John Griffiths: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu, Prif Weinidog, os ydym ni am fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni ddiogelu ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn iawn, ac rwy'n diolch yn fawr i chi am eich ymrwymiad, ac yn wir ymrwymiad eich cyd-Aelod Julie James, i'r gwastadeddau hynny, ac yn wir rwyf wedi bod yn falch iawn o gadeirio gweithgor gwastadeddau Gwent. A fyddech...
John Griffiths: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyfryngau i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru? OQ58153
John Griffiths: Prif Weinidog, roedd hi'n ben-blwydd y South Wales Argus yn 130 oed yr wythnos diwethaf, papur sydd wedi'i wreiddio ers tro byd yn ein cymunedau lleol. Fel yn achos llawer o bobl leol, roedd y South Wales Argus bob amser yn fy nhŷ pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ac mewn gwirionedd, yn fy arddegau cynnar, roeddwn i'n danfon y South Wales Argus ar fy meic fel bachgen papur. A nawr, wrth gwrs, fel...
John Griffiths: Gweinidog, roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich cyfarfod ag Urban Circle, sefydliad celfyddydol a diwylliannol ar lawr gwlad yng Nghasnewydd sy'n gwneud llawer iawn o waith da yn y gymuned o ran cerddoriaeth, dawns a diwylliant i ddod â chymunedau at ei gilydd ac i gefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb. Dim ond yr haf yma, fel y byddech yn gwybod o'n cyfarfod, maen nhw'n bwrw ymlaen â rhaglen...
John Griffiths: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged, fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r pwyllgor, i Huw a'i gyd-Aelodau, i Mark Drakeford am ei arweinyddiaeth a'r ffordd y mae wedi gyrru hyn yn ei flaen, gan weithio mewn partneriaeth ag Adam Price a Phlaid Cymru, a thalu teyrnged hefyd i bawb a ymgyrchodd dros senedd i Gymru am gynifer o flynyddoedd—cenedlaethau a oedd â hynny'n nod, fel delfryd, oherwydd...
John Griffiths: Mae cynnydd pellach i'w wneud, Andrew, ond dewch, os edrychwch ar yr amrywiaeth ar feinciau Llafur yn awr a thrwy gydol hanes datganoli a'i gymharu â'ch meinciau chi yn awr ac o'r blaen, nid oes cymhariaeth o gwbl. [Torri ar draws.] Darren, nid oes diben dadlau'r pwynt, edrychwch ar eich perfformiad eich hun a'ch plaid, eich sefydliadau a'ch strwythurau chi eich hun. Ddirprwy Lywydd, gwn mai...
John Griffiths: Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad heddiw, ond diolch yn fawr iawn i chi hefyd am eich ymrwymiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â diogelwch a chynaliadwyedd ar gyfer gwastadeddau Gwent. Fel y gwyddoch, chi, mae llawer iawn o waith da eisoes wedi digwydd drwy'r bartneriaeth Lefelau Byw, ac mae gwir angen i ni ddatblygu hynny drwy gorff a all fwrw ymlaen â'r gwaith...
John Griffiths: Iawn. Diolch yn fawr.
John Griffiths: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58184
John Griffiths: Weinidog, yn ardal Severnside yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi gweld llawer iawn o gynnydd yn nifer y tai dros y blynyddoedd diwethaf, yn ardaloedd Magwyr, Rogiet, Gwndy a Chil-y-coed a'r cyffiniau, ond nid ydym wedi gweld y math o gynnydd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a fyddai'n adlewyrchu'r cynnydd yn y boblogaeth. Ac mae llawer o bobl yn yr ardaloedd hyn bellach yn...
John Griffiths: Yn wir. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad ac am eich gwaith. Rwyf i o'r farn bod Cymru wedi cymryd camau breision ar y ffordd yr ydym yn croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yma ac yn gofalu amdanyn nhw ac yn darparu'r gwasanaethau angenrheidiol iddyn nhw pan fyddan nhw yn ein gwlad. Mae'n dda iawn gweld hynny, ac rwy'n credu bod y genedl noddfa yn darparu fframwaith a...
John Griffiths: Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad heddiw. Roeddwn i eisiau dweud ychydig am awdurdodau lleol yng Nghymru a'r rhan bwysig sydd ganddyn nhw, a gofyn a fyddech yn cytuno â mi fod Cyngor Dinas Casnewydd mewn gwirionedd yn gwneud llawer o bethau da ar hyn o bryd ac yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar y materion hyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cynllun gweithredu...
John Griffiths: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dosbarth cymdeithasol ar gyfleoedd bywyd yng Nghymru?
John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cynllun cymorth disgresiynol ar gyfer costau byw Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw?
John Griffiths: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Gorau arf, dysg: addysg fel llwybr allan o dlodi. Lywydd, bydd Mike Hedges, Luke Fletcher a Laura Anne Jones yn cyfrannu at y ddadl fer hon. Lywydd, ar lyfrgell Pilgwenlli, ceir maen clo ar ben yr adeilad sy'n nodi bod gwybodaeth yn bŵer. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod, ar ôl cael fy ngeni a fy magu ym Mhilgwenlli, sydd bellach yn cael ei gynrychioli mor fedrus fel rhan o...
John Griffiths: Mae grym addysg yn werthfawr iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd fy llwybr fy hun allan o'r hyn y tybiaf ei fod yn dlodi cymharol drwy addysg a dysgu gydol oes. Euthum i'r ysgol uwchradd, Ddirprwy Lywydd, ond yn anffodus ni sefais unrhyw arholiadau, ac wedi hynny roeddwn am gyfnod yn ddi-waith a theulu ifanc gennyf, yn byw ar ystâd cyngor yng Nghasnewydd, ac yn meddwl nid yn unig am fy...
John Griffiths: A nodwn fod gwir angen darparu pa gyfleoedd bynnag y gallwn eu darparu i ganiatáu i bobl helpu i wneud Cymru'n wlad fwy cyfartal. Roeddwn yn edrych ar y papur a wnaeth Dr Mark Lang ar gyfer ColegauCymru a edrychai ar y materion hyn sy'n ymwneud â symudedd cymdeithasol ac os yw'r ddarpariaeth addysg bresennol yng Nghymru yn cefnogi'r symudedd cymdeithasol hwnnw ac yn galluogi pobl ifanc yn...
John Griffiths: O ran y cwricwlwm newydd, ystyrir bod hwn yn gyfle pwysig iawn i wneud y math o gynnydd y mae angen inni ei weld yng Nghymru. Mae'n gyffrous iawn ac mae ganddo botensial mawr. Ac wrth gwrs, mae wedi'i adeiladu ar bedwar diben a'i nod yw datblygu dysgwyr sy'n ddinasyddion uchelgeisiol a galluog, mentrus a chreadigol, moesegol a gwybodus, ac iach a hyderus. Felly, mae'n ymwneud yn fawr â...
John Griffiths: Rwy'n gefnogwr cryf o 20 mya, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn troi ar ei phen y sefyllfa bresennol, fel mai 20 mya yw'r terfyn diofyn yn lle 30 mya a bod cynghorau'n gorfod bwrw ymlaen â gorchmynion eithrio er mwyn rhoi 20 mya ar waith, 20 mya yn dod y terfyn diofyn a 30 mya fyddai'r eithriad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ddiogelwch ar y ffyrdd, fel y clywsom ni, ond hefyd yn...