Mark Drakeford: Fe wnaeth y Gweinidog gyfarfod gyda'r cwmni dŵr dan sylw ddoe. Nid oes unrhyw gynnig penodol ar y bwrdd ar hyn o bryd. Pe bai cynnig o'r fath yn cael ei gyflwyno, yna bydd yn rhaid iddo fodloni gofyniad Deddf yr amgylchedd yma yng Nghymru. Bydd angen cyflwyno penderfyniadau i Weinidogion Cymru iddyn nhw gymryd rhan ac, wrth gwrs, trwy wneud hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr bod buddiannau...
Mark Drakeford: Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â'r porthladdoedd, gan gynnwys ynni gwynt arnofiol ar y môr, y rhaglen porthladdoedd rhydd a safleoedd rheoli ffiniau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi sylw arbennig i effaith fframwaith Windsor ar gystadleurwydd porthladdoedd Cymru.
Mark Drakeford: Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu unrhyw gynnydd a wnaed ar ddatrys y problemau sydd heb eu datrys o ran protocol Gogledd Iwerddon. Yn ystod y cyfnod na fu unrhyw Weithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, rwyf i wedi cadw mewn cysylltiad ag arweinwyr yr holl brif bleidiau. Yn ystod yr hydref, cefais gyfarfod gyda Michelle O'Neill, arweinydd Sinn Féin,...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, y canlyniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio yw ein bod ni'n cynnal y lefel uchaf o wasanaeth rhwng porthladdoedd Cymru, Abergwaun a Doc Penfro, a dyna'r ydym ni wedi bod yn canolbwyntio arno yn nyddiau anodd y blynyddoedd diwethaf. Ansicrwydd sy'n ysgogi cwmnïau i gael y math o drafodaethau y mae Sam Kurtz yn eu crybwyll. Y gobaith yw y bydd cytundeb protocol Gogledd...
Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Dwi'n cytuno—un o'r pethau rŷn ni'n mynd i gadw llygaid arno dros yr wythnosau i ddod yw gweld, yn y cytundeb newydd, os oes yna fwy o bwyslais ar gwmnïau i fynd yn syth o'r Deyrnas Unedig i Ogledd Iwerddon. Bydd y manylion yn bwysig, a dydy'r manylion ddim gyda ni eto, ond rŷn ni yn mynd i fod yn benderfynol i fynd ar ôl y...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn ychwanegol yna.
Mark Drakeford: Wrth gwrs, mae hi yn llygad ei lle ei fod yn ganolog i ddyfodol nid yn unig y porthladdoedd eu hunain ond economi Cymru bod gennym ni'r buddsoddiad hwnnw mewn ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei wneud i greu'r dyfodol hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu dweud bod y cydsyniadau sydd eu hangen ar gyfer prosiect Erebus, yr arddangosiad masnachol gwirioneddol cyntaf o...
Mark Drakeford: Llywydd, rydyn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdodau lleol ar draws cymoedd gogleddol de Cymru a phrifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd y rhanbarth.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am hynna. Rwyf i wedi ei glywed ar nifer o achlysuron ar lawr y Senedd yn dadlau bod yn rhaid i ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd fod yn fwy na ffordd osgoi, fel yr wyf i wedi ei glywed yn dweud; mae angen iddi fod yn rhywbeth sy'n creu ffyniant ar ei hyd cyfan. Mae'n iawn i ddweud fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i allu cymryd diddordeb yn y datblygiad drwy...
