Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos cynnydd pellach i gyfran y dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni pum pwnc TGAU da, gan gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf. Dyma’r perfformiad gorau eto gan ein dysgwyr difreintiedig ac, am yr ail flwyddyn, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc sy’n...
Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ(5)0047(FLG)
Rhianon Passmore: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers 2007, mae prosiectau cronfeydd strwythurol yr UE ar eu pennau eu hunain, yng Nghymru, wedi helpu bron i 73,000 o bobl i gael gwaith, wedi helpu dros 234,000 o bobl i ennill cymwysterau, wedi cefnogi’r broses o greu bron i 12,000 o fusnesau ac wedi creu oddeutu 37,000 o swyddi. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau gwariant ar gyfer pob un o’r...
Rhianon Passmore: Hoffwn, yn gyntaf, unwaith eto, longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y newyddion pwysig a hanesyddol hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £350 miliwn mewn adeiladu canolfan gofal critigol arbenigol Gwent. Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu yn fawr gan fy etholwyr yn Islwyn ac mae'n newyddion gwych i bobl Gwent a thu hwnt. Mae'r prosiect 460 gwely, a...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein hysgolion yn amgylcheddau cynhwysol?
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein hysgolion yn amgylcheddau cynhwysol?
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Diolch. Wrth i ni nesáu at Ddydd y Cofio a Sul y Cofio, mae’n iawn ein bod yn cydnabod yma yng nghartref democratiaeth yng Nghymru y gwasanaeth eithafol y mae dynion a menywod ein lluoedd arfog wedi ei roi, fel ein bod ni’n parhau i fwynhau’r rhyddid rydym yn ei drysori cymaint. Fel llawer, byddaf yn cynrychioli fy mhobl yn Islwyn mewn digwyddiadau coffa yn Rhisga,...
Rhianon Passmore: Mae’n ddrwg gennyf, rwyf eisiau gorffen. Ac mae’n cynnwys llyfryn ‘Croeso i Gymru’ newydd ar gyfer y rhai a leolwyd yma. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol i gefnogi ein lluoedd arfog a’n cyn-filwyr ym mhob ffordd bosibl. Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, £0.5 miliwn i’r gwasanaeth...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella'r gwasanaethau rheilffordd i deithwyr?
Rhianon Passmore: Yn Islwyn, rydym ni’n dathlu’r berthynas arbennig hanesyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru gyda balchder mawr, yn General Dynamics, â'u canolfan yn Oakdale. Ac, yn yr uwchgynhadledd bwysig ddiweddar, ailfynegwyd y cysylltiadau agos hynny rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn lofnodi cytundeb gwerth £3.5 biliwn, i archebu 589 o gerbydau arbenigol SCOUT....
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Tachwedd. Os caiff ei basio, bydd y Bil, ymhlith pethau eraill, yn creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, yn creu cynllun trwyddedu ar gyfer gweithdrefnau arbennig fel aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal...
Rhianon Passmore: Ydw yn wir.
Rhianon Passmore: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy ac ansawdd y tai hynny? OAQ(5)0071(CC)
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £1.3 biliwn i’w ddyrannu dros dymor y Llywodraeth hon i gefnogi’r ddarpariaeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ac i gwblhau’r dasg o fodloni safon ansawdd tai Cymru yn dangos pa mor angerddol yw’r Llywodraeth ynglŷn â’r mater hwn. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd fy etholwyr a’u teuluoedd yn Islwyn yn elwa o’r...
Rhianon Passmore: Diolch i chi am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon. Na foed i neb yn y Siambr hon neu sy’n gwylio ar y tu allan amau ymrwymiad y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ymatebol o ansawdd da i bobl hŷn yng Nghymru ac i alluogi pobl hŷn ledled Cymru i fyw bywydau mwy annibynnol. Yn dilyn ymrwymiad maniffesto pwysig Llafur Cymru i alluogi pobl i gadw mwy...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu effaith andwyol y cap ar fudd-daliadau Llywodraeth y DU?
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, mae Cymru yn wlad fach ond angerddol sy'n gwneud yn well nag y gellid disgwyl. Nodaf mai £12.1 biliwn oedd gwerth allforion Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys Mehefin 2016, ac roedd allforion i'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrif am bron i 40 y cant o’r allforion o Gymru. Mae’r Prif Weinidog yn eiriolwr brwd a llwyddiannus o werthu Cymru i'r byd. Felly, pa gynlluniau...
Rhianon Passmore: 6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella nifer y bobl sy’n goroesi canser? OAQ(5)0278(FM)
Rhianon Passmore: Diolch, Brif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, a minnau y fraint fawr o fynd ar daith o gwmpas labordai Ymchwil Canser Cymru. Roeddem ni’n gallu gweld y gwaith arloesol mawr ei fri yn rhyngwladol sy’n digwydd yma yng Nghymru bellach i gynyddu dealltwriaeth wyddonol o sut y mae canser yn ymosod ar y system imiwnedd. Felly, a gaf i groesawu'n...
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith gyfarfod gydag Ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU, Chris Grayling, a dywedodd wrtho’n blwmp ac yn blaen y dylai'r tollau gael eu diddymu ac, os nad oedd Llywodraeth y DU yn barod i wneud hynny, ni ddylai wneud elw, ond yn hytrach codi cost wirioneddol y gwaith cynnal a chadw....