Suzy Davies: Wel, diolch i chi am hynna, Brif Weinidog. Ddydd Sadwrn, ymunais â nifer o gydweithwyr o’r fan hon, a dweud y gwir, yn rali Stand as One yn Abertawe. Er bod Abertawe, ynghyd â Phort Talbot, wedi llwyddo i adsefydlu nifer fach iawn o ffoaduriaid, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn eglur ein...
Suzy Davies: Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. Gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad am ymagwedd 'yr hyn sy'n gweithio' a chyflenwi arloesol. Cyfeirir yn anuniongyrchol yn adran heriau a chyfleoedd a rennir eich pamffled heddiw at y ffaith nad oes gan y Llywodraeth fonopoli ar syniadau da nac ar gyflenwi. Ym mha feysydd portffolio yr ydych chi'n rhagweld mwy o gyd-gynhyrchu, mwy o...
Suzy Davies: Byddaf mor gyflym ag y gallaf ar hyn. Rydym yn clywed, er yn anecdotaidd, mai un o'r rhwystrau i recriwtio a hyfforddiant yng Nghymru yw’r camargraff braidd yn anffodus hwn bod yn rhaid ichi allu siarad Cymraeg i weithio yn y GIG yng Nghymru. Ond un o flaenoriaethau’r Llywodraeth—ac un yr wyf yn cytuno â hi—yw bod angen i unigolion allweddol o fewn gofal sylfaenol proffesiynol allu...
Suzy Davies: Ie, a gaf fi hefyd fy nghysylltu â’r sylwadau hynny? Ac mae Mike Hedges yn llygad ei le pan ddywed ein bod i gyd yn eithaf pryderus ynglŷn â hyn. Mae aelodaeth y bwrdd yn eithaf cytbwys rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ond nid oes lle arno i grwpiau aelodaeth busnesau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach neu sefydliadau allweddol eraill a allai fod o gymorth gwirioneddol i wneud...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â mater y Gymraeg fel ail iaith yn ôl i’r Siambr mor gyflym y tymor hwn? Mae gwelliant y Llywodraeth yn dangos bod yna gyfyngiadau, a gawn ni ddweud, ar eich perthynas glyd, wedi’r cyfan. Ond, gan ddod â fe nôl mor glou, mae’n dangos y gall rhai pethau gael eu gwneud yn...
Suzy Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi cam nesaf cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0158(FM)
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nid yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i lynu at ei chynllun busnes presennol wedi cael y derbyniad efallai y byddech wedi ei hoffi yn eich etholaeth eich hun, Brif Weinidog. Mae masnachwyr eisoes yn uchel eu cloch wrth feirniadu’r ardrethi busnes uchaf yn fy rhanbarth i, a chymhellion ardrethi gwrthnysig i gadw siopau’n wag. Yn nhref...
Suzy Davies: Brif Weinidog, mae adroddiad perfformiad integredig y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf 2014 yn datgan, a dyfynnaf, bod Y Bwrdd Iechyd yn parhau i brofi heriau sylweddol o ran cyflawni'r targed atgyfeirio Amheuaeth o Ganser Brys yn arbennig.' Ar y pryd, roeddent yn cyrraedd 86 y cant o'r targed yn hytrach na'r 95 y cant yr oedd y Llywodraeth yn ei ddisgwyl. Er gwaethaf y pwynt a wnaethpwyd gan...
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon? Rwy’n gobeithio y bydd gweinyddiaethau gwledydd eraill y DU yn rhoi croeso yr un mor gynnes i'r siarter derfynol ag y gwnaeth Llywodraeth Cymru. Mae darllen datganiadau yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog wedi bod mor galongynhesol ag agor cerdyn Sain Folant Hallmark. Rydym hyd yn oed wedi clywed y Gweinidog yn cymeradwyo'r...
Suzy Davies: Mae adroddiad yr Athro Davies yn argymell y dylai cymwysterau ôl-16 gael eu diwygio i ddatblygu sgiliau iaith lafar well sy’n addas ar gyfer y gweithle. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru eich bod ‘yn gweithio gyda Sefydliadau Dyfarnu a rhanddeiliaid eraill’. Pwy yw’r rhanddeiliaid eraill hynny? A ydych chi, er enghraifft, wedi bod yn siarad â Tata Steel, Tidal Lagoon...
Suzy Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog nodi beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori hyfforddiant iaith Gymraeg â chymwysterau galwedigaethol? OAQ(5)0024(EDU)
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb hynny. Rwy’n falch o glywed hynny, ond rwyf wedi cysylltu’n ddiweddar â chwmni Ynni Cymru, sydd wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru, a byddai’r cymorth yn cynnwys cyngor ar gymwysterau galwedigaethol defnyddiol. Nid oes gan y cwmni bolisi iaith Gymraeg, na dealltwriaeth o uchelgeisiau eich...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a diolch am hynny hefyd, Bethan. I hope, actually, that the Assembly is rather inspired by the way that this committee is attempting to engage more widely, and by that I mean engagement being a two-way process. It’s one of those jargon words we kind of take for granted, actually, but this isn’t just about this committee trying to seek information or ideas from outside this...
Suzy Davies: Symudaf yn awr i’r ddadl fer, a galwaf ar Eluned Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Suzy Davies: Diolch. A hoffech chi gynnig munud o’ch amser i siaradwyr eraill heddiw?
Suzy Davies: Ocê. Galwaf ar Mike Hedges.
Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Suzy Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0180(FM)
Suzy Davies: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni’n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw’r mater o lywodraethu yn y tymor byr i’r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn...