Rhianon Passmore: Diolch. Er fy mod yn deall yn llwyr ac yn cydnabod y cyd-destun yr ydych wedi'i nodi, a wnewch chi esbonio sut y byddech yn ymdrin â'r ffaith bod y refferendwm, ei hoffi neu beidio, wedi'i gynnal?
Rhianon Passmore: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn Islwyn i hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yn ystod yr argyfwng costau byw?
Rhianon Passmore: Er bod y rhan fwyaf o'r newidiadau a nodwyd yn y gyllideb atodol yn dechnegol eu natur, fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwariant diwygiedig mewn ymateb, yn bennaf, i'r rhyfel yn Wcráin. Mae'r gyllideb atodol hefyd yn nodi £20 miliwn ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel. Mae'n ddatganiad beiddgar gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi dymuniadau'r Cymry ac yn mynegi...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Ar yr £1 biliwn yn llai a gawsom, neu na chawsom, yng Nghymru, onid eich lle chi yw dadlau dros anghenion Cymru wrth eich Llywodraeth yn y DU, er mwyn inni gael yr hyn sydd ei angen arnom?
Rhianon Passmore: Rwy'n ymddiheuro, Joel. Ar y sylw yr ydych newydd ei wneud, y dylem gael mwy o arian yng Nghymru, a wnewch chi ddweud wrthyf pam nad ydym yn cael yr arian y dylem fod wedi'i gael i Gymru, fel y gallwn wneud mwy gyda'r hyn y dylem ei gael?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Mewn perthynas â rapporteur tlodi'r Cenhedloedd Unedig a feirniadodd yn llwyr y system les gamweithredol ar y pryd, sut rydych chi'n teimlo bod diffyg system les weithredol yn effeithio ar dlodi yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch fod y pwyllgor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o geisio barn pobl Cymru wrth helpu i lunio blaenoriaeth gwariant Llywodraeth Cymru, ffigur o bron i £21 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24. Rwyf hefyd eisiau tynnu sylw at waith stoicaidd y Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, a chyd-aelodau'r pwyllgor hefyd. Mae'n iawn ac yn briodol fod y...
Rhianon Passmore: Ar ran pobl Islwyn a chymoedd, trefi a chymunedau niferus Gwent yr wyf yn eu cynrychioli, hoffwn hefyd ddweud 'diolch' i'n llawforwyn ffyddlon, y Frenhines Elizabeth II am ei theyrnasiad hir, urddasol dros ei holl bobloedd. Mae sawl teyrnged wedi gwneud argraff arnaf, ond, fel y dywedodd Jenny Rathbone, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a ddywedodd, 'I chi, hi oedd eich Brenhines. I ni, hi...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan aelod Cabinet addysg Llywodraeth Lafur Cymru, a'r buddsoddiad newydd ychwanegol arall ar gyfer cyfnod estynedig gwyliau ysgol, felly diolch yn fawr. Mae'n newyddion da bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ei rhaglen lywodraethu o ran sicrhau tegwch i bawb a dileu anghyfartaledd, ac mae'n arwydd o gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth...
Rhianon Passmore: Diolch. Gwnaf. Ni ddylai unrhyw blant fynd heb fwyd. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud o'r effaith gadarnhaol y bydd darparu pryd ysgol maethlon i bob disgybl ysgol gynradd yn Islwyn yn ei gael ar ganlyniadau addysgol a lles plant ieuengaf Cymru? Diolch.
Rhianon Passmore: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu twf economaidd yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ynni yn Islwyn? OQ58589
Rhianon Passmore: Diolch. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ac wrth i lefelau gorbryder godi i drigolion ar draws Islwyn oherwydd y biliau ynni cynyddol, mae'n hanfodol yn awr yn fwy nag erioed fod y DU yn mynd i'r afael â mater diogelwch ynni. Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn gynharach eleni ym mis Ebrill, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod yr economi yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru? OQ58683
Rhianon Passmore: Diolch, Trefnydd, arweinydd y tŷ. 'Rydym ar briffordd i uffern hinsawdd gyda'n troed yn dal ar y sbardun.' Dyma eiriau dramatig Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig António Guterres, yn annerch dechrau COP27 yn yr Aifft. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhoi rhybudd plaen ac eglur i'r byd ein bod ni ym mrwydr ein bywydau ac yn colli. Trefnydd, gwn fod Prif...
Rhianon Passmore: Gweinidog, mae etholwyr Islwyn sy'n gweithio i gwmni Nexperia wedi cysylltu â mi ac maen nhw'n bryderus iawn ynghylch diogelwch eu swyddi yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU. Mewn llythyr at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU, Grant Shapps, dywedodd cymdeithas staff Nexperia fod Llywodraeth y DU wedi bwrw cwmwl tywyll dros dde Cymru. Gweinidog, fory, bydd cymdeithas y staff yn teithio i...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno gyda fy nghyd-Aelodau Joyce Watson a Carolyn Thomas. Nid yw'r llanast economaidd ofnadwy hwn yr ydym ni ynddo i'w feio dim ond ar ryfel Putin. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yr OECD, heddiw—heddiw—wedi adrodd bod y DU yn un o'r economïau sy'n perfformio waethaf yn y byd ymhlith yr economïau cyfoethocaf. Felly, wn i...