Canlyniadau 721–740 o 1000 ar gyfer speaker:David Melding

1. Teyrngedau i Steffan Lewis AC (15 Ion 2019)

David Melding: Llywydd, roedd llais Steffan yn llais cryf ar y cyfansoddiad. Roedd ganddo ddealltwriaeth ddofn a oedd yn caniatáu iddo droedio uchelfannau syniadaeth wleidyddol. Llywydd, cafodd y ddau ohonon ni ein hethol yn 1999, ac nid wyf yn meddwl i mi erioed glywed rhywun yn traethu mor hael ar faterion sylfaenol. Roedd ei wybodaeth am y broses seneddol a'i ddefnydd ohoni yn caniatáu iddo hyrwyddo...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc (15 Ion 2019)

David Melding: Prif Weinidog, ymunaf â chi i ganmol gwaith Lynne Neagle a'i phwyllgor, sydd wedi bod yn allweddol yn y maes hwn. A gaf i dynnu sylw at y pwysau cynyddol a achosir gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol? Mae plant yn y DU yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd erbyn hyn nag unrhyw wlad arall ar wahân i Chile yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Ion 2019)

David Melding: Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar achos fy etholwr, Mr Barry Topping-Morris. Mr Topping-Morris oedd y pennaeth nyrsio yng Nghlinig Caswell yn Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, fel yr oedd hi bryd hynny, pan gafodd ei ddiswyddo yn 2005. Soniodd wrth uwch-reolwyr am yr hyn a ystyriai yn afreoleidd-dra mewn asesu a thrin claf. Daeth y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rôl Dinasoedd o fewn Datblygu Economaidd (16 Ion 2019)

David Melding: Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod chi a'ch dirprwy addawol iawn wedi cael cyfle i ddarllen strategaeth y grŵp Ceidwadol ar ddinasoedd byw. Yn wir, os ydych chi a'ch tîm ehangach eisiau inni gynnal seminar ar eich cyfer, byddem yn falch iawn o roi ein syniadau i chi. Credaf mai un peth a'n trawodd oedd bod rhai dinasoedd o gwmpas y DU wedi bod yn wirioneddol allweddol i ddatblygiad...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Paratoi Busnesau ar gyfer Gadael yr UE (16 Ion 2019)

David Melding: Os caf ymhelaethu ar bwynt Vikki Howells, gwir eironi ein sefyllfa bresennol yw y bydd mwyafrif helaeth y busnesau sy'n allforio i'r farchnad sengl yn dymuno parhau i lynu wrth y fframwaith rheoleiddio sydd wedi'i osod heddiw, ac ar gyfer y dyfodol, gan yr UE. Rwyf wedi clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud am y paratoadau, ond a wnewch chi hefyd weithio gyda sefydliadau tebyg i Gydffederasiwn...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn' (16 Ion 2019)

David Melding: Rwy'n credu bod cyhoeddi'r adroddiad hwn yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau fel Tŵr Grenfell, ond yn y sector preifat, yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn yn barhaus am y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at weithredu'r argymhellion. Credaf mai...

10. Dadl Fer: Contract ar gyfer Gwell Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y Gweithle (16 Ion 2019)

David Melding: A gaf fi ddiolch i Jack am godi mater pwysig cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle? Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl fy hun yn eithaf cyson drwy gydol fy oes fel oedolyn, ac mae wedi cael effaith yn y gweithle, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mewn ffordd anffurfiol credaf fy mod wedi cael cefnogaeth ac rwyf wedi brwydro drwyddi a'r rhan fwyaf o'r amser...

15. Rheoliadau Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (22 Ion 2019)

David Melding: Rydym ni'n gresynu'n fawr bod yr hawl i brynu wedi ei ddiddymu. Cafwyd y dadl honno, ac rydym yn symud ymlaen. Yn sicr, mae angen inni ganolbwyntio a ffurfio consensws newydd ynghylch y cynnydd cyflym mewn adeiladu tai, a dyma fydd ein prif bwyslais bellach, ond rydym ni yn gresynu'r ddeddfwriaeth hon yn fawr iawn, ac, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, byddwn yn ceisio ailgyflwyno'r hawl i brynu...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Lleihau Llygredd Aer (23 Ion 2019)

David Melding: Weinidog, a ydych yn croesawu penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymrwymo i safonau ansawdd aer sy'n seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n llawer llymach nag argymhellion yr UE, ac yn wir, i ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a haneru'r nifer, o leiaf, erbyn 2025? Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mentrau Bach a Chanolig sy'n Adeiladu Tai (23 Ion 2019)

