Alun Davies: Dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ie.
Alun Davies: Fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw hynny'n rhan o fy nghyfrifoldebau, ond dywedaf wrtho fod y materion hyn wedi'u trafod y tro cyntaf y cyfarfûm ag arweinwyr Cyngor Sir Powys. Cyfarfûm ag arweinwyr yr awdurdod a dywedais wrthynt fod y Llywodraeth hon am fod yn Llywodraeth weithredol a geisiai hyrwyddo a chefnogi datblygiad economaidd ar draws y wlad gyfan, ac y byddem yn cefnogi...
Alun Davies: Mae fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau'n ystyried cyllid llywodraeth leol gydag awdurdodau lleol drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, yn ogystal â chysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol eraill.
Alun Davies: Yn sicr byddwn yn adolygu'r adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, a rhaid imi ddweud fy mod wedi darllen ei adroddiad ac rwy'n cytuno â chasgliadau'r Aelod dros y Rhondda ar y mater. Ond gadewch i mi ddweud hyn: nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn ateb i gwestiwn cynharach fod Prifysgol Caergrawnt wedi cyhoeddi adolygiad yn ddiweddar o ddull gweinyddiaethau gwahanol y DU...
Alun Davies: Nid wyf wedi siarad â'r prif weithredwr, Colin Everett, ar y pwnc hwn yn y ffrâm amser honno, ond rwyf am ddweud hyn: pan oedd y prif weithredwr yn gwneud y datganiad hwnnw yn sir y Fflint, roedd arweinydd Cyngor Sir y Fflint gyda mi yng Nghaerdydd ym Mharc Cathays, yn dweud wrthyf nad oedd ganddo unrhyw ddymuniad i ailagor y fformiwla cyllido na dadl na thrafodaethau ynghylch y fformiwla honno.
Alun Davies: Lywydd, nid oes gennyf gyfrifoldeb am y materion a godwyd gan yr Aelod. Yr hyn a ddywedaf yw mai mater i'r awdurdod lleol yw cyflawni eu cyfrifoldebau fel y gwelant yn dda, a mater i breswylwyr ac etholwyr yng Nghaerdydd yw dwyn y cyngor i gyfrif am y penderfyniadau hynny.
Alun Davies: Mae'n bosibl fod hynny'n wir yn ddamcaniaethol. Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n amlwg yn cael trafferth gyda'r mater hwn: nid wyf yn credu ei bod yn iawn i Weinidogion sy'n sefyll yma yn y lle hwn wneud sylwadau ar y penderfyniadau y mae llywodraeth leol yn eu gwneud wrth gyflawni ei swyddogaethau. Rydym yn atebol yma am benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth...
Alun Davies: Lywydd, fe ddarparaf restr o gyfrifoldebau Gweinidogion i arweinydd UKIP cyn ein sesiwn nesaf yn y lle hwn [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn glir iawn gydag ef, ac Aelodau eraill, a bod yn deg, sydd wedi ymdrechu yr un mor galed i fy nhemtio i ddweud rhywbeth annoeth iawn—[Torri ar draws.] Ond ni chaf fy nhemtio ar yr achlysur hwn i wneud sylw ar benderfyniadau unrhyw gyngor lleol mewn...
Alun Davies: Buaswn yn annog pob awdurdod i arloesi yn eu cynlluniau i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae arloesedd a chreadigrwydd bob amser yn ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy i bob un o'n dinasyddion.
Alun Davies: Lywydd, rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y pwyllgor perthnasol yn y lle hwn, fy mod yn edrych ymlaen at adroddiad ei bwyllgor ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi cryn dipyn o sylw iddo pan fyddaf yn gallu gwneud hynny. Ond mae'n iawn i nodi byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel cyfle i ddod ag awdurdodau at ei gilydd i arloesi ac...
