John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl Aelodau'r Senedd a gymerodd ran yn y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor a'r ffordd y gwnaethant hynny? Rwy'n credu ei bod yn glir iawn, onid yw, fod Aelodau'n gwerthfawrogi'r asedau cymunedol sydd ganddynt yn eu hardaloedd eu hunain ac yn gallu pwyntio at lawer o enghreifftiau o arferion da, ac yn wir, cyfeiriodd...
John Griffiths: Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn farn gyffredin fod angen inni ystyried amseroldeb gweithredu wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad a'r cynnydd angenrheidiol mewn perthynas â'r materion hyn. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ymateb i hynny ac yn datgan ei hymrwymiad ei hun i sicrhau amseroldeb wrth fwrw ymlaen ag ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a'r gwaith y mae'r...
John Griffiths: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yn Nwyrain Casnewydd?
John Griffiths: Gweinidog, dros y penwythnos mewn ardaloedd yn Nwyrain Casnewydd, fel Llanwern, Langstone a St Julians, gwelwyd llifogydd ac nid digwyddiad anghyffredin mohonyn nhw'n anffodus, sydd wedi mynd yn fwy tebygol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o drigolion a busnesau yn cysylltu â mi a'm swyddfa i. Un o'r materion yr ydych chi'n siŵr o fod yn gyfarwydd â nhw, Gweinidog, yw canfod pwy...
John Griffiths: Gweinidog, rwy'n credu bod y rhyfel yn Wcráin wedi dangos yn glir pa mor ansefydlog ac anrhagweladwy yw'r byd yr ydym yn byw ynddo ac mae llawer o wledydd bellach yn gweithio'n galed iawn i gynnal a chefnogi eu diwydiannau allweddol, eu diwydiannau strategol. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi cyfeirio at y diwydiant dur ac yn wir y diwydiant lled-ddargludyddion yn eich datganiad, oherwydd...
John Griffiths: Credaf fod hwn yn adroddiad pwyllgor ac yn ddadl bwysig iawn. Mae gan y sector hamdden ran bwysig iawn i’w chwarae yn ein bywydau yng Nghymru, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Maent mor bwysig er mwyn mwynhau bywyd, ar gyfer iechyd a ffitrwydd ac ar gyfer ansawdd bywyd. A diolch byth, credaf ein bod wedi gweld cysylltiadau llawer gwell rhwng y byd chwaraeon a ffitrwydd a byd...
John Griffiths: Gwyddom o'r dadleuon hyn ac o'n profiad ein hunain, Ddirprwy Lywydd, fod y pwysau ar y GIG yn aruthrol. Yn aml, mae'n wasanaeth adweithiol iawn a hynny o anghenraid mewn sawl ffordd oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r GIG ymdopi â'r hyn sy'n dod i'w ran, ac yn aml, mae'r hyn sy'n dod i'w ran yn hynod o heriol ac yn mynnu pob gronyn o'i adnoddau. Ond rydym hefyd yn gwybod, ac fel y dywedodd...
John Griffiths: 5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arbenigol meddygol ymhellach ledled Cymru? OQ59055
John Griffiths: Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Bythefnos yn ôl, cwrddais ag un o fy etholwyr iau, Elliot, a'i fam, Lucy. Mae'r ddau yma yn y Senedd heddiw yn yr oriel gyhoeddus yn gwylio'r trafodion. Mae Elliot yn bum mlwydd oed ac yn dioddef o gyflwr prin o'r enw nychdod cyhyrol Duchenne, anhwylder genetig sydd â'r nodwedd o golli cyhyrau yn raddol. Fel rhan o'i driniaeth, Gweinidog, mae Lucy yn...
John Griffiths: Fe wnaethoch chi sôn am Liberty Steel, Gweinidog, ac mae cau'r ffatri honno dros dro yn ddealladwy wedi creu llawer iawn o bryder. Fe fyddwch chi'n gwybod, Gweinidog, bod y gweithrediad diwydiannol hwnnw'n helaeth iawn, a bod llawer o gyfleoedd o'i fewn, rwy'n meddwl. Mae gennych chi'r orsaf bŵer yno, y cysylltiadau rheilffordd a phen y rheilffordd, ei doc ei hun a graddfa'r safle; mae...
John Griffiths: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig ar draws Dwyrain Casnewydd? OQ59054
John Griffiths: Ie. Yn aml, rwy'n credu, Gweinidog, mae mentrau bach a chanolig mor brysur yn rhedeg eu busnesau nes ei bod hi'n anodd bod yn ymwybodol o'r help a'r gefnogaeth sydd ar gael, ac, yn wir, treulio'r amser i fanteisio arnyn nhw. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod Busnes Cymru yn amhrisiadwy yn Nwyrain Casnewydd, ac fe weithiodd fy swyddfa etholaeth yn dda iawn gyda nhw yn ystod y pandemig, pan...
John Griffiths: Rwyf am siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddod i sesiynau tystiolaeth y pwyllgor. Fel pwyllgor, Llywydd, gwnaethom gydnabod bod gosod cyllideb ddrafft yn wyneb pwysau economaidd eithafol yn her anodd i Lywodraeth Cymru. Roeddem...
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor—y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y dywedoch chi, Llywydd. Rydym ni wedi cynnig dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, memorandwm atodol Rhif 2 a memorandwm atodol Rhif 3 ym...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Bydd Jayne Bryant a Peredur Owen Griffiths yn siarad am un funud. Lywydd, Ddirprwy Weinidog, dwi eisiau dechrau’r ddadl fer heddiw drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi ac i bawb yma yn y Senedd. Rwy’n falch o gael y ddadl yma ar y diwrnod pan ydym yn dathlu ein sant cenedlaethol. Fel llawer yn Nwyrain Casnewydd a ledled Cymru, byddaf yn nodi’r diwrnod. Rwy’n falch...
John Griffiths: Cyn y Ddeddf Uno gyntaf ym 1535, pan gafodd Cymru ei chyfeddiannu gan Loegr, roedd sir Fynwy yn cael ei hystyried yn rhan o Gymru. Ar ôl yr ail Ddeddf Uno ym 1542, aeth pethau'n gymhleth. Cofrestrwyd deuddeg sir yng Nghymru, ond gwnaed sir Fynwy yn uniongyrchol atebol i lysoedd San Steffan. Roedd y Gymraeg yn ddadl allweddol ar ochr y rheini a honnai y dylai'r sir fod yn rhan o Gymru....
John Griffiths: Hoffwn ddefnyddio’r ddadl heddiw i archwilio hunaniaeth Gymreig yn y ddinas ychydig ymhellach, i egluro'r sefyllfa ar hyn o bryd yn fy marn i, ond hefyd, sut y credaf y gall dyfu, yn enwedig ymhlith ein cenhedlaeth iau, ond hefyd yng nghyd-destun uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nôl ym mis Tachwedd ac ychydig cyn cwpan y byd, roeddwn yn...
John Griffiths: Ddirprwy Weinidog, hoffwn sôn hefyd am ddata cyfrifiad 2021, a chofnodi rhai o’r canfyddiadau a gofnodwyd ar ein cyfer yn lleol. Mae 56.3 y cant o bobl yn Ringland, ardal o Ddwyrain Casnewydd sydd wedi’i dylanwadu’n drwm gan waith dur cyfagos Llan-wern ers y 1960au, yn nodi eu bod yn Gymry'n unig, ond o ran sgiliau iaith Gymraeg, dywedodd dros 90 y cant o’r bobl yno nad oedd...
John Griffiths: Dirprwy Weinidog, rwyf am orffen drwy sôn am fy etholwr a’m ffrind, Olwen, a oedd yn gyn-athro Cymraeg yma yn y Senedd. Roedd hi’n naw mlwydd oed pan symudodd i Gasnewydd o Gaerdydd, lle roedd hi’n ffodus i fynd i ysgol gynradd Gymraeg. Pan symudon nhw i Gasnewydd, ychydig iawn o Gymraeg oedd yn y dref, fel yr oedd bryd hynny, ac yn sicr ddim yn yr ysgolion. Yn yr 1960au, gyda Lilian...
John Griffiths: Lywydd, fel rhywun sydd wedi ymrwymo i ddatganoli ac i Gasnewydd, mae’n braf iawn myfyrio ar y cynnydd rydym wedi’i wneud. Bellach, mae gennym Senedd i Gymru—rhywbeth y mae cenedlaethau wedi ymgyrchu drosto ac wedi gweithio i’w sicrhau. Mae gan Gasnewydd a Chymru hunaniaeth Gymreig gryfach a atgyfnerthir gan y setliad democrataidd newydd. Mae'n bwysig i bobl gael ymdeimlad clir o'u...