Altaf Hussain: Prif Weinidog, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae'n mynd yn her i sicrhau bod cymunedau yn ymgysylltu â'r hyn y mae Dydd y Cofio yn ei olygu, ac, yn wir, y dyddiau sy'n arwain ato. Fel Cymro mabwysiedig, rwy'n falch o gyfraniad ein cenedl at amddiffyn ein rhyddid, am yr aberth a wnaed bryd hynny a nawr. Mae gan y Lleng Brydeinig Frenhinol amrywiaeth o adnoddau addysgol am ddim i ysgolion...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae ffigurau diweddar yn dangos bod ein gwasanaethau brys yn wynebu argyfwng, gydag amser ymateb ambiwlansys yn cyrraedd lefelau sy'n peryglu bywyd yng Nghymru. Mae hyn yn wir nid yn unig am alwadau coch. Ym mis Medi, dim ond 52 y cant o alwadau coch a gyrhaeddodd eu claf o fewn wyth munud, ond, ar gyfer galwadau ambr, bu'n rhaid i 5,228 o gleifion aros dros dair awr ac, o'r rhain,...
Altaf Hussain: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad manwl am COVID a newid yn yr hinsawdd, cynorthwyo gwledydd sydd ei angen fwyaf, cadw'n driw i'n hegwyddorion a sefyll gyda’n ffrindiau. A all y Gweinidog gadarnhau faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario dros y 15 mlynedd diwethaf yn cefnogi'r rhaglen hon, nid yn unig drwy ddyraniadau grant, ond hefyd o ran y gost o gyflogi swyddogion mewn Llywodraeth?...
Altaf Hussain: Mae cofio yn perthyn i ni i gyd. Mae hynny oherwydd ein bod ni i gyd yn elwa ar yr hyn a sicrhaodd cenedlaethau'r gorffennol ar ein rhan ni: rhyddid. Ni fyddai'r rhyddid yr ydym ni'n ei fwynhau nawr wedi bod yn bosibl heb aberth y rhai a wnaeth ollwng gafael ar eu rhyddid. Ar adeg pan fo ein cymdeithas yn parhau i fod yn fwy tameidiog a phryderus nag y gallai unrhyw un ohonom ni fod wedi ei...
Altaf Hussain: Gweinidog, ddydd Mercher, mae gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn cael ei gyflwyno am dri mis yn Abertawe, a bydd yn berthnasol i ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwi. Mae'n golygu y bydd modd atafaelu alcohol a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar y stryd cyn i'r sefyllfa fynd yn broblem, ac mae modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer ymddygiad...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ddydd Mercher, bydd Gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus canol y ddinas yn cael ei gyflwyno am dri mis yn Abertawe ac fe fydd yn berthnasol i ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwdod. Mae hynny'n golygu y gellir atafaelu alcohol a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar y strydoedd cyn i'r sefyllfa fynd yn broblem, ac y gellir cyflwyno...
Altaf Hussain: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae heneiddio yn fendith. Yn 2018, gwnaeth y fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio gynnull pum gweithgor i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol yr oedd yr Aelodau'n teimlo bod yn rhaid i ni eu cael yn iawn wrth gynllunio ar gyfer heneiddio, gan gynnwys sut i wneud hawliau'n wirioneddol i bobl hŷn. Gweinidog, siawns nad yw'n bryd nawr i ymgorffori hawliau pobl hŷn...
Altaf Hussain: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Er ein bod yn croesawu'r dydd Gwener hwn fel Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, mae'n bwysig nid yn unig dathlu cyfraniad pobl anabl, ond i ofyn y cwestiwn: yn ystod y 12 mis diwethaf, ers inni gael yr un drafodaeth, beth sydd wedi newid er gwell? A all y Gweinidog ddweud wrth y Senedd sut mae bywydau pobl anabl wedi gwella a sut bydd...
Altaf Hussain: Weinidog, mae'r cwestiwn am fwy o bobl mewn sectorau â chyflogau uwch yn hanfodol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad yw pobl wedi cael cyfle i gael eu cyflogi yn y sectorau cyflog uwch hynny oherwydd nad ydym wedi gweld y twf gofynnol. Beth yw eich uchelgais, a pha gyfran o swyddi yng Nghymru a fydd yn cael cyflogau uwch erbyn diwedd y tymor seneddol? Diolch.
Altaf Hussain: Gweinidog busnes, mae llawer o'r gwasanaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yn cael eu gwella'n fawr gan amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector yn ein cymunedau. Roedd hyn yn amlwg yn ystod y pandemig, ac, i ryw raddau, rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio'r cyrhaeddiad sydd gan y sefydliadau hyn. Yn fy rhanbarth i, mae Brigâd Ambiwlans Sant Ioan, sy'n gweithio 12 awr y dydd, saith diwrnod...
