Alun Davies: Dirprwy Lywydd, daeth ofn dychrynllyd arnaf hanner ffordd drwy'r cyfraniad hwnnw fod yr Aelod Ceidwadol yn mynd i ddarllen nodiadau pob cyfarfod a gefais dros y flwyddyn ddiwethaf, a darllen o nodiadau pob cyfarfod, cyfraniad pob aelod yn y cyfarfod hwnnw. [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn sesiwn hir iawn, iawn. Gadewch imi ddweud hyn: rydym ni, fel y dywedodd yr Aelod, wedi cael sgwrs hir...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gwrdd, wrth gwrs, yn eglwys gadeiriol Southwark pan oedd y ddau ohonom ni yno i dalu teyrnged i waith Undeb y Brigadau Tân a diffoddwyr tân dros y ganrif ddiwethaf, ac mae llefarydd Plaid Cymru yn llygad ei le yn talu teyrnged i chi am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud yn yr amser yr ydych chi wedi gwasanaethu yma, drwy'r ddeddfwriaeth yr ydych chi wedi...
Alun Davies: Fe fyddwn i'n siomedig pe baech chi'n dangos unrhyw drugaredd tuag ataf o gwbl. [Chwerthin.] Ond gadewch i mi ddweud hyn: yn amlwg, mae'r materion o atal ac ymwybyddiaeth yn faterion y bydd y gwasanaethau tân yn canolbwyntio arnyn nhw mewn ffordd efallai na wnaethon nhw yn y gorffennol, ac yn sicr nid 20 neu 30 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y byddwn yn parhau i...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chroeso cyffredinol i'r Papur Gwyn, ac yn sicr fe hoffwn i ymuno â hi i longyfarch tîm rhyddhau de Cymru ar yr her achub fyd-eang y maen nhw wedi llwyddo i'w hennill eto. Un o bleserau mawr swydd etholedig yr ydym ni i gyd yn ei rannu yw'r cyfle i gwrdd â phobl sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac, yn sicr, rwy'n ceisio treulio amser yn siarad...
Alun Davies: Rwyf wastad yn croesawu cyfraniad gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe i'r ddadl ar ad-drefnu gwasanaethau lleol, ac mae'r cysondeb y mae'n ei ddangos yn ei gyfraniadau yn rhywbeth i'w groesawu. A gaf i ddweud—? A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno â'r sylwadau y mae wedi eu gwneud? Ac a gaf i ddweud hefyd ein bod ni, mewn sawl ffordd, wedi etifeddu systemau a strwythurau o'r gorffennol a'i bod...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am roi'r cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau am yr addasiadau diweddaraf yr ydym ni wedi'u gwneud i'n huchelgeisiau a'n cynlluniau ar gyfer Cymoedd y De. Nodir hyn yn y cynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y 12 mis cyntaf o...
Alun Davies: Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod arian datblygu ar gael ar gyfer rhai o'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt strategol. Bydd hyn yn comisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd, gan ddisodli, lle bo angen, cyfnewidfeydd bws a rheilffyrdd presennol a gwella seilwaith a chysylltedd, a fydd yn cynnwys y safleoedd datblygu allweddol o ran y...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn. Mae'n ymddangos bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi cynllwynio i ofyn yr un cwestiwn hanner dwsin o weithiau. Fe wnaf i geisio ei ateb unwaith yn unig. O ran sut yr ydym ni'n mynd ati, rydym ni'n ceisio cynnwys pobl o'r adeg lle'r ydym ni'n dechrau hyd at yr adeg y byddwn ni'n datblygu ein cysyniadau ac yn cyflwyno'r cysyniadau hynny. Does dim—. Gofynnodd ar nifer o...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chwestiynau. Rwy'n meddwl yn ôl ac yn sylwi pan atebais gwestiynau ar achlysur blaenorol—rwy'n credu, y llynedd—ymosodwyd arnaf gan Blaid Cymru am gynnwys materion polisi yn y cynllun a oedd wedi eu targedu'n uniongyrchol at y Cymoedd, a sylwaf y prynhawn yma ei bod hi wedi penderfynu canolbwyntio ar yr holl faterion polisi hynny nad ydyn...
