Neil McEvoy: Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn derbyn cyngor gennyf i—ewch i mewn i Outlook a phwyswch argraffu, a dyna ni. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r argraff ofnadwy—ofnadwy—y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cyhoedd yng Nghymru, eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw ddatgan â phwy maen nhw’n cyfarfod ac at ba ddiben? Mae'n gwbl annerbyniol bod...
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Hoffwn adleisio'r teimladau a fynegwyd yn gynharach am Bashir Naderi. Rwyf yn sylweddoli nad oes gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros fewnfudo, ond mae gennym gyfrifoldeb dros gymunedau. Felly, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth wneud datganiad o gefnogaeth i Bashir, ei deulu, a’i ffrindiau. Daeth Bashir i Gymru a byw’n hapus iawn yn Nhrelái am flynyddoedd, gan integreiddio'n...
Neil McEvoy: Rwy'n credu'n gryf mewn cydraddoldeb, ond mae un math o anghydraddoldeb ac un grŵp o bobl nad wyf wedi clywed neb yn ei grybwyll yn y Senedd eto, ac, mewn cysylltiad â cham-drin domestig, dynion yw’r grŵp hwnnw. Rwy’n cytuno ag Erin Pizzey, sylfaenydd y lloches i fenywod gyntaf yn y DU, ac mae hi'n dweud nad yw cam-drin domestig yn benodol i ryw, ei fod yn berthnasol i’r ddau ryw,...
Neil McEvoy: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo rygbi cyffwrdd mewn ysgolion? OAQ(5)0048(EDU)
Neil McEvoy: Diolch. Cymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru yw pencampwyr iau Ewrop; fe wnaethant ennill y bencampwriaeth yn yr haf. Mae’r plant dan 18 oed wedi ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol, sy’n anhygoel. Mae’n gamp wych ar gyfer gwella sgiliau trin; ac mae’n fawr yn hemisffer y de. Mae fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â CBAC, ac rwy’n meddwl tybed a allwch helpu. Mae...
Neil McEvoy: Mae llawer wedi cael ei ddweud am gymorth grant amheus drwy Lywodraeth Cymru—y cytundebau tir, megis Llys-faen, lle y collwyd £39 miliwn o’r pwrs cyhoeddus. A ydych yn cytuno y bydd buddsoddi mewn atal twyll difrifol yn y Cynulliad drwy’r sianeli sy’n bodoli yn debygol o greu elw i’r trethdalwr?
Neil McEvoy: Yn sgil y tebygolrwydd buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? EAQ(5)0063(CC)
Neil McEvoy: Gwn nad yw mewnfudo yn fater datganoledig, ond mae cymunedau, felly dyna pam eich bod yn cael y cwestiwn, ac rwy’n falch iawn fod y datganiad barn yn cael ei wneud gan y Cynulliad; mae hynny’n bwysig iawn. Ond rwy’n credu pe bai’r Llywodraeth yn gwneud datganiad yna byddai hynny’n gwneud yr achos hyd yn oed yn gryfach, a dyna pam ein bod yn cael ein hethol: i sefyll dros bobl Cymru....
Neil McEvoy: Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Nid ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad, ac ni ddylem eu gadael ar ôl pan fyddant yn dod adref. Roedd Deddf i beidio â gadael yr un milwr ar ôl yn rhywbeth roeddwn yn ymgyrchu drosti yn ystod yr etholiad. Mae llawer o filwyr yn gwasanaethu, maent yn mynd drwy drawma, mae rhai ohonynt yn cael eu hanafu, ac yn...
Neil McEvoy: Nid oeddwn i’n gallu siarad gair o Gymraeg tan roeddwn i’n 32 oed, a dechreuais i ddysgu Cymraeg pan oeddwn i’n athro achos, yn fy ysgol, nid oedd digon o athrawon Cymraeg ar gael i ddysgu plant ar gyfer arolwg Estyn. Es i i’r brifysgol yn Llanbed a gwnes i gwrs Wlpan dros ddau fis, a dysgais i Gymraeg o fewn wythnos ar ôl gorffen y cwrs. Fel athro ieithoedd, yn arbennig y Gymraeg,...
Neil McEvoy: Yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, mae’r mwyafrif yn croesawu dwyieithrwydd. A dywedaf wrthych, pan fyddwn yn cipio grym yn y cyngor hwnnw y flwyddyn nesaf, byddwn yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael dewis. Yr ugeinfed ganrif oedd pan oedd yr iaith yn cael ei defnyddio i rannu pobl; yr unfed ganrif ar hugain fydd y ganrif pan fydd yr iaith Gymraeg yn uno pobl, ac mewn byd fel sydd...
Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau?
Neil McEvoy: Mae dau ddatganiad y byddaf i’n gofyn amdanyn nhw. Yn gyntaf, es i i ddau gyfarfod cyhoeddus yn Butetown ddydd Gwener ac mae llawer o ddicter yn y gymuned oherwydd bod pobl, dafliad carreg o’r Cynulliad hwn, yn chwistrellu, mae cannoedd o nodwyddau sydd wedi’u defnyddio ar hyd y lle, mewn rhai achosion mae plant yn chwarae gyda nhw, ac mae cyffuriau dosbarth A yn cael eu cyflenwi yn...
Neil McEvoy: Mae Cymru o ddifrif yn wlad o chwedlau. Ond, yn rhy aml o lawer, maent yn cael eu hanwybyddu. Rwyf wedi sôn am Billy Boston yma cwpl o weithiau, chwedl Tiger Bay, ond does dim byd wedi cael ei wneud am y peth. Gobeithio y gall hynny newid. Cyn pob digwyddiad chwaraeon rhyngwladol, byddwn yn canu 'Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri', ac mae'n glir bod Cymru yn wlad o feirdd, cantorion...
Neil McEvoy: Mae clywed y Gweinidog yn dweud nad yw mewn anhrefn yn syndod mawr i mi mewn gwirionedd. Credaf fod hynny, yn y bôn, yn berffaith amlwg. Wrth i chi sefyll yma heddiw, nid yw dros hanner y landlordiaid wedi cofrestru. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a wnewch chi ymestyn y dyddiad cau er mwyn osgoi troseddoli pobl onest a gweithgar?
Neil McEvoy: Mae’n hawdd siarad, ac rwy’n ceisio meddwl sut rydych yn cyplysu’r gwrth-ddweud rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y Siambr hon a’r ffaith fod canolfan chwarae ar ôl canolfan chwarae wedi cael eu cau gan eich plaid yn fy rhanbarth. Yng Nghaerdydd, mae Canolfan Chwarae Grangetown wedi bod o dan fygythiad ers blynyddoedd; mae gennym Glwb Ieuenctid Canol Caerdydd a’r clybiau...
Neil McEvoy: Dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon fod cyffuriau dosbarth A yn cael eu gwerthu yn agored o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, a bod merch 13 oed, mewn cyfarfod cyhoeddus, wedi dweud ei bod yn ofni mynd allan oherwydd y gwerthwyr cyffuriau. Rydym ni mewn sefyllfa lle nad oes gan swyddogion rheng flaen yr heddlu yr adnoddau i wneud y gwaith yn iawn ac mae'r comisiynydd yn...
Neil McEvoy: Duw, mae'r Llywodraeth hon yn hoff o’i broliant, yn tydi? Gan gynnwys 'deddfwriaeth arloesol': wel, rwy’n meddwl mai'r unig beth yr wyf yn ei weld yn arloesol yn hyn yw'r anallu llwyr i roi hwn ar waith. Mae'n sôn am brawf addas a phriodol ac, yn bwysig, hyfforddiant. Wel, mae'n drueni nad yw hynny’n cael ei ymestyn i Weinidogion. Amcangyfrifwyd bod 130,000 o landlordiaid yng Nghymru....
Neil McEvoy: Rwy’n ceisio dod o hyd iddo. Oherwydd, os ydych yn edrych—o, mae ar y ddalen nesaf. Os ydych yn edrych ar yr hyn sydd ar-lein, mae'n gyfystyr â 60 tudalen o destun A4 yn cael eu dilyn gan arholiad amlddewis. Nid oes unrhyw fideos, nid oes ond ychydig o enghreifftiau, mae ychydig o astudiaethau achos, nid oes unrhyw ddiagramau, nid oes unrhyw gynnwys rhyngweithiol. Yn awr, mae hyn yn wir...
Neil McEvoy: Fel rhywun sydd wedi gweithio gyda dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig a’u cefnogi, rwy’n croesawu’r rhan fwyaf o'r datganiad. Rwy’n pryderu am ddiffyg rheoleiddio yn y sector, sy'n golygu bod rhai pobl yn syrthio drwy'r bylchau, ac mae rhai o'r bobl hynny wedi cyrraedd fy swyddfa. Ar adegau, mae wedi bod yn anodd iawn sicrhau bod gwasanaethau plant yn gwrando ar ddioddefwyr, ac...