Bethan Sayed: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, yn ystod y pandemig a chyn hynny, gwyddom fod gwasanaethau iechyd meddwl dan bwysau a'u bod yn aml wedi cael eu hystyried yn wasanaethau sinderela yn y gorffennol, ond gwn fod elfennau o hynny wedi newid, fel rydych wedi dangos yn eich ateb imi heddiw. Ond rwyf wedi gwneud llawer gydag anhwylderau bwyta dros y blynyddoedd, ac yn amlwg bydd angen...
Bethan Sayed: 9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith diwygiadau cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar addysg uwch ran-amser? OQ56454
Bethan Sayed: Diolch, a phob hwyl ar gyfer y dyfodol; bydd gennym fywydau y tu hwnt i wleidyddiaeth eto. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod cynyddu niferoedd myfyrwyr rhan-amser yn thema bwysig yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Ond a allwch gadarnhau i ni, pan nad yw’r cynnydd yn nifer myfyrwyr y Brifysgol Agored yn cael ei chyfrif, fod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yn sector...
Bethan Sayed: 4. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i wella gweithio hyblyg a rhannu swyddi? OQ56455
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am yr ateb cynhwysfawr yna. Fel rwyf wedi amlinellu yn ddiweddar yng nghyd-destun y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), mae rhannu swyddi yn rhywbeth sydd angen inni edrych arno i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer cynrychiolaeth fwy amrywiol ac amgylchedd gwleidyddol sydd yn fwy cyfeillgar i deuluoedd. Gan nad yw hwn nawr ar yr agenda o ran etholiadau, gallai'r...
Bethan Sayed: Mae gen i gais am ddau ddatganiad heddiw. Heddiw, mae Siyanda Mngaza yn wynebu gwrandawiad apêl i herio'r ddedfryd y mae'n ei bwrw ar hyn o bryd am niwed corfforol difrifol. Roedd Siyanda yn fenyw anabl ddu 4 troedfedd 2 fodfedd, 20 oed, yr ymosodwyd arni gan dri o bobl wrth iddi wersylla yn Aberhonddu. Roedd dau o'i ymosodwyr yn ddynion ddwywaith ei hoedran, ac er iddi ddweud wrth...
Bethan Sayed: Hoffwn i ddiolch i Jack Sargeant hefyd am roi cwestiwn mor bwysig gerbron, a thalu teyrnged i'w dad, Carl Sargeant, a oedd wedi fy helpu i pan wnes i gael nifer o broblemau gyda gorbryder yn sgil perthynas negyddol a dinistriol yn y gorffennol. Roedd e wedi bod yn gefn i fi, a heb ei gefnogaeth e, dwi ddim yn credu y buaswn i wedi dod mas mor gadarn ag yr ydw i wedi dod dros y blynyddoedd....
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd, a hefyd, fel rhan o'm cyfraniad olaf, hoffwn i ddweud pob lwc i chi yn beth bynnag rydych chi'n ei wneud yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi fel Dirprwy Lywydd ac fel Aelod o'r Senedd yma. Mae'n bleser o'r mwyaf cael agor y ddadl heddiw ar ein hadroddiad sy'n edrych ar ddatganoli darlledu a sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd...
Bethan Sayed: Gan droi at gystadleuaeth gan gwmnïau ffrydio, a throi at dueddiadau ehangach yn y tirlun darlledu, mae'n amlwg ein bod yn byw drwy gyfnod o newid strwythurol enfawr. Mae statws ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, y BBC ac ITV, a fu unwaith yn flaenaf yn y maes, dan fygythiad yn sgil cystadleuaeth gan ddarparwyr gwasanaethau fideo ar alw drwy danysgrifio fel Netflixes ac Amazons y byd....
Bethan Sayed: Felly, diolch gen i am y tro. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau prynhawn yma, a hoffwn i gymeradwyo’r adroddiad hanesyddol yma heddiw i’r Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Bethan Sayed: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb, dwi'n credu, sydd wedi ymateb i'r drafodaeth yma heddiw.
Bethan Sayed: Diolch i David Melding am eich cyfraniad ar y pwyllgor. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phawb mewn gwirionedd, oherwydd mae wedi rhoi cyfle inni drafod y mater pwysig hwn mewn ffordd gydsyniol ac mewn ffordd lle gallwn geisio cyrraedd pwynt lle nad oedd yn rhaid inni gynhyrchu adroddiadau lleiafrifol neu lle nad oedd yn rhaid inni geisio gwneud...
Bethan Sayed: Siân Gwenllian, diolch yn fawr iawn i chi am eich gwaith chi ar y pwyllgor hefyd. Roeddech chi'n aelod o'r pwyllgor ac yn aelod diwyd hefyd, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i weithio gyda fi ar y pwyllgor yma. Pwerau dros ddatganoli darlledu—a fydd y pleidiau eraill yn dod i gefnogi hyn yn eu maniffestos? Wel, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld beth fydd yn digwydd yn y mis...
Bethan Sayed: Rwy'n ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud am gyfraniad Gareth Bennett. Cawsom lawer o sesiynau tystiolaeth gan bobl â diddordebau penodol yn y cyfryngau. Cawsom bobl a oedd yn academyddion, pobl sy'n gweithio yn y sector. Nid rhestr ddymuniadau gan bwyllgor y Senedd yw hon. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth real—gwaith caled, o un diwrnod i'r llall. Mae undebau llafur hefyd wedi gofyn...
Bethan Sayed: Diolch i'r Gweinidog Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad. Diolch ichi am amlinellu'r ffaith bod pethau wedi newid ar ran Llywodraeth Cymru a'ch meddylfryd yn y maes yma, ac, fel dywedais i ar y cychwyn, mae Lee Waters wedi ysgrifennu atom ni fel pwyllgor ddoe yn dweud y byddan nhw'n cefnogi yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano mewn egwyddor, o ran creu y fund yna ar gyfer newyddiaduraeth yma yng...
Bethan Sayed: Diolch. Rwy'n sefyll yma yn fy araith olaf ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn y Siambr hon. O fod yn Aelod benywaidd ieuengaf y Senedd, mae bywyd wedi newid, oherwydd rwy'n eich gadael ar ôl ymgyrchu'n angerddol yn erbyn anghyfiawnderau ar draws fy rhanbarth a thu hwnt. Rwy'n eich gadael fel person mwy aeddfed, sydd wedi gwneud camgymeriadau ond sydd wedi dysgu oddi wrthynt, fel...