Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma. Roedden ni fel pwyllgor yn bryderus am y diffyg amser oedd gennym ni yn wreiddiol i ystyried ei lawn oblygiadau, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol yn deillio o'r Bil. Er rhoddwyd estyniad...
Delyth Jewell: Mae gan y pwyllgor nifer o bryderon difrifol o ran yr LCM ei hun. Fel rydym ni wedi clywed eisoes, mae'r pwerau dirprwyedig pellgyrhaeddol a geir o fewn y Bil yn achosi pryder i ninnau hefyd. Fel cafodd ei drafftio, fe fyddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion y Goron i wneud unrhyw newidiadau i'r Bil y maen nhw'n eu hystyried yn briodol yn y dyfodol ac wrth edrych yn ôl. Fe allai unrhyw...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Weinidog, rwyf eisiau gofyn i chi am COP27. Roedd gwledydd sy'n datblygu yn dathlu fore Sul, oherwydd, am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, cytunodd y gwledydd datblygedig i ddarparu cyllid i'w helpu nhw i ymateb i drychinebau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, a elwir yn gronfa colled a difrod. Roedd y cytundeb yn COP27 ymhell o fod yn berffaith, gyda sawl elfen allweddol yn...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Gan gadw at thema COP, ar ôl COP27, ymddengys bod Llywodraethau ledled y byd wedi cefnu ar y gobaith o 1.5—y cyfle i gadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i lefel sydd ond ychydig yn drychinebus, sef 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae'r cyfle hwnnw'n prysur ddiflannu. Cefnir arno mewn colofnau papurau newydd ac ym mholisïau llywodraethau. Mae'n llithro...
Delyth Jewell: Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru?
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ar ran y pwyllgor. Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar ran ein pwyllgor i drafod ein hadroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn ac a rannodd eu profiadau gyda ni fel pwyllgor, i Aelodau eraill y pwyllgor, ac i’n tîm clercio ac ymchwil am eu...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma.
Delyth Jewell: Roedd Tom Giffard yn nodi pa mor amserol yw'r ddadl hon a'r angen i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad. Nododd Jack Sargeant hyn mewn ymyriad am gymryd rhan mewn chwaraeon—do, roeddem wedi canolbwyntio ar gymryd rhan—ond mae'r gynulleidfa, ymgysylltu â'r gymuned, mynd i weld gemau, mor bwysig hefyd. Tom, y Farwnes Grey-Thompson a wnaeth y pwynt i ni fel pwyllgor, ac roedd yn bwynt mor...
Delyth Jewell: Fel dywedodd Heledd hefyd, cododd ein hymgynghoriad galonnau, ac fe wnaeth ein tristáu ni hefyd. Soniodd Heledd hefyd am fframio hyn yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi nifer o weithiau yn ein dadl—dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth pwysig inni gofio.
Delyth Jewell: Siaradodd Carolyn am y straen y mae costau ynni'n ei chael ar y diwydiant, yn enwedig pyllau nofio, pwynt a nododd Jenny hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau'n gwneud gwahaniaeth i sicrhau cyfleoedd cyfartal, ond fel y soniodd Jenny, mae yna broblem barhaus sy'n peri pryder difrifol gyda phyllau nofio—mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgor yn ei ddilyn yn agos. Mae'n bryder difrifol....
Delyth Jewell: Dwi'n gwybod roeddech chi wedi gwneud y pwynt am y ffaith bod Chwaraeon Cymru yn helpu'r sector i gynhyrchu gweledigaeth genedlaethol, ac mae Chwaraeon Cymru, yn amlwg, yn gwneud gwaith mor bwysig, ond gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo Chwaraeon Cymru drwy lythyr cylch gwaith. Dwi'n gwybod mai llythyr cylch gwaith hyd tymor y Senedd sydd yna ar hyn o bryd, ond, fel dwi'n deall, does dim i...
