Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt cyffredinol y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Bydd hi'n gwybod ei fod yn ddarlun dryslyd y mae deiliad tŷ unigol yn ei wynebu yn yr ardal hon, oherwydd bod dadl barhaus ac weithiau braidd yn begynol ynghylch yr hyn y dylai dyfodol gwresogi domestig fod. Ar y naill law, mae yna arbrofion yn digwydd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar...
Mark Drakeford: Llywydd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol, wedi sefydlu rhaglen wella genedlaethol a mwy o staffio yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Pan fo byrddau iechyd yn cymryd camau system gyfan ar y cyd, mae canlyniadau clir eisoes yn cael eu gweld o ran lleihau amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yr ateb sylfaenol yw peidio â chael ambiwlansys yn aros fel yna, ac er bod y sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn heriol iawn, mae rhywfaint o newyddion da yn y maes hwn. Drwy gymryd agwedd system gyfan y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, drwy weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau gostyngiad o 50 y...
Mark Drakeford: Fy man cychwyn, Llywydd, yw bob amser, lle ceir gwersi i'w dysgu, tu mewn neu y tu allan i Gymru, yna wrth gwrs byddem eisiau eu dysgu. O fy mhrofiad hir o'r mathau hyn o drafodaethau—a does gennyf i ddim byd o fy mlaen i—yr hyn y byddwn i'n tybio yw y bydd diffiniadau gwahanol o'r hyn sy'n cael ei nodi gan ymateb categori 2, felly rydyn ni'n cyfri pethau gwahanol, ac wrth gwrs rydyn ni'n...
Mark Drakeford: Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf ar weithredu'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y siarter, yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'n cynnwys ystod o gamau ymarferol—y cynllun seibiant byr a'r grant cymorth gofalwyr, er enghraifft—i gefnogi gofalwyr di-dâl.
Mark Drakeford: Rwy'n cytuno â Peter Fox fod yr hawl a sefydlwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod gan ofalwyr di-dâl hawl i asesiad—mae'n hawl cyfreithiol sydd ganddyn nhw ac nad yw'n rhywbeth sy'n gras a ffafr gan unrhyw un arall—yn hawl bwysig iawn a sefydlwyd yn y Senedd hon. Mae'r strategaeth a'r cyllid sydd y tu ôl iddi yno i wneud yn siŵr bod yr hawl yna'n gallu...
Mark Drakeford: Rhaid i fyrddau iechyd ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar ddefnyddio rhwyll er mwyn rhoi dewisiadau triniaeth addas i gleifion. Dylai cynlluniau gofal adlewyrchu dewisiadau ar sail gwybodaeth, wedi'u cyd-gynhyrchu rhwng clinigwyr a chleifion.
Mark Drakeford: Diolch i Jack Sargeant am ei ddiddordeb parhaus yn y pwnc hwn. Gwn ei fod wedi cyfeirio o'r blaen at waith ei etholwr a'r gwaith ymgyrchu y mae hi wedi'i wneud, a'i fod wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd ein bod yn disgwyl, ac yn wir wedi gweld, gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithdrefnau rhwyll y wain sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru. Er nad oes gwaharddiad llwyr arnyn...
Mark Drakeford: Diolch i Darren Millar am hynna, Llywydd. Mae diwygio contractau, cymhellion ariannol, buddsoddiad ychwanegol ac arallgyfeirio'r proffesiwn ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i etholwyr yr Aelod.
Mark Drakeford: Un o'r ffyrdd y bydd etholwyr yn etholaeth yr Aelod yn cael y gwasanaeth hwnnw yw pan fydd deintyddion mewn ffordd drylwyr yn cyflawni canllawiau NICE. Gofyniad NICE ers 2004 yw na ddylai pobl fyth gael eu galw'n ôl ddwywaith y flwyddyn am archwiliad pan nad oes rheswm clinigol dros wneud hynny. Dywedodd canllawiau NICE amser maith yn ôl bod galw nôl bob dwy flynedd yn ddigonol i lawer...
Mark Drakeford: We will continue to work closely with our partners in the local authorities and Cardiff capital region to ensure a sustainable future for the south Wales Valleys, despite the challenges faced by the reduction in funding from the UK Government via the shared prosperity and levelling-up funds.
Mark Drakeford: Our transport policy, 'Llwybr Newydd', sets out our ambitious plans to ensure that everyone in Wales can travel more sustainably, helping reduce the impacts of climate change. The Burns delivery board’s annual report demonstrates progress towards achieving this, but UK Government investment in vital infrastructure is needed for this to continue.
Mark Drakeford: We continue to provide significant and sustained funding to support the provision of mental health services within the Cwm Taf Morgannwg University Health Board area. The NHS delivery unit supports the board to improve services and to provide assurance that necessary progress is being made.
Mark Drakeford: Investment, legislative drivers and support, coupled with a robust regulatory framework will drive river water quality improvement. Last week’s phosphate summit brought together all those with a part to play in reducing river pollution.
Mark Drakeford: Llywydd, fe gafodd y penderfyniad i ohirio rhannau o'r llinell HS2 ei wneud heb gyfeirio o gwbl at Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn chwalu'r myth mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am yr hyn y mae wedi ei ddweud. A bydd yn deall bod yn rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â drysu'r cyfrifoldebau sydd gen i fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd. Yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n gyfarwydd iawn â'r holl ddadleuon y mae Rhys ab Owen wedi eu cyflwyno, ac, yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n ysgrifennu ar ran trigolion Caerdydd yn y modd...
Mark Drakeford: Waw. Allech chi ddim ei ddyfeisio, Llywydd, ond mae'n siŵr bod rhywun wedi gwneud hynny ar ran yr Aelod, oherwydd fe'i darllenodd ar lafar i ni. Edrychwch, nid oedd yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed, hyd yn oed gyda'r deunydd mwyaf disylwedd, werth amser y Senedd. Mae'r syniad bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, y syniad bod HS2 wedi cael ei oedi rhyw...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r Aelod yn cyfeirio at yr anhawster sylfaenol sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gyda HS2, a bellach, yn wir, efallai gyda Phwerdy Gogledd Lloegr hefyd, sef gallu mympwyol Trysorlys y DU i wneud dosbarthiadau o'r mathau y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw, ac sy'n arwain at ddynodi Pwerdy Gogledd Lloegr yn fath o fuddsoddiad Cymru a Lloegr. Mae'n...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru yn siarad drosto'i hun: dros £800 miliwn eisoes wedi'i fuddsoddi mewn datblygiadau metro ledled Cymru, £800 miliwn arall wedi'i fuddsoddi mewn fflydoedd trenau newydd ledled Cymru—trenau sy'n cael eu cynhyrchu yma, nawr, yng Nghymru. Am gyferbyniad â'r ffigyrau a roddais i chi ar drydaneiddio. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, Llywydd, yw gweld...
Mark Drakeford: Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gadw gweithwyr presennol, i recriwtio'n lleol ac i ddod â chlinigwyr newydd i'r ardal. Er bod heriau yn parhau, ac yn rhai go iawn, mae'r canolbarth yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio, byw a hyfforddi ynddo. Mae gweithlu bwrdd iechyd lleol Powys wedi gweld cynnydd o dros 700 mewn swyddi llawn amser dros y degawd diwethaf.