Alun Davies: Rwy'n cytuno bod arweinyddiaeth yn bwysig, ond nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno mai arweinyddiaeth o'r brig i'r bôn sydd ei angen. Credaf fod gennym bobl dalentog dros ben yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill ledled Cymru, ac mae'r gweithgor a ddisgrifiais mewn ateb cynharach yn darparu adroddiad heriol iawn i ni sy'n ceisio sicrhau bod...
Alun Davies: Mae awdurdodau lleol Cymru yn gosod eu cyllidebau yng nghyd-destun eu cynlluniau ariannol tymor canolig. Maen nhw’n seiliedig ar gymysgedd o refeniw a godwyd yn lleol a darpariaeth Llywodraeth Cymru o grantiau penodol a chyllid heb ei neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw. Eleni, cyllidebwyd dros £7 biliwn o wariant gan awdurdodau lleol.
Alun Davies: Lywydd, mae'n hawdd iawn i ni ddisgrifio'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol, ond ar y meinciau hyn, rydym yn ceisio disgrifio atebion yn ogystal. Mae cyflwyno datganiad i'r wasg yn galw am arian ychwanegol ar gyfer holl feysydd gwariant y Llywodraeth yn ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn heddiw. Mae'n ymateb annigonol ac anaeddfed. Rwyf am ddweud hyn wrth yr Aelod: rwyf wedi...
Alun Davies: Mae gennyf hyder llawn yn arweinyddiaeth Cyngor Abertawe i reoli'r cronfeydd sydd ar gael iddo mewn modd priodol. Credaf fod arweinyddiaeth Cyngor Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth go ysbrydoledig o ran eu huchelgeisiau ar gyfer y ddinas honno ac mae'n rhoi camau ar waith i'w cyflawni. Credaf fod yr arweiniad a ddangoswyd gan Rob Stewart, fel arweinydd y cyngor, yn gosod esiampl ar gyfer...
Alun Davies: Rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio ac asesu effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Pan fo trefniadau rhanbarthol yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru, gall y Gweinidog perthnasol oruchwylio effeithiolrwydd y trefniadau hynny.
Alun Davies: Rydym ni wedi bod, ers rhai blynyddoedd, yn cydweithio â llywodraeth leol a chynghorau gwahanol i greu’r union fath o rwydwaith rhanbarthol y mae’r Aelod yn awgrymu ein bod ni’n gwneud, ac mae hynny’n bodoli yn y rhan helaeth o’r wlad. Rydw i’n fodlon iawn gyda'r math o drefniadau y mae’r cynghorau wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei ailgylchu neu ei drin...
Alun Davies: Rwy'n cefnogi'r dull cydweithredol a amlinellwyd gan yr Aelod dros y Preseli. Mae'n bwysig i awdurdodau lleol o ba bynnag faint neu siâp allu gweithio gyda'u cymdogion i gyflawni'r math o uchelgais y byddai ef a minnau'n cytuno arno yn ôl pob tebyg o ran bargen ddinesig bae Abertawe. Fodd bynnag, mae'r materion sy'n ymwneud ag uno neu strwythurau o fewn awdurdodau lleol ychydig yn wahanol,...
Alun Davies: Rwy'n credu ein bod yn gwneud llywodraeth yn rhy gymhleth ar adegau. Credaf fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn yma ac mewn mannau eraill. Credaf fod angen i ni edrych am eglurder yn y ffordd rydym yn strwythuro'r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau ond hefyd yn y ffordd y strwythurwn yr atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod...
Alun Davies: Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi comisiynu'r gwaith o ddatblygu glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rwyf wedi rhannu'r glasbrintiau hyn gydag aelodau o'r Cabinet, ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ystod yr wythnos nesaf.
Alun Davies: Rwyf wedi ymweld â CEM Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc yn y carchar, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda'r cyfarwyddwr yno. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi wedi cadarnhau bod yna ddadansoddwyr rheoli ymddygiad yn y Parc sy'n gweithio i leihau'r lefelau o hunan-niweidio a thrais yn y carchar. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni fynd ymhellach na hyn. Credaf fod angen...