Alun Davies: Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliadau'r Aelod dros Ganol De Cymru. Cefais gyfarfod â Charlie Taylor, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn yr ychydig wythnosau diwethaf i drafod y materion hyn gydag ef a sut yr awn i'r afael â throseddau ieuenctid. Mae'r dadansoddiad a ddisgrifiodd yr Aelod yn gwbl gywir a chredaf ei fod yn argyfwng sy'n rhaid i ni roi sylw iddo. Pan fydd yn darllen y...
Alun Davies: Er gwaethaf ymdrechion yr Aelod o'r Rhondda, credaf ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno ar lawer mwy nag y byddai hi'n ei gredu o bosibl. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r lle hwn—
Alun Davies: —ac i greu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi. Ar gais yr heddlu, rydym wedi creu bwrdd plismona i Gymru, a gyfarfu am y tro cyntaf fis diwethaf, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r heddlu. Rwyf wedi cyfarfod â'r Swyddfa Gartref ar nifer o achlysuron i fynd ar drywydd y materion hyn, ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd ar drywydd y materion hyn yn ogystal....
Alun Davies: Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rheini sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno bod fy natganiad diweddar ar y materion hyn yn adlewyrchu hynny.
Alun Davies: Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi lansio'r llwybr cyflogaeth mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal ag elusennau milwrol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu opsiynau i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog o ran ble y gallant ddod o hyd i gymorth a...
Alun Davies: Na wnaf.
Alun Davies: Un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cyfamod oedd er mwyn darparu adnoddau i'r rheng flaen pan fo'u hangen. Felly, byddwn yn gwario adnoddau sylweddol ar gefnogi'r rhwydwaith o swyddogion cyswllt awdurdod lleol ledled Cymru, sy'n darparu cymorth ar gyfer holl bersonél y lluoedd arfog, mewn perthynas â thai ac mewn ffyrdd eraill...
Alun Davies: Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2019-20. Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd arian pellach ar gael ar gyfer llywodraeth leol. Bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr.
Alun Davies: Sylwais ar sylwadau arweinydd Cyngor Sir Penfro ar y materion hyn mewn papur newydd yn ddiweddar. Hoffwn ddweud wrtho, ac wrth yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud nifer o benderfyniadau ar lefelau'r dreth gyngor dros nifer o flynyddoedd gan wybod yn iawn beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. A mater i etholwyr sir Benfro, nid mater i mi, yw...
Alun Davies: The blueprint for female offending in Wales sets out our aspirations for a distinct and different approach to female offending in Wales. This includes ambitions for the secure estate for women in Wales.
Alun Davies: The community facilities programme, which aims to support communities to develop financially sustainable, fit-for-the-future buildings, has committed £21.4 million to 106 community-led projects across Wales since 2015. Each project represents a well-used community facility that brings people together.
Alun Davies: The Welsh Government is committed to working with communities to help them take ownership of community assets where this is the best option. Successful and sustainable local solutions can only be achieved by working across the public, private and third sectors.
Alun Davies: Mae cyllideb Cyngor Sir Ynys Môn yn fater ar gyfer aelodau etholedig lleol. Bydd y cyngor yn ystyried sut i ddefnyddio’i holl adnoddau wrth osod ei gyllideb, ac mae eisoes yn ymgynghori â phobl leol ynghylch sut dylid blaenoriaethu adnoddau lleol.
Alun Davies: I and my officials have discussed the issue of grass fires with all our fire and rescue services on many occasions.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch personol i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio gyda mi i ddatblygu a phrofi'r glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc a throseddwyr sy'n fenywod dros fisoedd lawer. Mae'r bobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol ymhlith y rhai mwyaf...
Alun Davies: Mae ein cynigion presennol ar gyfer troseddau ieuenctid felly yn blaenoriaethu mwy o atal cynnar a gweithgareddau dargyfeirio, gan gyrraedd pobl iau hyd yn oed yn gynharach, cyn eu bod mewn perygl o droseddu. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dulliau o weithredu o ran dargyfeirio cyn y llys a chynyddu'r gefnogaeth i ddull wedi ei lywio gan drawma ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl...
Alun Davies: Rwyf yn ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am eu cwestiynau, ac rwy'n credu, eu cefnogaeth gyffredinol i'r datganiad hwn a'r dull o weithredu yr ydym yn ei fabwysiadu. Dechreuodd yr aelod dros Ogledd Cymru ei sylwadau drwy gwestiynu a oedd hwn yn ddull gwahanol o gwbl, ac yna, er mwyn cynnal ei achos, dyfynnodd o ddogfen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a oedd yn amlinellu'r angen am ymagwedd penodol...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, gadewch imi ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf. Yr ateb yw 'ydw'. Yr ateb yw 'ydw'. Rwy'n gwahodd yr Aelod dros y Rhondda i geisio consensws ac i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n gilydd yn hytrach nag edrych am raniadau rhyngom. Rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol yn y fan yma. Amlinellodd yr Aelod yn dda iawn nifer o adroddiadau beirniadol am y gwasanaeth carchardai...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chefnogaeth, a gwn ei bod wedi bod yn ymgyrchydd ar y materion hyn am flynyddoedd lawer ac wedi ysgogi'r ddadl ar lawer o'r materion hyn dros gyfnod sylweddol o amser. Hoffwn ddechrau drwy gytuno ar y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud ynghylch poblogaeth y carchardai. Yn y 13 mis yr wyf i wedi bod yn swydd hon, rwyf wedi ymweld â phob...
Alun Davies: Rwy'n meddwl bod Jenny Rathbone, fel y bydd yn ei wneud yn aml iawn, wrth gwrs, wedi nodi'r brif her sy'n ein hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i chi, Jenny, am eich cefnogaeth i'r dull yr ydym ni'n ei arddel, ond rydych chi yn llygad eich lle: cawn ein beirniadu am ein camau gweithredu ac nid ein hareithiau, ac rwyf i yn sicr yn cydnabod hynny. Ond gadewch i mi ddweud gair am y dull yr wyf i wedi'i...