Delyth Jewell: Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch chi, Weinidog, fod gwir angen edrych ar ddull Llywodraeth gyfan yn hyn o beth, gan gysylltu unwaith eto â'r hyn a ddywedodd Heledd am gyd-destun llesiant cenedlaethau'r dyfodol i hyn i gyd. Roedd nifer o'r Aelodau wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pha mor ystyfnig yw'r rhwystrau rydym yn edrych arnynt, boed hynny o ran daearyddiaeth neu o ran y ffyrdd...
Delyth Jewell: I gloi, Dirprwy Lywydd, mae pawb yn ymwybodol, bellach, bod arwain ffyrdd mwy iach a mwy egnïol o fyw yn cael effaith hynod fuddiol ar fesurau eraill, megis disgwyliad oes, iechyd meddwl, cyfleoedd economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol. Mae cydnabyddiaeth bod arferion ffordd o fyw sy'n cael eu datblygu pan ydyn ni'n ifanc yn fwy tebygol o barhau pan fydden ni'n oedolion. Am y...
Delyth Jewell: Rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda'r argyfwng costau byw. Rydym ni'n sôn am yr argyfwng costau byw mor aml rwy'n meddwl bod yr ymadrodd wedi cael ei normaleiddio, ond mewn gwirionedd bydd miloedd ar filoedd o bobl nad ydyn nhw wir yn gwybod sut maen nhw'n mynd i oroesi'r gaeaf, os ydyn...
Delyth Jewell: Gweinidog, mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi'n anhwylus; gobeithio y byddwch chi'n teimlo yn well yn fuan. Mae hon, yn wir, yn foment bwysig ac mae angen ei dathlu; er bod hynny'n anghydnaws, wrth gwrs, wrth edrych ar y darlun llwm iawn a welwn ni'n fyd-eang, yn fy marn i, yn amlwg, byddai hi'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dod i'r casgliad nad oes...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Mae gwasanaethau bws yn fodd angenrheidiol o deithio ar gyfer pobl dros Gymru gyfan, ond y rheswm rŷn ni'n trafod hyn heddiw, yn amlwg, ydy'r angen am ddiwygio'r system. Mae llai a llai o bobl yn penderfynu defnyddio gwasanaethau bws, sy'n rhoi'r system dan straen. Dŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma, dwi'n meddwl, rhai o'r rhesymau pam mae pobl yn llai tebygol,...
Delyth Jewell: Mae'n benbleth ddirfodol—rwyf eisiau siarad am welliannau nad ydyn nhw wedi eu dewis, felly fe siaradaf am welliannau 11 a 12, a oedd, fel sydd wedi ei ailadrodd, yn union yr un fath o ran cwmpas. Janet, roeddem ni mewn ras ac nid oeddem yn sylweddoli ein bod ni yn y ras honno, ond da iawn chi am eu cyflwyno ychydig cyn i mi wneud. Ni wnaf i ailadrodd yn hirwyntog eto y dadleuon ar y rhain....
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Pwrpas fy ngwelliant arweiniol 57 a gwahanol welliannau canlyniadol iddo fyddai, fel y nodir, i wahardd gweithgynhyrchu'r eitemau a restrir yn y ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â'u cyflenwi. Byddai'r ddeddfwriaeth hon wedyn yn cyd-fynd â deddfwriaeth yr Alban, ond gellid dadlau bod yr egwyddor yn y fan yma yn ein poeni ni yng Nghymru yn fwy fyth oherwydd y cyfrifoldeb...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog. Rwyf yn derbyn y pwynt yr oeddech chi'n ei wneud yn y fan yna am y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd o ran cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, o ran y sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda gweithgynhyrchwyr. Wrth gwrs mae croeso i'r rheini. Rwyf yn derbyn y pwynt am gwmpas y Bil hwn, ond byddaf yn gwthio'r gwelliannau hyn i bleidlais, oherwydd rwy'n...
Delyth Jewell: Symud.