Bethan Sayed: Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd clywed. Fe wnaethoch chi ddweud nad ydych—
Bethan Sayed: Iawn. Rwyf i ond yn gofyn o ran Araith y Frenhines, gan ein bod wedi clywed yr wythnos hon y bydd Llywodraeth y DU yn symud i ymestyn dedfrydau yn y DU, ac wrth gwrs, nid yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eto wedi rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer carchar enfawr yn ne Cymru. Efallai eu bod wedi rhoi'r gorau i gynllun Port Talbot, ond nid yw cynllun uwch-garchar de Cymru wedi'i ddileu. Yng...
Bethan Sayed: O ran fy mater cyntaf, efallai eich bod wedi gweld erthygl dda iawn ar WalesOnline yn ystod y dyddiau diwethaf am y ffaith bod Heddlu Gwent wedi'u cyhuddo o guddio sefyllfa swyddog heddlu a oedd yn ymddwyn yn ormesol, yn gor-reoli nifer o fenywod a oedd hefyd yn swyddogion yr heddlu, ac yn cam-drin rhai yn gorfforol. Dim ond rhybudd a gafodd, ni chafodd ei arestio. Roedd y system yn ei...
Bethan Sayed: Roeddwn yn awyddus i ganolbwyntio ar argymhelliad 5 a chylch gwaith y swyddfeydd tramor a sut y dylid eu cyfleu i fusnesau a sut y gellir gwneud y gorau ohonynt. Gwn, er enghraifft, fod gennych dair swyddfa yn India, ond rwyf hefyd yn gwybod am lawer o fusnesau yma yng Nghymru sydd â chanolfannau yn India nad ydynt yn cael unrhyw ohebiaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cwblhau eu...
Bethan Sayed: Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag aneddiadau Israelaidd yn y Lan Orllewinol?
Bethan Sayed: Mae yna lot o ffocws ar sgiliau athrawon yn y sector statudol o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond does dim cymaint o ffocws ar sgiliau y rheini sy'n dysgu yn addysg bellach o ran sut maen nhw'n medru'r Gymraeg. Yn ystod y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar, daeth Comisiynydd y Gymraeg i mewn atom i ddweud bod yna ddiffyg data yn bodoli ynglŷn â faint o sgiliau sydd yn...
Bethan Sayed: Diolch. Weinidog, mawr oedd yr angen am y £2 filiwn a gyhoeddodd eich Llywodraeth yn gynharach eleni ar gyfer mentrau iechyd meddwl mewn prifysgolion, a mawr oedd y croeso iddo. Ac fe ddywedoch wrthyf ym mis Gorffennaf mai bwriad y cyllid hwn oedd datblygu dull ysgol gyfan a fyddai'n cefnogi staff yn ogystal â myfyrwyr. Ond ar yr un pryd, credaf mai £175,000 yn unig a roesoch i...
Bethan Sayed: Iawn, a diolch am y diweddariad hwnnw. Pan fydd gennych fwy o wybodaeth, byddai'n ddefnyddiol ei rhannu, oherwydd wrth gwrs, gwn fod myfyrwyr addysg bellach a'u staff yn wynebu'r un heriau â myfyrwyr a staff addysg uwch. Yn amlwg, un o'r rhesymau pam fod prifysgolion wedi ymgeisio neu ymgyrchu am arian ar gyfer mentrau iechyd meddwl oedd y gwaith a wnaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn...
Bethan Sayed: Diolch. Er eglurder, nid oeddwn yn dweud nad oeddent yn gwneud eu gwaith yn effeithiol; roeddwn yn dweud eu bod wedi cysylltu â mi gan ddweud, 'Edrychwch, rydym yn gwybod ein bod yn gwneud gwaith ym maes addysg bellach, ond rydym yn ei chael hi'n anodd gan fod hwnnw mor dameidiog', ac felly mae a wnelo hyn â sut y gellir eu helpu i fod yn fwy effeithiol pan fyddant yn mynd i'r sefydliadau...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer pobl anabl?
Bethan Sayed: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar addasiadau tai a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hyn o beth. Rwy'n gofyn hynny gan fod gennyf i etholwraig sy'n dioddef o salwch difrifol iawn sydd wedi ei gadael mewn cadair olwyn. Mae hi yn ei 30au cynnar. Yn ddiweddar, bu'n rhaid iddi aros mewn Holiday Inn—mae gwestai eraill ar gael—ond fe dalwyd am hynny gan yr awdurdod lleol...