Altaf Hussain: Weinidog, gan y byddwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn argymell eich bod hefyd yn gweld ysgol yn fy ward, Pen-y-fai. Weinidog, mae gosod targedau ar gyfer ein hadeiladau ysgol a cholegau newydd yn gymharol syml, ac nid yw sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein targed carbon sero net yn rhywbeth a ddylai achosi llawer o broblemau. Yr her fwy yw bod llawer o'n hadeiladau ysgol wedi'u codi ar...
Altaf Hussain: Erbyn hyn, mae gennym ni gytundeb cydweithredu sy'n nodi diwygiadau sy'n swnio'n uchelgeisiol. Mae symud at wasanaeth gofal cenedlaethol yn syniad diddorol, a hoffwn i chi drefnu amser i'r Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol amlinellu'r hyn y mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn ei olygu, y canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl i bobl, a rhan llywodraeth leol, sydd wedi brwydro'n galed ers...
Altaf Hussain: Weinidog, cafodd rhai sefydliadau trydydd sector gymorth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig i ymateb i'r cyfraddau cynyddol o gam-drin domestig yn ystod y cyfyngiadau symud ac i gynorthwyo llinellau cymorth amrywiol i ymateb i achosion mwy heriol. Nid yw'r pandemig ar ben, ond mae llawer o sefydliadau'n ofni bod y cyllid wedi dod i ben. A all y Gweinidog gynnig ymrwymiad personol i bawb...
Altaf Hussain: 6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella lles anifeiliaid mewn lladd-dai? OQ57357
Altaf Hussain: Weinidog, rwyf wedi clywed llawer o alwadau gan bobl yn ein cymunedau gwledig sy'n credu ei bod bellach yn bryd gwneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn ein lladd-dai, fel y mae yn Lloegr. Er fy mod yn deall y rhesymau dros gyflwyno cynllun gwirfoddol, a all y Gweinidog gadarnhau faint o ladd-dai yng Nghymru sydd â theledu cylch cyfyng erbyn hyn, a faint sydd heb un? Ac wrth wneud hynny, pa...
Altaf Hussain: Yn gyntaf, gadewch imi sôn am Elin a'r hyn a ddywedodd. Iaith yw calon y genedl. Nawr, gadewch imi sôn am yr Athro Robert Owen. Mab i ffermwr oedd Bob Owen, a anwyd yn Chwilog ym mhenrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru ym 1921, a byddai wedi bod yn 100 oed eleni. Fe'i magwyd ar fferm y teulu. Ar ôl bod yn yr ysgol gynradd a'r ysgol ramadeg leol, astudiodd feddygaeth yn Ysbyty Guy yn Llundain,...
Altaf Hussain: Gweinidog, fel cyfaill Senedd i Srebrenica, hoffwn i alw am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod y datblygiadau sy'n peri pryder yn Bosnia a Herzegovina. Mae llawer o'n cyd-Aelodau yma, gan gynnwys Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gefnogwyr ers tro i Remembering Srebrenica UK, gan sicrhau llais cryf o Gymru ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn San Steffan. Mae dadleuon wedi bod yn...
Altaf Hussain: Weinidog, bydd llawer o'n teuluoedd mwyaf gweithgar yn wynebu heriau ariannol mawr dros y blynyddoedd nesaf, ac nid oherwydd cost tanwydd yn unig. Wrth i'ch Llywodraeth barhau i fwrw ymlaen â'i tharged carbon niwtral, y rhai lleiaf abl i fforddio newid yn eu system wresogi ac agweddau eraill ar eu ffordd o fyw a fydd yn ysgwyddo'r baich o gyrraedd y targedau hinsawdd hyn. Pa asesiad a...
Altaf Hussain: Weinidog, mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ail-lunio'r ffordd y mae cyfiawnder yn gweithredu a sut y mae pobl yn cael mynediad ato. Mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn buddsoddi tua £1 biliwn i ddiwygio ei systemau gyda'r nod o gyflwyno technolegau newydd a ffyrdd modern o weithio yn y llysoedd, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu cronfa arloesi gwerth £5 miliwn i...
Altaf Hussain: Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl heddiw ar ein hadroddiad, 'Dyled a'r pandemig'. Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl mewn gwahanol ffyrdd. I lawer o bobl, fe wnaeth daro'n ariannol—roeddent yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi, llai o incwm, biliau uwch. Mae wedi dwysáu'r problemau ariannol y mae teuluoedd wedi bod yn...