Alun Davies: Fe wnaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi gwrando ar ei chwestiynau, ac efallai y gwnaiff hi wrando ar fy atebion i. O ran y cynnig gofal plant, mae'n ymrwymiad maniffesto ac yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu ar gyfer y Llywodraeth hon, ac fe gaiff ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir, a bydd yn parhau i gael ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir. Mae, rwy'n credu, yn un o'r cynigion gofal...
Alun Davies: Mae datblygu buddsoddiad yn y Cymoedd gogleddol yn sylw sydd wedi'i grybwyll droeon gan yr Aelod dros Gaerffili yn ystod ei amser yma, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn amlwg yn ei rannu am resymau sy'n glir. Rydym ni wedi trafod Cwm Rhymni gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu ymestyn allan y tu hwnt i rannau deheuol Cymoedd y De, a dyna pam ein bod...
Alun Davies: Rwy'n gobeithio y byddan nhw ar gael yn fuan yn y flwyddyn newydd—yn y flwyddyn newydd nesaf. Byddwn yn disgwyl y byddem ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau manylach ym mis Ionawr neu Chwefror 2019. Rwy'n sicr eisiau inni fod mewn sefyllfa i allu gwneud y buddsoddiadau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Felly, rwyf eisiau inni symud ymlaen yn weddol gyflym yn hynny o beth. Rwyf hefyd eisiau...
Alun Davies: Rwy'n sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i gyfarfod Aelodau unigol neu grwpiau o Aelodau er mwyn eu diweddaru ar y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n sicr yn hapus iawn, iawn i wneud hynny, ac rwyf hefyd yn falch iawn o ymweld â Ffordd Coedwig Cwmcarn gyda'r Aelod. Rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddi os byddaf yn dod â'm teulu gyda fi. Rydym ni...
Alun Davies: Yn cynnig yn ffurfiol.
Alun Davies: Y mae'n cael ei adlewyrchu.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bu'n ddadl ddyrchafol arall ar natur cyni yn y fan yma. Rwy'n credu nad yw'n glod i'r lle hwn nac i wleidyddiaeth, pan fo Aelodau Ceidwadol yn codi a difrïo polisïau ac effaith polisïau Llywodraeth y maen nhw'n honni eu bod yn ei chefnogi yn y Deyrnas Unedig tra eu bod, ar yr un pryd, yn golchi eu dwylo o'r holl...
Alun Davies: Roeddwn i'n ymateb i un rhan o'r ddadl: Fe fyddaf yn dod at rannau eraill o'r ddadl maes o law. Fy rhagdybiaeth oedd eich bod eisiau ymyrryd ar yr agweddau yn ymwneud â fformiwla o hyn. Ond fe fyddwn yn cyfeirio at rannau eraill o hyn. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i ei wneud, yw cael ychydig mwy o—sut gallaf i fynegi hyn—ddadl ddyrchafedig ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu llywodraeth...
Alun Davies: Byddwn i'n awgrymu, mewn nifer o ffyrdd, ei fod yn fethiant ar ran y dosbarth gwleidyddol yn hytrach nag unrhyw blaid wleidyddol benodol, oherwydd gadewch imi ddweud hyn; oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Gwelodd pob un ohonom ni, ac rwy’n siŵr y darllenodd sawl un ohonom ni adroddiad y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd...
Alun Davies: Darperir y rhan fwyaf o gymorth Llywodraeth Cymru i gynghorau gwledig drwy'r setliad llywodraeth leol gwerth £4.2 biliwn. Mae fformiwla ariannu'r setliad yn cynnwys nifer o ddangosyddion sydd i gyfrif am wahanol raddau o deneurwydd poblogaeth ar draws pob un o'n hawdurdodau.
Alun Davies: Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, ein bod yn ymdrin â setliad ariannol anodd iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau wedi bod yn hollol glir yn ein hymateb i hyn. Mae hwn yn setliad anodd a byddai'n well gennym allu neilltuo mwy o arian i bob awdurdod lleol. Ond gadewch imi ddweud hyn: rwy'n gresynu at y tueddiad cynyddol ymhlith nifer o'r Aelodau i osod gwahanol...