Canlyniadau 6901–6920 o 7000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (14 Chw 2023)

Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £1.6 biliwn i helpu aelwydydd gyda'u costau byw drwy raglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi pobl, gan gynnwys ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y grant datblygu disgyblion—mynediad a’r cynnig gofal plant, yn ogystal â'n taliad costau byw, ein cynllun cymorth tanwydd a'n hymgyrchoedd i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwaith i Bobl Ifanc (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, bywiogrwydd parhaus yr economi yn y gogledd-ddwyrain yw'r cymorth gorau un i bobl ifanc sy'n dechrau gweithio yn etholaeth yr Aelod. I'r rhai ymhellach o'r farchnad lafur, mae'r warant i bobl ifanc yn cynnig amrywiaeth o gymorth i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith, a'u gosod ynddo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwaith i Bobl Ifanc (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn cyfres o gyfarfodydd â chyflogwyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac nid prinder gwaith yw'r stori allan yna, fel y gwyddoch, erbyn hyn, ond prinder gweithwyr. Mae 330,000 yn llai o bobl yn y gweithlu ar draws y Deyrnas Unedig nag yr oedd yn 2016. Ac mae hynny'n golygu bod cyflogwyr yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwaith i Bobl Ifanc (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae'n ei wneud, ac nid addysg uwch yn unig, ond addysg bellach hefyd, ac mae'r gogledd yn arbennig o wyn ei byd, rwy'n credu, o ran ansawdd yr addysg bellach sy'n cael ei darparu i bobl ifanc yn y rhanbarthau hynny.  Rydyn ni'n gwybod bod profiad y pandemig yn golygu bod gan hyd yn oed bobl ifanc sydd wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ailosod Pont Llannerch (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau bod y cyngor wedi gwneud cais am gyllid trwy ein cronfa ffyrdd cydnerth i gynorthwyo gydag ailosod y bont.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ailosod Pont Llannerch (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Gareth Davies am y cwestiynau pellach yna. Rwy'n cytuno ag ef—yn sicr nid yw'n fater o ddadlau gwleidyddol bod angen diwallu anghenion y trigolion lleol hynny. Fel rheol, Llywydd, mae'r gronfa ffyrdd cydnerth yn cymryd ceisiadau gan gynlluniau sy'n bodoli eisoes yn unig, ond yn yr achos hwn, gan fod y bont wedi cael ei dinistrio gan achosion naturiol, gwnaed eithriad fel...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, nid wyf i'n credu, fy hun, Llywydd, y gallai fod wedi bod yn syndod i unrhyw un a oedd yn weddol gyfarwydd â gweithrediad y bwrdd. Rwy'n edrych nawr ar y llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, aelod o grŵp arweinydd yr wrthblaid ei hun, at y Gweinidog pan alwodd am gael gwared ar y bwrdd yn gyfan gwbl, gan gynnwys aelodau annibynnol y canfyddir nad ydyn nhw'n gallu cyflawni'r hyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Rwy'n deall nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'r hyn yr wyf i'n credu y mae angen iddo ei wneud yw caniatáu i'r stori barhau i ddatblygu. Yr hyn a welsoch chi ddoe oedd y gyfres gyntaf o fesurau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd. Ceir beirniadaethau gwirioneddol iawn o aelodau gweithredol a bydd angen rhoi sylw i'r rheini hefyd. Ni ddylid cymryd y ffaith na chymerwyd y camau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, y cam cyntaf yw penodi nifer fach o unigolion i gyflawni'r swyddogaethau cyfreithiol ac i sefydlogi'r sefydliad. Rydych chi'n gwybod bod cadeirydd wedi ei benodi a bydd tri aelod arall ochr yn ochr â'r cadeirydd, a'u gwaith yn y tymor byr yw sefydlogi'r sefydliad, i ganolbwyntio ar benodi prif weithredwr newydd. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid yw hyn:...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, cymerodd y Gweinidog iechyd Llafur gyfrifoldeb ddoe, a cheir 60 munud i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, o ystyried ei gyfraniad hyd yn hyn y prynhawn yma, rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno myfyrio ar ei ddefnydd o'r gair 'gwamal' yng nghyswllt cyfraniadau unrhyw un arall. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn gyhuddiad gwarthus bod y penderfyniadau a wnaed ym mis Tachwedd 2020 wedi'u hysgogi gan unrhyw beth heblaw'r cyngor a gafodd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, cyhoeddwyd adroddiad y King's Fund ym mis Tachwedd 2022, nid ym mis Tachwedd 2020, pan wnaed y penderfyniad. Rwy'n cynghori'r Aelod i ddarllen yr hyn a ddywedwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain ar 6 Rhagfyr, pan wnaethon nhw ddweud mai problem GIG Cymru oedd y bloeddiwyd 'blaidd' yn rhy aml, gan gynnwys ganddyn nhw, ac rwy'n credu ei fod ef yn gwneud hynny eto heddiw. Mae GIG...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plaladdwyr Niweidiol (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, ein polisi yw lleihau, i'r lefel isaf bosibl, effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a'r amgylchedd ehangach. Bu gostyngiad cyson yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yng Nghymru dros y cyfnod datganoli, ond mae mwy y gallwn ni, ac y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plaladdwyr Niweidiol (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pellach yna. Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd. Mae newyddion da, rwy'n credu, yn yr ymateb iddo: mae'r nodyn sydd gen i yn dweud wrthyf fod y defnydd o atrasin, hecsaclorobensin a methomyl eisoes wedi ei wahardd yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Mae'r defnydd o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plaladdwyr Niweidiol (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plaladdwyr Niweidiol (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, a'r Senedd, wedi mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â'r mater o addasu planhigion yn enetig erioed; rwy'n credu ein bod ni'n iawn i wneud hynny. Rwy'n credu pe gallem ni fod yn sicr y byddai'n cael ei wneud yn y ffordd yr amlinellodd Sam Kurtz, byddai hynny'n fater gwahanol, ond ni allwn fod yn sicr, oherwydd mae'r rhain yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Roedd y ganolfan yn rhan o gais Cyngor Gwynedd i gronfa ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig; doedd y cais ddim yn llwyddiannus. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn helpu partneriaid lleol i chwilio am gyllid arall. Bydd Gweinidog yr Economi yn trafod hyn yn ei gyfarfod gydag arweinydd Cyngor Gwynedd ar 6 Mawrth.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn ychwanegol. Dwi'n cytuno, wrth gwrs: siomedig oedd e fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn fodlon cefnogi'r cais roedd Cyngor Gwynedd wedi'i roi i mewn. Llywydd, fe ges i'r cyfle nôl ym mis Ionawr i gwrdd ag arweinydd y cyngor ac eraill yng nghanol Bangor ac i glywed oddi wrth yr arweinydd am y prosiectau sydd yna i adfywio...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deintyddiaeth i Blant (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'n rhaid i atal nid ymyrryd fod y nod i ofal deintyddol o ansawdd da i blant. Mae'r Cynllun Gwên yn gweithredu'n llawn eto bellach, ac mae bron i 240,000 o blant wedi cael eu trin mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol ers mis Ebrill 2022. O'r nifer hwnnw, mae dros 55,000 yn gleifion newydd.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deintyddiaeth i Blant (28 Chw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i James Evans am hynna, Llywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod yn wreiddiol ar y papur trefn heddiw bod datganiad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau ym maes gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, ac un o'r pethau y byddai wedi eu hadrodd i'r Senedd oedd syniadau ar gyfer ymdrin â gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig, a'r posibilrwydd o ddeintyddiaeth symudol mewn ysgolion uwchradd....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.