Bethan Sayed: Yn amlwg, nid yw hyn yn syndod i unrhyw un sy'n deall y diwydiant dur. Mae llawer o'r bobl yr wyf eisoes wedi siarad â nhw heddiw a ddoe, ers y newyddion, wedi dweud, 'Wel, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei ddisgwyl', ar ôl iddyn nhw weld y cyd-fenter yn methu. A wnewch chi ddweud wrthyf i—? Yn y datganiad ddoe, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn dymuno cyfarfod brys â Tata o...
Bethan Sayed: Codwyd y mater hwn gyda mi, fel llefarydd addysg uwch dros Blaid Cymru, gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy'n poeni pa mor gyflym y mae rhai o'r fflatiau hyn yn cael eu hadeiladu, a'r ymchwydd sy'n digwydd yma yng Nghymru hefyd, a sut y mae hynny'n effeithio ar fyfyrwyr. Maent wedi dweud wrthyf fod myfyrwyr, weithiau, yn cael eu rhoi mewn fflatiau pan nad yw'r llety cyfan wedi'i orffen, ac...
Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r adran economi a thrafnidiaeth i wella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant? OAQ54767
Bethan Sayed: Diolch, ac rwy'n croesawu'r adolygiad penodol hwnnw, gan ein bod yn gweld tueddiadau sy'n peri gofid gan awdurdodau lleol sy’n brin o arian i leihau cefnogaeth i opsiynau i ddysgwyr yng Nghymru. Rydym wedi gweld cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymgynghori ar newidiadau i drafnidiaeth ôl-16 yn gynharach eleni, y bu’n rhaid rhoi'r gorau iddynt yn sgil y gwrthwynebiad, a bellach mae...
Bethan Sayed: Beth yw eich cynlluniau—? Fel y dywedais yn gynharach—soniais am brentisiaethau. Beth yw eich cynlluniau yn hyn o beth i sicrhau bod prentisiaethau yn ganolog yn y cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol? Gwn, wrth gwrs, fod hwn yn faes sydd yn y briff economi a thrafnidiaeth, ond yn fy marn i—ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno—dylid ystyried prentisiaeth i bobl ifanc fel estyniad...
Bethan Sayed: Cyn y cwestiwn hwn heddiw, siaradais â nifer o bobl ag awtistiaeth. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n aml yn cael eu denu at addysg uwch, ac mae rhai ohonyn nhw yn aml yn orgymwysedig gan eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel o gael y cefndir academaidd hwnnw, a diogelwch mewn dysgu, yn hytrach na wynebu marchnad swyddi lle y gallen nhw, o bosibl, gael eu stigmateiddio, a'u bod nhw'n canfod...
Bethan Sayed: Hoffwn i godi'r pryder sydd wedi dod i'r amlwg neithiwr os oeddech chi'n gwylio Newyddion 9 bod lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru'n cael eu hanghofio wrth i gyfrifiad 2021 gael ei gynnal. Yn benodol, y consérn yw na fydd yna unrhyw beth yn rhagor o ran opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes, oni bai eich bod chi'n wyn. Nawr, mae hwn yn hollol anghyfrifol. Allaf i ddiolch hefyd,...
Bethan Sayed: Rwy'n gwybod bod llawer o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn ond rwy'n gwybod, o'm safbwynt i, nad wyf yn gwerthfawrogi'r diferion o wybodaeth sy'n dod i'r amlwg fel hyn, yn enwedig yn y cyfnod hwn sy'n arwain at y Nadolig. Nid yw'n weithredu blaengar ar ran y cwmni ac mae hefyd yn erydu hyder y gweithlu. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae'r cyfan wedi bod yn eithaf cyfrinachol. Nid yw llawer...
Bethan Sayed: Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch wrth bawb a ddaeth i roi tystiolaeth oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod yn groestoriad da o gymdeithas ac roedd yn ddiddorol clywed eu profiadau o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Roedd rhai yn eithaf cadarnhaol, er nad oedd eraill, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ymhelaethu ar hynny yma heddiw. O'n hymchwiliadau ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau,...