyddom i gyd am...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf (11 Hyd 2022)

Lynne Neagle: Diolch. Ddoe fe wnaethom nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'r Llywodraeth hon yn gadarn yn ei hymrwymiad i wella'r amddiffyniad a'r gefnogaeth i iechyd meddwl a lles. Dangosir hyn drwy fy mhenodi yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant dynodedig a gosod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae effaith y coronafeirws ar iechyd...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf (11 Hyd 2022)

Lynne Neagle: Gyda'r buddsoddiad hwn, rydym wedi trawsnewid gwasanaethau a weithredir ar ddechrau'r strategaeth. Mae hyn yn cynnwys creu timau iechyd meddwl sylfaenol lleol ledled Cymru, timau datrys argyfwng a thrin yn y cartref, gwasanaethau cyd-gysylltu seiciatrig a thimau amenedigol cymunedol. Rydym hefyd wedi sefydlu un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc er mwyn...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf (11 Hyd 2022)

Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny? Yn amlwg, roedd llawer o faterion yno i ymateb iddyn nhw. Os gallaf godi, yn gyntaf oll, eich sylwadau am yr adrodd ar strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud i'r fforwm partneriaeth iechyd meddwl cenedlaethol, yn ogystal â chyrff eraill. Hefyd, rwyf wedi sefydlu—wel, sefydlodd fy...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf (11 Hyd 2022)

Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei sylwadau, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth o'r gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud drwy'r strategaeth? Rwy'n cytuno'n llwyr bod yn rhaid i ni gael hyn yn iawn, ac, fel rydych chi wedi'i gydnabod, rydym wedi cynyddu buddsoddiad yn aruthrol. Gwnaethoch chi gyfeirio at y problemau parhaus gydag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rwy'n credu bod yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.