Vikki Howells: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cynlluniau megis y gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon—cyfraith Lucy—yn dod i rym, ond mae hyn hefyd yn cynyddu rolau arolygu a gorfodi ein cynghorau yng Nghymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau i gyflawni'r swyddogaethau hyn, ac a oes unrhyw rôl i ddarparu cyfrifoldebau statudol...
Vikki Howells: 3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon? OQ57808
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan y dirprwy bennaeth Sharon James am sut mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio i sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn sgil y symud i sero net. Cefais ddwy neges allweddol yn ymwneud â phwysigrwydd cydweithio ar draws yr holl bartneriaid ac ar bob lefel o...
Vikki Howells: Diolch am eich atebion hyd yn hyn, Weinidog. Hoffwn groesawu'n gynnes y £100 ychwanegol a roddir i bob teulu sydd â hawl i'r grant datblygu disgyblion - mynediad. Mae'n cael croeso mawr gan deuluoedd yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, rwy'n siŵr, yr wythnos hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r gronfa ychwanegol honno, ac yn arbennig i gefnogi...
Vikki Howells: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru? OQ57856
Vikki Howells: Diolch am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cau dwy o'i ganolfannau brechu cymunedol, gan gynnwys yr un yng Nghwm Cynon. I fy etholwyr i, y safle agosaf bellach fydd Merthyr Tudful. Mae heriau gwirioneddol o ran cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a byddai angen i rai o fy etholwyr ddal pedwar bws dim ond i gyrraedd yno. Pa drafodaethau mae Llywodraeth...
Vikki Howells: Fel aelod o bwyllgor yr economi, hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch ein Cadeirydd, Paul Davies, i bawb a gefnogodd neu a gymerodd ran yn ein hymchwiliad. Mae'n bwnc pwysig iawn sydd yn ei hanfod yn ymchwilio i rywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau holl ddinasyddion Cymru yn ddyddiol, hynny yw, y ffordd y mae nwyddau a chynhyrchion yn cyrraedd ein silffoedd yn ein cymunedau, a sut rydym yn trin y...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'r pwynt cyntaf yr hoffwn ei wneud yn un syml: mae'r 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru yn etifeddiaeth o'n gorffennol diwydiannol ac echdynnu'r cyfoeth mwynau yn systematig o gymunedau fel fy un i yng Nghwm Cynon a'ch un chi dros gyfnod parhaus o gloddio glo, cyfoeth wedi ei wastraffu, bywydau wedi eu haberthu. Mae'n syfrdanol, ond...
Vikki Howells: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o botensial y gronfa ffyniant gyffredin i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru? OQ57939
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. O dan fanylion y gronfa ffyniant gyffredin a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac y bu disgwyl amdanyn nhw ers amser maith, mae'n amlwg bod Cymru ar fin colli dros £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd cyllid hefyd yn cael ei frigdorri i gefnogi'r gwaith o gyflawni hoff brosiectau Llywodraeth y DU, a bydd y ddarpariaeth bresennol yng Nghymru yn cael ei...
Vikki Howells: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru? OQ57932
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac wrth gwrs, mae’r sector bwyd a diod yn hynod o bwysig i economi Cymru, gan gyfrannu £17.3 biliwn y flwyddyn mewn gwerthiant gros. Mae'n bwysig iawn, felly, fod ein polisi sgiliau yn cyd-fynd ag anghenion y sector fel y gall ffynnu a chynnal swyddi o ansawdd da. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau ar draws y...
Vikki Howells: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd de Cymru? OQ57997
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers dros 70 mlynedd bellach, cynhaliwyd rasys ffyrdd cenedlaethol byd-enwog i feiciau modur ym mharc Aberdâr. Mae'r rasys hyn yn eithriadol o bwysig i Aberdâr ac i Gwm Cynon, gan chwistrellu miloedd lawer o bunnoedd i'r economi a denu tua 5,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ffigur a allai ddyblu mewn rhai blynyddoedd. Weinidog, gwn eich bod chi a'ch Llywodraeth mor...
Vikki Howells: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i chi am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud hyd yma i weithio gyda chymunedau i leihau'r perygl cynyddol o lifogydd a welwn o ganlyniad i newid hinsawdd ac am eich cyhoeddiad o dros £71 miliwn, y pecyn buddsoddi mwyaf erioed yng Nghymru i leihau'r perygl o lifogydd. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyfeirio at...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd. Fe'i dathlwyd am y tro cyntaf ym 1977, a'r llynedd, cymerodd dros 37,000 o amgueddfeydd ran mewn dros 150 o wledydd. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o amgueddfeydd fel arenâu ar gyfer cyfnewid diwylliannol, lle rydym yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ohonom ein hunain ac eraill. Mae thema eleni, grym amgueddfeydd, yn...
Vikki Howells: 3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach? OQ58108
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae ystadegau diweddar yn dangos mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU i gynnal ei chyfraddau ailgylchu rhagorol yn ystod y pandemig, a hoffwn ddiolch i bob dinesydd a gweithiwr cyngor yng Nghymru a wnaeth ei ran i wneud hynny'n bosibl. Cyflawniad hynod arall yw'r ffaith bod gwastraff bwyd yma yng Nghymru yn cael ei drosi drwy dreulio anaerobig, i greu digon...
Vikki Howells: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n galonogol iawn eich gweld yn canolbwyntio ar recriwtio athrawon sy'n siarad Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysgu presennol. Os ydym ni am gyflawni ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae buddsoddi yn ein gweithlu addysgu yn gwbl hanfodol. Gweinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun yn ddiweddar i hybu'r...
Vikki Howells: Diolch i fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, am gyflwyno’r cynnig heddiw ar symud pensiynau oddi wrth danwydd ffosil. Rwy'n falch iawn o siarad o blaid y mater pwysig hwn, ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi cytuno ers tro ei fod yn hanfodol. Er enghraifft, cynhaliais sesiwn galw heibio gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru ar gyfer Aelodau’r Senedd rai blynyddoedd yn ôl, a diben penodol hyn oedd...