Alun Davies: Ni oedd y dyfodol. [Chwerthin.] A gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu ymuno â'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan mewn dadl ynghylch natur ein democratiaeth. Nod y cynigion a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau ar gryfhau democratiaeth leol, oedd gwneud yn union hynny: cryfhau cyfranogiad gwleidyddol, cryfhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau a...
Alun Davies: A gaf fi roi croeso mawr iawn i adroddiad y panel ar gynghorau tref a chymuned a ddaeth i law ar 3 Hydref? Roeddwn yn credu bod yr argymhellion yn argyhoeddiadol iawn mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Rwy'n hoff iawn o gynghorau tref a chymuned lleol. Gwn ein bod wedi elwa'n fawr o waith Cyngor Tref Tredegar gartref. A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod nifer o ffyrdd yr hoffwn fwrw ymlaen â'r...
Alun Davies: Amlinellais fy nghynlluniau ar gyfer camau nesaf y broses o ddiwygio llywodraeth leol yn fy natganiad ar 17 Gorffennaf.
Alun Davies: Lywydd, nid wyf yn siŵr fod CLlLC yn drysu, ond credaf fod yr Aelod yn drysu. Mae wedi drysu rhwng nifer o wahanol faterion o fewn un cwestiwn, ac rwy'n derbyn bod hynny'n dipyn o gamp. Gadewch imi ddweud hyn wrtho: nodais fy mwriadau yn y datganiad ar 17 Gorffennaf. Mae'n ymddangos nad yw'n gwybod hynny, ac efallai y dylai wybod hynny. Bydd fy nghyfarfod nesaf â'r gweithgor ar 30 Tachwedd...
Alun Davies: Mae'r Aelod yn gofyn i mi adael i bobl eraill gymryd yr awenau yn ei chwestiwn. Wrth gwrs, mewn cwestiwn blaenorol, roedd hi'n mynnu fy mod i'n cymryd yr awenau. Credaf fod angen iddi benderfynu.
Alun Davies: Nid oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd ar ddefnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia. Mater i'r RAF a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw'r defnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddiant. Fodd bynnag, cyfarfûm â'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach yr wythnos hon a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn eto yr wythnos nesaf.
Alun Davies: Lywydd, mae'r Aelod yn ymwybodol, a chredaf fod yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ymwybodol, nad mater i'r lle hwn yw materion gweithredol y Llu Awyr Brenhinol, ac nid yw'n fater priodol i'w drafod yma. Bydd gan bawb ohonom ein barn ar ddigwyddiadau'r byd, megis y rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a bydd gennym i gyd farn ar hynny. Yr hyn sy'n fater ar gyfer y lle hwn, a'r...
Alun Davies: Lywydd, fel rwyf wedi dweud eisoes, bydd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr eu barn eu hunain ar ddigwyddiadau byd-eang a'r rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a chredaf y byddem oll yn rhannu barn debyg ynglŷn ag effaith rhyfela ar sifiliaid, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ac rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, nid mater ar gyfer y lle hwn yw dadlau neu drafod...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy roi teyrnged i waith fy ffrind a fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer ohonom, ac mae ein meddyliau gyda Bernie, Jack a Lucy a'r teulu. Ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn meddwl am y gwaith a wnaeth...
Alun Davies: Ddoe, ceisiais amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Hoffwn groesawu'n gynnes iawn y sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl y prynhawn yma. Roeddwn yn teimlo iddo wneud rhai sylwadau rhagorol, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar a gwerthfawr i'r ddadl hon. Byddaf yn ceisio ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed yn y...
Alun Davies: Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro, sy’n cynnwys manylion y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn 2019-20. Gyda’i gilydd, bydd awdurdodau yn y gogledd yn derbyn dros £900 miliwn o gyllid setliad a byddant yn elwa ar dros £800,000 o gyllid gwaelodol, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Alun Davies: I meet regularly with local authority leaders and the WLGA to discuss local government matters, including finance. The financing of local government services in Islwyn is a matter for the local authority.
Alun Davies: I have always been clear about the importance of Welsh Government and local government working in partnership for the benefit of communities across Wales.
Alun Davies: Local authorities will engage with a range of preventative service providers, in a range of ways, across their responsibilities.
Alun Davies: In my oral statement yesterday, I announced funding of £500,000 to support armed forces liaison officers for two years from 2019, to enable them to ensure covenant guidelines and services are embedded within local authorities' mainstream support in the future.
Alun Davies: Collectively, the local authorities in South Wales East will receive over £900 million of settlement funding in 2019-20 and will benefit from over £700,000 of floor funding, fully funded by the Welsh Government.
Alun Davies: I meet regularly with local authority leaders to discuss finance and other matters.
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd yn falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny'n haeddiannol hefyd. Maen nhw'n ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn anhunanol i fygythiadau difrifol i'n diogelwch. Yn fwy na hynny, mae eu gwaith ataliol wedi helpu i leihau nifer y tanau a nifer y bobl sy'n cael eu hanafu gan danau o fwy na hanner ers datganoli'r cyfrifoldeb i Gymru yn 2005. Mae hynny'n...
Alun Davies: Mae gennym ni eisoes nifer o orsafoedd tân yng Nghymru sydd fel arfer yn ymdrin â llai nag un alwad brys i ddiffodd tân bob mis, a llawer sy'n gweld dim ond ambell ddwsin y flwyddyn. Rydym ni'n deall nad yw hyn yn gynaliadwy a'i fod yn gwneud recriwtio, ysgogi a chadw diffoddwyr tân yn anodd iawn. Ond ni ddylid cau gorsafoedd o'r fath chwaith, oherwydd byddai hynny'n gadael rhannau...