Bethan Sayed: Diolch am yr ateb hynny. Efallai y byddai o ddiddordeb i’r Prif Weinidog wybod, pan oeddwn i allan yn rhedeg yng Nghastell-nedd yn weddol ddiweddar, gwnes i bron â chael fy ngwthio i mewn i’r gamlas gan feic a oedd yn mynd yn rhy glou ar hyd yr un trac ag yr oeddwn i’n rhedeg arno, ac felly, y cwestiwn yw: gan fod yna rannu rhwng beicio a phobl sy’n cerdded, rwyf wedi cael pobl yn...
Bethan Sayed: Diolch. Mae'r siarter frenhinol ddrafft a chytundeb fframwaith drafft y BBC yn cyrraedd ar adeg pan fydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Llywodraeth bellach swyddogaeth ymgynghori ffurfiol o ran y BBC a'i dyfodol. Felly, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn defnyddio'r swyddogaeth hon, a grëwyd yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth diweddar, er mwyn sicrhau bod llais Cymru a...
Bethan Sayed: Ni fydd gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf—fel arall, ni fyddaf yn llwyddo i ddod i ben. Mae Plaid Cymru wedi cynnig pum gwelliant i gynnig Llywodraeth Cymru. Mae gwelliannau 1 a 2 yn ymwneud ag S4C. Rydym yn falch y cyfeirir yn gadarnhaol at y sianel yn y cytundeb fframwaith, yn enwedig nod cyffredin S4C a'r BBC o gydweithio i ddiogelu annibyniaeth ei gilydd. Byddem hefyd yn hoffi i...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, trefnwyd ymgyrch gan Lindsay Whittle, fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad blaenorol, y gwn eich bod yn ei adnabod yn dda, i godi ymwybyddiaeth o broblemau bwlio yn y cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ne-ddwyrain Cymru, a sylwodd fod lefel uchel o fwlio mewn ysgolion mewn perthynas â’r agenda honno. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi nodi’r ymchwil...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr, Lywydd. Dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad hwn sefydlu pwyllgor a fydd yn gyfrifol am gyfathrebu, darlledu a’r cyfryngau—pwyllgor sydd wedi ymrwymo i ddwyn darlledwyr a chyfryngau eraill i gyfrif. Mae hwn yn faes hollbwysig i Gymru. Mae angen cyfryngau arnom sy’n adlewyrchu’r wlad hon, ac sy’n egluro i’w dinasyddion sut yr ydym ni yn newid fel cenedl. A dylai’r...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr, Suzy. Diolch i chi am y cadarnhad ein bod yn ceisio gwneud pethau’n wahanol, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno ynglŷn â hynny. O’m rhan i, credaf mai’r rheswm pam roeddwn i’n bersonol—ac rwy’n siŵr y bydd barn gan Aelodau eraill—yn awyddus i ganiatáu i’r cyhoedd benderfynu’n uniongyrchol ynghylch yr hyn a wnawn—ac nid wyf yn bwriadu tramgwyddo unrhyw un...
Bethan Sayed: Diolch, Dai. Wnes i ddim talu Dai i ddweud y pethau hynny. [Torri ar draws.] Byddai’n sgandal pe byddai hynny wedi digwydd. Rwy’n credu ei fod yn bwysig inni geisio cyfathrebu â phobl Cymru mewn ffordd arloesol. Fel y dywedais i wrth Suzy Davies, mae’n rhaid inni edrych ar fodelau o wledydd eraill dros y byd hefyd i weld sut y maen nhw’n cyfathrebu gyda phobl. Nid oes un ateb gan...
Bethan Sayed: Diolch am eich sylwadau, David. Yn amlwg, rwy’n rhannu eich tristwch fod y ‘Port Talbot MagNet’ yn dod i ben. Bob tro y byddwn yn siarad mewn gwahanol ddigwyddiadau cyfryngol, roeddwn bob amser yn tynnu sylw atynt fel goleuni disglair yn nhywyllwch y sefyllfa lle rydym wedi gweld ‘The Merthyr Express’, ‘The Neath Guardian’ ac eraill yn cau eu swyddfeydd, gan ei gwneud yn...
