Mohammad Asghar: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staff nyrsio yng Nghymru? OAQ54861
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond yn ddiweddar, lluniodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad ar weithrediad Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), ac mae'r adroddiad yn dweud bod y gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol gyda nifer fawr o swyddi gwag a'r posibilrwydd o golledion sylweddol o nyrsys i ymddeoliad dros y pump i 10 mlynedd nesaf yng Nghymru. Galwodd y Coleg...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y gost i'r GIG yng Nghymru o reoli plâu yn ein hysbytai? Yn ôl gwybodaeth a gafwyd gan y BBC, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi talu bron £94,000 yn ystod y pedair blynedd diwethaf i'w gontractwr i ymdrin â'r pla, gwariodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe fwy na £52,000, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys...
Mohammad Asghar: Mae'n ddrwg gennyf.
Mohammad Asghar: Nid fi sydd i fynd, mae'n ddrwg gennyf.
Mohammad Asghar: Weinidog, efallai y cofiwch i mi eich holi ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil Gemau'r Gymanwlad 2022, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham. Bryd hynny, fe gadarnhaoch chi eich bod wedi cyfarfod â threfnwyr y gemau i weld a allai rhai o'r timau sy'n cystadlu gael eu lleoli yma yng Nghymru. O gofio'ch ateb, a allwch ddweud a ydych wedi gwneud...
Mohammad Asghar: Rydym i gyd yn dymuno gweld y stryd fawr yn brysur yng nghanol ein trefi. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen busnesau lleol ffyniannus ac ymgysylltiad cadarnhaol rhwng ein cymunedau a'u strydoedd mawr. Fodd bynnag, y realiti trist yw bod llawer o'n strydoedd mawr mewn argyfwng heddiw. Mae gormod o siopau yng nghanol trefi Cymru yn wag. Mae ffigurau Consortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod gan...
Mohammad Asghar: Gweinidog, hoffwn i gael dau ddatganiad, y cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at gynhyrchu ynni gan losgyddion biomas. Mae ymgyrchwyr yn y Barri wedi galw am atal neu roi'r gorau ar unwaith i weithio ar y llosgydd biomas yno, ac rwyf wedi clywed bod trafodaeth am gael llosgydd arall ar wastadeddau Gwynllŵg ger Casnewydd, sy'n peri...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae plant ag awtistiaeth yn aml yn cael eu camddeall a gallant ei chael hi’n anodd cymdeithasu a chyfathrebu yn eu cymunedau ac yn eu hamgylchedd. O’r herwydd, gall diffyg ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith plant eraill arwain at ynysu neu fwlio pobl awtistig. Weinidog, pa...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y grant cymorth tai? Mae cyllid ar gyfer cymorth sy'n gysylltiedig â thai wedi gostwng £27 miliwn mewn termau real ers 2012. Mae awdurdodau lleol, darparwyr cymorth y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol yn dweud ei bod eisoes yn anodd diwallu anghenion pobl y mae angen gwasanaethau cymorth arnyn nhw o...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr i mi agor y ddadl hon heddiw ar gydnabod pwysigrwydd addysg bellach yn y broses o ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng Nghymru. Mae economi Cymru'n methu cyflawni ei photensial llawn. Mae'n wynebu nifer o heriau sylfaenol. Mae'r rhain yn cynnwys bwlch sgiliau mewn uwch-dechnoleg, a'r gofyniad am weithlu sydd â'r hyblygrwydd i addasu i economi...
Mohammad Asghar: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ54993
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Cofnododd heddluoedd Cymru bron i 4,000 o droseddau casineb yn 2018-19. Roedd un ar ddeg y cant o'r digwyddiadau hyn yn droseddau casineb ar sail anabledd—sy'n gywilyddus. Mae'r elusen anabledd dysgu United Response wedi galw am i fesurau gael eu cymryd ledled y wlad a chan yr awdurdodau i wneud y broses o adrodd ac euogfarnu troseddau casineb ar sail anabledd...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr oedi parhaus i gwblhau gwaith i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd? Roedd y gwaith hwn yn wreiddiol i fod i orffen erbyn diwedd y llynedd. Clywn nawr fod y dyddiad cwblhau ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei adolygu eto. At hynny, mae anghydfod rhwng y contractwr a Llywodraeth Cymru ynghylch costau'r...
Mohammad Asghar: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru? OAQ54992
Mohammad Asghar: Diolch, Weinidog. Bydd y rheoliadau newydd arfaethedig ynghylch parthau perygl nitradau yn effeithio ar bob fferm, pob sector a phob ardal yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gymuned ffermio, gan honni bod ffermwyr yn profi lefelau uwch fyth o straen a phryder. Ni roddodd...
Mohammad Asghar: Ddydd Iau diwethaf, 23 Ionawr 2020, cyhoeddodd Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin fod y Bil cytundeb ymadael wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Bydd aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben am 11 o'r gloch nos Wener. Mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi gwireddu'r addewid a wnaed i bobl Prydain i gyflawni Brexit. Mae dros dair blynedd a hanner ers i bobl Prydain bleidleisio'n glir ac yn...
Mohammad Asghar: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am lefelau llygredd aer yng Nghasnewydd? Yn ddiweddar, canfu sefydliad ymchwil Centre for Cities fod marwolaethau 113 o bobl yng Nghasnewydd yn 2017 yn gysylltiedig â llygredd aer. Mae'r ymchwil hon yn dilyn cyhoeddiad y British Heart Fundation am ymgyrch newydd i dynnu sylw at beryglon llygredd aer a'r rhybuddion...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae ffyrdd newydd o weithio mewn hinsawdd o gyllidebau cyfyngedig yn anhepgor ar gyfer cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu cynghorau lleol i nodi anghenion cyffredin lle gallent elwa o atebion arloesol a lle byddai atebion ar y cyd yn caniatáu i fwy o adnoddau gael eu defnyddio?
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am oruchwylio a gweithredu'r Ddeddf Cynllunio yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch y cynnydd mewn caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn fy rhanbarth i. Er bod y datblygiadau hyn o fewn y cynllun Llywodraeth Leol, mae fy etholwyr yn pryderu bod y seilwaith lleol...