David Melding: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o Aelodau yn y fan yma y dylai mwy fod wedi ei wneud i ddysgu o'r broses gyflwyno ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n croesawu penderfyniad Amber Rudd y bydd hynny'n cael ei gyflymu nawr, yn enwedig trwy wrando ar gyngor arbenigol a phrofiad y rhai sydd wedi symud i'r system newydd erbyn hyn. Ond mae'r system newydd yn un sydd wedi cael...
David Melding: Rwy'n falch iawn o groesawu'r datganiad hwn. Yn benodol, cymeradwyaf yr elfennau canlynol: credaf fod y pwyslais ar bobl ifanc NEET yn hollol briodol, mae hwnnw'n ddangosydd risg mawr. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hon yn broblem gymhleth, ond mae angen dull sydd wirioneddol yn sicrhau bod pobl ifanc yn byw bywydau mor llawn â phosib. Felly, mae angen iddynt fod yn gwneud rhywbeth...
David Melding: Llywydd, rwy'n falch fy mod wedi dal eich llygad. Rwy'n ddiolchgar iawn. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, i ddechrau, yn y ddadl hon, ond rwy'n credu bod Steffan Lewis wedi codi pwyntiau sy'n bwysig ac sy'n haeddu ymateb, yn yr hyn a oedd yn gyfraniad meddylgar, yn fy marn i. Mwynheais gyfraniad Dai Lloyd, ond nid wyf mor siŵr ei fod mor ystyriol, ond roedd yn sicr yn ddolefus ac yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, cefais fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am y mater hwn yn gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl, a chredaf fod angen i ni fod hyd yn oed yn fwy radical, oherwydd roeddwn yn ifanc o ran fy oedran corfforol yn ogystal â chael fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod yn aml 18 mis y tu ôl i lawer o'r bobl a oedd yn yr un flwyddyn â fi. Achosodd anawsterau...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi clywed am hyn, ac fe soniwyd am inswlin, yn ogystal â radioniwclidau, sy'n hanfodol ar gyfer offer sganio. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, yw gwneud trefniadau mewn perthynas â sut y dylid ymdrin â'r cynhyrchion a'r meddyginiaethau...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn ei chroesawu hi. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r ddau adroddiad hyn. Mae'n waith trylwyr iawn ac yn fy marn i mae'n sail ardderchog ar gyfer dewisiadau i'w datblygu yn y dyfodol. Rwyf i o'r farn hefyd y bydd llawer o dir cyffredin o ran y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwneud plant mewn chwaraeon yn ardaloedd difreintiedig Cymru?
David Melding: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac a gaf fi ganmol gwaith Chwaraeon Cymru hefyd, a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sydd o leiaf yn edrych ar y meysydd cywir? Ond fe welais fod y lefelau sy'n cymryd rhan ymhlith y plant mwyaf difreintiedig yn is na'r llynedd mewn gwirionedd, ac mae'r bwlch rhyngddynt a phlant o ardaloedd cyfoethocach—mae'r bwlch hwnnw wedi...
David Melding: Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, fod angen cyfraddau cyfranogiad uwch, ond rwy'n bryderus am y bwlch sy'n effeithio ar blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn enwedig, ac rwy'n credu ei bod yn broblem y dylai pob un o adrannau'r Llywodraeth sydd o dan eich cyfarwyddyd a'ch cyd-drefniant edrych arni, oherwydd mae angen dull gweithredu cynhwysfawr—ac rydych eisoes wedi crybwyll addysg...
David Melding: A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i Dai Lloyd, ac ategu pa mor bwysig yw'r prosiect hwn? Ac yn wir, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn dal i fod wedi ymrwymo iddo. Credaf ei bod yn anffodus, ar y cam hwyr hwn, nad ydym wedi clywed peth o sylwedd y prif bryderon mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd yn awr a gwneud rhyw fath o ddatganiad...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo ein Cadeirydd dros dro am ei frwdfrydedd wrth gyflawni ei ddyletswyddau dros dro y prynhawn yma? Credaf iddo roi crynodeb rhagorol o'n hadroddiad, a'i bwysigrwydd, ac roedd yn ddechrau gwych i'r ddadl hon. Credaf fod yr arian nad yw'n arian cyhoeddus y mae'r sector celfyddydau yn ei dderbyn yn arwydd allweddol o'i iechyd, neu fel arall. Ac mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar...
David Melding: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd y sector adeiladu i economi Cymru?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ganmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam i edrych ar anghenion tai pobl hŷn ac anghenion gofal cyffredinol eraill? Canfuwyd ganddynt bod 18 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn disgwyl cynnydd i anghenion tai cyffredinol pobl hŷn; roedd 16 o awdurdodau lleol yn disgwyl cynnydd i'r galw am dai gofal ychwanegol ar...
David Melding: Rwyf i yn credu bod cytundeb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn un da, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa a grewyd gan ganlyniad y refferendwm, sef 52 y cant o blaid gadael, 48 y cant o blaid aros. Mae'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yn un â mymryn o wahaniaeth iddi: perthynas barhaus gydag Ewrop, ond wedi ymadael hefyd â'i strwythurau gwleidyddol. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad...
David Melding: Rwyf yn dod at y diwedd, ond rwy'n fodlon derbyn yr—.
David Melding: Wel, fel Ceidwadwr Rhyddfrydol, rwy'n credu mai dyna fu cenhadaeth fy mywyd hyd yn hyn, felly yn sicr rwyf i yn cytuno â chi. Ond fe wn i mewn democratiaeth, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn wirioneddol anghytuno ag ef gyda chwerwder—dyna yw ystyr democratiaeth. Nid yw'n ymwneud â'i chael hi'n hawdd bob amser neu golli am bum mlynedd ac yna eich plaid chi'n mynd yn...
David Melding: Rwyf eisiau sôn am dai, a chredaf ei bod yn brofiad eithaf sobreiddiol i edrych ar yr hanes yn mynd yn ôl dros yr 20 neu 25 mlynedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud araith arbennig o bleidiol. Rwyf eisiau inni ystyried sut y gallwn ni feithrin consensws newydd, ac, yn ffodus, mae gennym ni lawer o hyblygrwydd wrth wella'r system gynllunio, addasu rhywfaint o'n gwariant, ond gallai llawer o'r...
David Melding: Ac mae'r rheolau hynny yn cael eu newid; mae'r terfyn benthyca am gael ei godi.
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad cyngor Rhondda Cynon Taf i lansio'r rhaglen buddsoddiad cyfalaf fwyaf yn ei hanes, ac rwy'n siŵr eich bod chi fel finnau wedi croesawu'r penderfyniad hwnnw. Mae'n £300 miliwn, a bydd £45 miliwn ohono'n cael ei wario ar dai. Mae cynlluniau arloesol yn yr arfaeth, a phartneriaethau pwysig gyda'r sector preifat a chymdeithasau...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?