Bethan Sayed: Diolch. Yn aml yn y dadleuon hyn rydym yn craffu ar faes lle credwn y gallai Llywodraeth Cymru wneud yn well ac yn tynnu sylw at yr hyn rydym yn ystyried yw ei diffygion, cyn cynnig dewisiadau amgen cadarnhaol. Ar gyfer y ddadl hon, rydym am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Rydym yn cymryd cynllun Llywodraeth Cymru sydd wedi llwyddo i arbed arian ac wedi helpu pobl, gydag un eithriad...
Bethan Sayed: [Yn parhau.]—na chael gwared ar gymorth a gyrru pobl allan i’r strydoedd. Iawn.
Bethan Sayed: Wel, rwy’n meddwl mai’r neges gryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi yw na fyddent yn ymrwymo i wneud unrhyw doriadau i’r cynllun hwn, gan na fyddai’r awdurdodau lleol wedyn yn teimlo bod yna unrhyw amwysedd yn y broses o wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i’r hyn y maent yn ei wneud ar y lawr gwlad, oherwydd, os nad ydynt yn cael arwydd clir gan Lywodraeth Cymru fod...
Bethan Sayed: Diolch. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y mater penodol hwn. Fe welwch mewn gwleidyddiaeth weithiau na allwch ennill beth bynnag a wnewch. Rydych yn cefnogi rhaglen gan y Llywodraeth ac rydych yn cael eich cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth â hi. Rydym yma i wneud yn siŵr, fel y brif...
Bethan Sayed: Gwnaf, ond rwyf wedi gorffen. Diolch yn fawr iawn.
Bethan Sayed: Brif Weinidog, mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan mewn cynllun arbrofol tri heddlu, a fydd yn paratoi swyddogion rheng flaen i gadw llygad am ymddygiad cymhellol neu reoli wrth fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Mae hwn yn newid i ganfod patrymau o ymddygiad camdriniol, yn dilyn ymlaen o ddeddfau newydd a gyflwynwyd i fynd i'r afael â throseddwyr sy'n ymddwyn mewn ffordd gymhellol neu...
Bethan Sayed: Rwyf i eisiau gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflogi Kris Wade, a ddedfrydwyd i garchar am oes am lofruddiaeth yr wythnos diwethaf—bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—ac yn arbennig, pa un a oes modd i Lywodraeth Cymru ystyried, yn wyneb datgeliadau dilynol am gyfnod Mr Wade yn y BILl, gynyddu ei statws cyfredol o ymyraethau wedi'u targedu i...
Bethan Sayed: Diolch i chi, ac rwy’n cynnig y gwelliannau. Mae perchentyaeth yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn dyheu amdano ac mae’n rhywbeth sy’n gynyddol y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, drwy gyfuniad o gyflogau isel, cyflogaeth ansicr a gwrthodiad Llywodraethau olynol i gydnabod bod chwyddiant prisiau tai lawn mor ddrwg â chwyddiant confensiynol. Ond ni ddylid creu perchentyaeth ehangach ar...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau dilynol?
Bethan Sayed: Nodaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni i ddweud, fel plaid, fod y rhaglen flaenllaw yr ydych chi’n cyhoeddi eich bod am gynnal adolygiad ohoni a chael gwared ohoni heddiw wedi bod yn destun cryn graffu dros y blynyddoedd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir, rydym yn ôl pob tebyg wedi cael adolygiad ar ôl yr adolygiad, gan y Pwyllgor Cyfrifon...
Bethan Sayed: Diolch i chi am y ddadl hon heddiw. Mae Plaid Cymru yn amlwg yn llwyr wrthwynebu troseddau casineb, a’r hyn yr hoffwn i ei ddweud ar y dechrau yw fy mod yn credu bod targed troseddau casineb yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth ac o gymuned i gymuned. Rwy'n dweud hyn am fod fy mam yn dod o Belfast, o ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’n bendant, pan oeddem yn cerdded i lawr y stryd—yn...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu ymagwedd sy’n fwy seiliedig ar ddeddfwriaeth o ran lles anifeiliaid yn y Cynulliad hwn. Cofiaf yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ein bod wedi cael deiseb yn galw am gofrestr cam-drin anifeiliaid, a fyddai’n cynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, pe bai gofyn wrth gwrs....