Michelle Brown: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymuned y Teithwyr, os gwelwch yn dda?
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i deuluoedd perchen-feddianwyr sydd mewn perygl o gael eu troi allan o’u cartref gan eu cwmni morgais oherwydd ôl-ddyledion morgais?
Michelle Brown: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fis Tachwedd diwethaf, amcangyfrifodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan fod 240 o bobl ledled Cymru yn cysgu allan yn ystod un wythnos ym mis Tachwedd 2015. Er mai amcangyfrif ydyw, bydd llawer o bobl yn cysgu ar y stryd y Nadolig hwn, a hynny’n aml heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r...
Michelle Brown: Diolch. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor bryderus â minnau ynghylch lles cyn-filwyr ein lluoedd arfog. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i roi blaenoriaeth i sicrhau tai i gyn-filwyr digartref? Os nad yw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud hynny?
Michelle Brown: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned teithwyr? OAQ(5)0088(CC)
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i feithrin cyswllt a chyfathrebu rhwng Teithwyr a’r cymunedau sefydlog lleol y maent yn symud iddynt?
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi na fuasai’n rhaid i ysgolion Cymru wario cymaint o arian ar gyflogi staff cyflenwi pe bai gan ysgolion yng Nghymru fwy o athrawon yn aelodau amser llawn o’u staff?
Michelle Brown: Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn wyneb y sylwadau gan gyfarwyddwr undeb athrawon ATL Cymru fod cyfran sylweddol o’r arian a werir ar staff cyflenwi yn mynd i lenwi pocedi’r asiantaethau, ac y dylai pob plaid weithio gyda’i gilydd i ddatblygu system sy’n darparu gwell gwerth am arian, sy’n gwobrwyo athrawon cyflenwi’n well, ac sydd, yn anad dim, yn darparu gwell addysg ar...
Michelle Brown: Ar ddiwedd 2015, dywedodd y Llywodraeth Lafur, Mae’n bwysig cofio nad yw cyflogi athrawon cyflenwi ymhlith y pwerau sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, sy’n golygu na allwn osod cyfraddau tâl neu orfodi awdurdodau lleol i weithredu cronfeydd o athrawon cyflenwi. Pe bai’n cael y pwerau hyn fel rhan o ddatganoli pellach, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod set...
Michelle Brown: Er y gall addysg uwch fod yn brofiad sy’n datblygu cymeriad, mae’r rhuthr i droi pob pwnc a galwedigaeth yn gwrs gradd wedi bod yn brofiad sy’n dinistrio cymeriad i lawer o bobl ifanc. Mae’r farchnad swyddi wedi gorlifo â graddedigion nes bod eu cyflogau’n is nag erioed o’r blaen, mae eu dyledion yn uwch, ac mae’r trethdalwr yn talu bil llawer mwy am weinyddu system...
Michelle Brown: Rwy’n derbyn hynny ac rwyf hefyd yn dadlau, pe bai ein sefydliadau addysg uwch yn ehangu eu rhwyd, gallent wneud llawer mwy o arian yn y tymor hir mewn gwirionedd, a bod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir, yn hytrach na chanolbwyntio ar fyfyrwyr o’r UE y mae’n rhaid cynnig yr un telerau iddynt â myfyrwyr o’r wlad hon. Bydd y rhai sy’n gweithio ym mhrifysgolion y DU ar hyn o bryd yn...
Michelle Brown: Byddai aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn caniatáu i’r UE barhau i lunio ein deddfau masnachu, ac yn gwneud rhyddid pobl i symud, sy’n rhywbeth y pleidleisiodd y rhan fwyaf o’ch etholwyr yn ei erbyn, yn ofynnol. Os daw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y lle hwn, a fyddwch yn pleidleisio gyda’ch etholwyr neu gyda Jeremy Corbyn?
Michelle Brown: Pan ddywedodd arwr Llafur Newydd, Tony Blair, ei fod yn difaru cyflwyno Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, nid am nad oedd yn mynd yn ddigon pell y dywedai hynny; yr hyn a olygai oedd ei bod wedi rhoi mynediad i bobl at wybodaeth y byddai’n well ganddo pe na baent wedi’i chael. Efallai fod Tony Blair wedi gadael ei swydd, ond mae Llafur Cymru yn parhau ar ei ôl i obeithio cadw gwybodaeth...
Michelle Brown: Mae gan Blaid Cymru bwynt: byddai ceblau wedi’u claddu yn well i’r tirlun na pheilonau, ond mae’n ymddangos bod Plaid Cymru yn fodlon gweld prisiau ynni i bobl leol yn mynd drwy’r to, gan anghofio nad yw pawb yn ennill cymaint â’r Aelodau Cynulliad sy’n cael gwneud y penderfyniadau. Yn y byd go iawn, mae llawer o bobl yn cael amser anodd yn cael dau ben llinyn ynghyd a dylem...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi’n llygad eich lle bod maint y dosbarth yn ffactor perthnasol ar gyfer cyrhaeddiad addysgol plant, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gywir wrth iddi gyfaddef nad maint y dosbarth yw'r unig ffactor y mae angen ymdrin ag ef. Tybed pam mae’r fenter hon ond yn ceisio ymdrin â'r mater ynglŷn â maint dosbarthiadau er...
Michelle Brown: 7. Pa gynnydd sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cysylltiad ag amseroedd aros yn ymwneud â chanser? OAQ(5)0105(HWS)
Michelle Brown: Fel y nodwyd mor aml yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, mae yna restr hir o gleifion o hyd sydd wedi cael cam gan Betsi Cadwaladr yn ystod triniaeth ganser ac afiechydon eraill. Ni fuasai unrhyw clinigydd yn esgeuluso claf yn fwriadol neu’n gwneud cam â chleifion yn eu gofal. Mae’r ffaith fod y camgymeriadau hyn wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd yn deillio o gamreoli gan y bwrdd...
Michelle Brown: Brif Weinidog, sut gallwch chi gyfiawnhau cynnig gofal plant ychwanegol a phresgripsiynau am ddim, heb ystyried incwm a hynny am gost enfawr, tra bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth orthopedig yn y gogledd wedi cynyddu yn aruthrol? Ble mae eich blaenoriaethau?
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Athro Hazelkorn am ei holl waith. Rwyf wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'n adroddiad diddorol iawn, iawn. Mae'r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn wedi eu codi mewn amrywiaeth o adroddiadau eraill ers 2001. Mae’r problemau hynny wedi eu gadael heb eu datrys er yr adeg honno. Mae...
Michelle Brown: Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) yn 2014, i reoleiddio’r diwydiant cŵn bach yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi ei hasesiad o effeithiolrwydd neu aneffeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, a faint o arian, yn arbennig, sydd wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn hwyluso’r gwaith o orfodi’r ddeddfwriaeth honno?