Mark Drakeford: Rwy'n credu bod dau neu dri o bwyntiau i'w gwneud. Yn gyntaf oll, ni fyddai'r buddsoddiad yn y coleg ym Mlaenau Gwent wedi bod yn bosibl oni bai am y buddsoddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn y datblygiad hwnnw eisoes ac, yn wir, buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd a wnaed ynddo. Llywodraeth y DU yw'r trydydd partner a'r partner olaf i wneud cyfraniad, ac ni fyddai eu cyfraniad nhw...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Awdurdodau lleol sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau ansawdd addysg ysgolion yn eu hardaloedd lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r ymdrechion hynny drwy, er enghraifft, weithredu'r Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mark Drakeford: Llywydd, yn gyntaf oll, hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau mai Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig lle cafwyd gwelliant ym mhob un o dri dimensiwn PISA pan gyhoeddwyd y ffigurau hynny ddiwethaf. Gwn fod Aelodau Ceidwadol yn meddwl mai eu gwaith nhw yw difrïo Cymru, ond, mewn gwirionedd, roedd y canlyniadau PISA ar ben arall y sbectrwm hwnnw. Pe bawn i yn lle'r Aelod, ni fyddwn o reidrwydd...
Mark Drakeford: Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd yr asesiad hwnnw yn 'Llwybr Newydd', sef strategaeth trafnidiaeth Cymru. Mae hwnnw'n cadarnhau pwysigrwydd cysylltedd ffyrdd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy, a asesir yn ôl yr anghenion sy'n amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mark Drakeford: Rwy'n diolch i Russell George am hynna, Llywydd, ac rwy'n gwybod y bu ef yn eiriolwr diflino dros y cynllun yng Nghaersŵs. Fe welais ei fod wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog ar lawr y Senedd yn ôl ar y 15 o fis Chwefror, ac mae ef yn iawn i ddweud bod y cynllun am fynd yn ei flaen, yn dilyn yr adolygiad o ffyrdd, am rai o'r rhesymau, gan gynnwys y rhesymau o ran diogelwch, a nododd yr...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae tair afon sy’n ardaloedd cadwraeth arbennig o fewn etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Mae afon Glaslyn ac afon Gwyrfai yn cyrraedd y safon ffosffad, tra bod afon Dyfrdwy yn methu. Byddaf yn cadeirio ail uwchgynhadledd ar ffosffad yfory, er mwyn cyflymu'r camau sydd eu hangen i wella ansawdd dŵr yn yr afonydd sy’n ardaloedd cadwraeth arbennig.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y pethau hyn yn ymwybodol o'r pwyntiau mae'r Aelod wedi eu gwneud, achos roedd hi wedi cael cyfle i ymweld â'r rheilffordd nôl yn yr haf. Y pwynt sylweddol yw hwn: ni allwn ni fwrw ymlaen i gytuno i ddatblygiadau ble dyw'r ffosffad ddim wedi ei gymryd i mewn i'r cynllun mewn ffordd sydd ddim yn cynyddu'r problemau sydd gyda ni yn barod. Mae...
Mark Drakeford: Diolch i Heledd Fychan. Llywydd, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd i gefnogi aelwydydd bregus. Rhai o’r camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar draws Cymru yw help uniongyrchol gyda chost y diwrnod ysgol, prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd a mesurau i fynd i’r afael â llwgu yn ystod y...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, wrth gwrs dwi'n cydnabod y cyd-destun anodd, fel mae Heledd Fychan wedi'i ddweud, ac yn anffodus mae hwnna'n mynd i waethygu yn y mis nesaf. Ar ddechrau mis Ebrill, bydd costau ynni yn cynyddu, mae pethau yn y maes trethi incwm yn mynd i rewi ac mae hwnna'n mynd i gael effaith ar incwm aelwydydd ledled Cymru, a bydd nifer fawr o bobl yng Nghymru yn wynebu costau morgais yn mynd...
Mark Drakeford: The Welsh Government is determined that citizens from other countries who have chosen to live, study, visit, or work in Wales feel welcomed and valued members of our communities. If students are in poor condition private accommodation, they should report any repairs or maintenance issues to their landlord in the first instance.
Mark Drakeford: The UK Government has created trade barriers for Welsh businesses which are making imports and exports more burdensome and contributing to price pressures being felt by consumers. The loss of EU funding is now resulting in job losses and the closure of vital skills and business support programmes across Wales.