John Griffiths: 2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Nghasnewydd drwy ddod â chyflogaeth i'r ddinas? OQ58348
John Griffiths: Weinidog, diolch byth, mae Casnewydd yn mwynhau llawer o fanteision datblygu economaidd. Credaf fod ei lleoliad daearyddol, rhwng dinasoedd mawr Bryste a Chaerdydd, a'i manteision cyfathrebu yn sgil y system reilffyrdd a'r draffordd, er enghraifft, yn gryfderau pwysig iawn. Ac mae bod yn rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn ogystal â phorth trawsffiniol y gorllewin, yn bwysig iawn yn wir....
John Griffiths: 9. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'i hagenda gofal iechyd ataliol? OQ58347
John Griffiths: Diolch am hynny, Weinidog. Yn ddiweddar, rhedais ras parkrun Llanisien, a oedd yn dathlu cysylltiadau rhwng trefnwyr parkrun a phractisau meddygon teulu i hybu cymunedau lleol mwy integredig a chefnogol, gan ganolbwyntio ar les. Weinidog, nodaf y byddai trefnwyr parkrun yn awyddus iawn i weld dull gweithredu cyson ledled Cymru, gan wneud cysylltiadau rhwng y rhai sy'n gweithio yn y sector...
John Griffiths: Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae tai priodol wedi bod yn bryder allweddol i'n pwyllgor ers amser maith, a hoffem annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid i sicrhau bod gan gynifer o bobl â phosibl yng Nghymru le diogel i fyw ynddo, gan weithio tuag at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel i fyw ynddo. Pan siaradais â chi...
John Griffiths: Prif Weinidog, nid oes amheuaeth o gwbl fod llawer iawn o deuluoedd dan yr amgylchiadau mwyaf bregus yng Nghymru yn gofidio llawr iawn ynglŷn â'r hyn sydd o'u blaenau y gaeaf hwn, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddeall hynny, o ystyried y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni. Mae hyn yn gofyn am weithredu ar unwaith, yn fy marn i, ar bob lefel o'r Llywodraeth a sefydliadau partner. Ac wrth gwrs,...
John Griffiths: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl yn Nwyrain Casnewydd?
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’r materion hyn yn ddadleuol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Er nad yw pob ardal o’r wlad yn cael ei heffeithio, mae gan lawer o’n hardaloedd...
John Griffiths: Gan fod ail gartrefi'n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, gwnaethom benderfynu mai ar hyn y byddai ein hymchwiliad cyntaf fel pwyllgor yn canolbwyntio. Un o brif amcanion ein gwaith oedd archwilio’r argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r cynigion hynny. Gwnaethom 15 o...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw? Rwy'n credu bod pawb yn deall bod hwn yn faes pwysig iawn, ond cymhleth, a bod llawer yn digwydd, ond mae llawer i'w wneud. Fe fyddwn yn dweud wrth Janet Finch-Saunders, sef y cyntaf i gyfrannu yn dilyn fy araith i agor y ddadl, Lywydd, ein bod yn cydnabod, yn amlwg, y tensiynau ynghylch twristiaeth, pwysigrwydd...
John Griffiths: 8. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gweithredoedd diweddar Llywodraeth y DU ar gyfrifoldebau datganoledig? OQ58533
John Griffiths: Prif Weinidog, rydym eisoes wedi clywed digon heddiw, rwy'n credu, i bwysleisio barn llawer yn y Senedd, gan grybwyll eu hetholwyr, bod pobl a sefydliadau'n wynebu heriau digynsail ar hyn o bryd gyda'r argyfwng costau byw, costau tanwydd ac ynni, a phopeth arall yn codi gymaint, gyda sefyllfa'r gyfradd llog wedi'i chreu gan Lywodraeth y DU, a gyda, rwy'n ofni, toriadau i wariant eto i ddod....
John Griffiths: Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith ei pholisïau ar wasanaethau gofal asthma?
John Griffiths: Mae’r wythnos hon yn nodi pumed flwyddyn Wythnos Caru Ein Colegau, ymgyrch sy’n tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a thrawsnewidiol y mae colegau addysg bellach yn ei wneud bob dydd. Bydd dathliadau eleni'n canolbwyntio ar staff, myfyrwyr a sgiliau. Gan gadw hyn mewn cof, hoffwn dynnu eich sylw heddiw at y cyfleoedd trawsnewidiol sy'n cael eu cynnig yn ein colegau ar ffurf rhaglenni...
John Griffiths: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy? OQ58622
John Griffiths: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Dwyrain Casnewydd yn cynnwys ardal Glannau Hafren, sy’n rhan o ardal Cyngor Sir Fynwy. Roeddwn yn falch iawn o weld Llafur yn ennill rheolaeth ar y cyngor yno ym mis Mai, am y tro cyntaf ers canol y 1990au. Gwn fod gan yr arweinydd newydd, Mary Ann Brocklesby, a’i chabinet gynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r bwlch fforddiadwyedd mewn tai...
John Griffiths: 9. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent? OQ58623
John Griffiths: Diolch yn fawr, Weinidog, am gydnabod gwerth yr hyn a fu'n digwydd ar wastadeddau Gwent. Y mis diwethaf, roeddwn yn falch o gael siarad yng nghynhadledd Cynnal Gwastadeddau Gwent yn Redwick, pentref bach hanesyddol yn ardal Dwyrain Casnewydd. Cafodd gwastadeddau Gwent eu hadfer o'r môr adeg y Rhufeiniaid, ac mae ganddynt system cyrsiau dŵr unigryw a hanesyddol sy'n cynnwys amrywiaeth fawr o...
John Griffiths: Rwyf innau hefyd yn diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn o werth gwastadeddau Gwent, Gweinidog, ar ôl sefydlu'r gweithgor rwy'n falch iawn o'i gadeirio a gwneud llawer o waith arall. Maen nhw'n enghraifft wych o ddraenio cynaliadwy yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid. Mewn gwirionedd, mae rhyw 900 milltir o ddyfrffyrdd ar y gwastadeddau hynny yng Ngwent, ac...
John Griffiths: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, a'ch ymrwymiad, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, i ddysgu gydol oes ac addysg ail gyfle. Roedd yn dda eich gweld yn y gwobrau dysgu i oedolion nôl ym mis Medi, Gweinidog, gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, lle rwy'n credu i ni glywed tystiolaeth bwerus iawn gan y rhai a oedd wedi elwa ar addysg ail gyfle a chanfod bod hynny'n trawsnewid eu...