David Melding: Weinidog, mae'r diffyg BBaChau sy'n adeiladu tai yn ffenomen yn y DU, ac mae'n wirioneddol syfrdanol. Yn y 1980au, y sector BBaChau oedd yn gwneud tua 40 y cant o'r gwaith adeiladu tai; mae'r ffigur hwnnw mor isel â 10 y cant mewn rhai rhannau o'r wlad bellach. Yn amlwg, mae angen inni wrthdroi hyn, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar y safleoedd segur. Nododd ymchwil Llywodraeth Cymru yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lleihau Costau Gweithwyr Asiantaeth yn y GIG (29 Ion 2019)

David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau canmol gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod 82 y cant o'r gwariant hwn ar gyfer swyddi gwag. Ac mae hefyd yn dweud bod problem wirioneddol o brinder sgiliau a data gwael, yn enwedig y diffyg data cyson a chymaradwy, sy'n amharu ar yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom gan y byrddau iechyd. Beth ydych chi'n...

9. Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit (29 Ion 2019)

David Melding: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, David Rees, am y ffordd y mae wedi arwain y pwyllgor? Rwy'n credu ei fod wedi gwneud hynny â pharodrwydd mawr. Mae hyn yn waith brys a difrifol iawn ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ffordd yr ydych chi wedi cadeirio ein cyfarfodydd a cheisio cael consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Ond y peth cyntaf i'w bwysleisio yw, os byddwn yn gadael yr UE heb...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Canllawiau Cylch Cyflog 2019 (30 Ion 2019)

David Melding: 6. Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ53309

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Canllawiau Cylch Cyflog 2019 (30 Ion 2019)

David Melding: Weinidog, yn amlwg felly, mae'n rhaid rhoi hyn ar waith o 1 Ebrill ymlaen, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nid yw diwedd mis Chwefror yn rhoi llawer o amser iddynt roi mesurau amrywiol ar waith fel y gallant weithredu'r dyfarniadau cyflog hyn yn effeithiol. A oes unrhyw obaith y gallwch gyflymu'r cyhoeddiad, sydd eisoes yn eithaf hwyr yn y cylch,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blaenoriaethau Cychwynnol ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru (30 Ion 2019)

David Melding: Weinidog, i ddathlu cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, mae Llywodraeth Japan wedi lansio tymor o ddiwylliant rhwng Japan a'r DU. Mae pwyllgor gweithredol yng Nghymru yn hyrwyddo digwyddiadau yma. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn o beth gan y dylem ddathlu ein cysylltiadau â Japan. Maent wedi gwneud cymaint yn economaidd, ac mae gennym lawer o gysylltiadau...

8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin (30 Ion 2019)

David Melding: Diolch i chi am ildio. Roeddwn yn cefnogi'r cytundeb. Roeddwn am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac fe ymladdais yn galed i gyflawni hynny, ac fe fethais. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn fethiant yn wyneb wal o gelwyddau, er bod llawer o siarad slic wedi'i wneud gan bobl. Ond rwyf wedi derbyn y canlyniad. Rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith y byddai'r cytundeb hwnnw wedi pasio o un bleidlais pe bai...

8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin (30 Ion 2019)

David Melding: Diolch iddo am ildio, oherwydd cefais fy ethol yn 1999. Roeddwn yn derbyn y canlyniad yn 1997. Gwnaeth uwch aelodau'r grŵp, ar ôl inni symud o dan arweinyddiaeth Nick Bourne, lawer o waith ar y pryd, ac nid oedd ein haelodau'n diolch i ni bob amser. Credaf eich bod yn cyfeirio at faniffesto'r DU—roedd y geiriad yn llac yn hwnnw—ond ni fu erioed—erioed—yn bolisi gan Blaid Geidwadol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganoli Gweinyddol mewn Cysylltiad â Lles ( 5 Chw 2019)

David Melding: Rwy'n credu, a bod yn blaen, Prif Weinidog, mai rhywbeth pitw iawn fyddai datganoli gweinyddol yn y maes hwn. Nawr, ers 1945, y contract cymdeithasol a fu'n sylfaen i'r wladwriaeth les yw bod gan ddinesydd berthynas uniongyrchol â'r wladwriaeth ar gyfer lefel o ddiogelwch economaidd ac, ni waeth ble mae ef neu hi yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod ganddo'r un hawliau economaidd sylfaenol i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.