Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru? OAQ(5)0092(EI)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gefnogaeth drawsbleidiol fawr i Gylchffordd Cymru, gydag awdurdodau lleol yng Ngwent, a llawer o Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur, yn cefnogi’r hyn y gall y prosiect hwn ei gyflawni. A ydych yn cydnabod y brwdfrydedd a’r cyffro ynghylch cyflawni’r prosiect seilwaith trawsnewidiol hwn, i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig?
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd a chyn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. [Chwerthin.] Ac am waith da a wnaeth hi yno, hefyd. Diolch am eich datganiad, Weinidog. Roeddwn i mor falch o weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno ddoe, ac rwy’n meddwl bod y sgyrsiau yma heddiw’n dangos lefel bron yn ddigynsail, a dweud y gwir, o gefnogaeth drawsbleidiol i greu darn o ddeddfwriaeth sydd wir yn...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yn Nhorfaen? OAQ(5)0091(CC)
Lynne Neagle: Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn chwarae rhan hanfodol yn Nhorfaen yn y gwaith o drechu tlodi. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus iawn a daeth i frig y rhestr yng Nghymru am helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac o ran nifer yr oedolion a gwblhaodd gyrsiau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Mae hyn yn ychwanegol at y rôl hanfodol y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae i liniaru...
Lynne Neagle: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Mae yna adroddiad, nid yw wedi cael ei gyhoeddi eto, dyna’i gyd. A wnewch chi gydnabod, beth bynnag yw’r heriau rydym yn eu hwynebu, fod eich ateb chi, sef ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru, ond yn mynd i wneud pethau’n waeth?
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn Nhorfaen? OAQ(5)0355(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy mhryder bod penderfyniad wedi’i wneud i roi terfyn ar Her Ysgolion Cymru yn y gyllideb ddrafft, ac y gwnaed y penderfyniad hwn cyn i Lywodraeth Cymru dderbyn y gwerthusiad o'r cynllun. Ac mae'n amlwg bod llawer o ardaloedd wedi gweld manteision sylweddol iawn drwy'r rhaglen, ond mae hefyd yn amlwg bod rhagor o waith i'w...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod, hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw ac, fel eraill, rwy’n croesawu'n fawr yr ymrwymiad yr ydych chi wedi’i wneud i sicrhau bod nid yn unig y teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt, ond y bobl sy'n byw gyda’r cyflwr hefyd yn cael dweud eu dweud yn llawn drwy'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n credu...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad hwn heddiw a'r cyllid ychwanegol sy'n dod gydag ef. Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd yr arian a fydd yn mynd i fyrddau iechyd yn cael ei neilltuo a’i fonitro. O gofio hynny, hoffwn ofyn: o fy mhrofiad i ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, maen nhw, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn, iawn yn sicrhau bod...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(5)0073(EDU)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r heriau unigryw sy’n wynebu pobl ifanc yng ngogledd Torfaen, nad ydynt wedi cael darpariaeth addysg ôl-16 yn lleol ers 2008, gyda rhai pobl ifanc yn gorfod ceisio cael addysg chweched dosbarth mewn ysgolion eraill, a llawer yn gorfod teithio’n hir ar fws i goleg Crosskeys, sy’n galw am ddwy daith fws yno a dwy daith fws yn ôl bob...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn hwn yn gynnes ac rwyf hefyd yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Phlaid Cymru i’w ddatblygu. Rwy’n meddwl bod bygythiad Brexit mor enfawr fel y bydd yn hanfodol i bob un ohonom sydd eisiau rhoi buddiannau Cymru a'n cymunedau yn gyntaf i weithio gyda'n gilydd. Mae gen i ddau gwestiwn penodol....
Lynne Neagle: Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod ystyried hawliau plant yn ganolog i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â gadael yr UE?
Lynne Neagle: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad pobl ifanc at drafnidiaeth? OAQ(5)0113(EI)
Lynne Neagle: Diolch. Mae hynny’n galonogol, gan fy mod yn siomedig iawn nad oedd y cynllun mytravelpass yn mynd i gael ei barhau, yn enwedig gan mai un o’r rhesymau a roddwyd i’r cyfryngau oedd mai ar gyfer teithio’n lleol yn unig yr oedd pobl ifanc yn ei ddefnyddio, er na ddylai hynny fod yn fawr o syndod, yn fy marn i, yn achos rhai 16 a 17 oed. Fy mhryder yw y bydd pobl ifanc yn cael eu hatal...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel Cadeirydd y pwyllgor, rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed wrth graffu ar feysydd allweddol o bolisi a deddfwriaeth dros gyfnod mor fyr.
Lynne Neagle: Dros yr haf, aethom ati i ymgynghori ar yr hyn y dylai blaenoriaethau ein pwyllgor fod. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau amrywiol a manwl gan bron i 90 o sefydliadau ac unigolion o bob rhan o Gymru. Arweiniodd hyn y pwyllgor i agor dau ymchwiliad a nodwyd gan y rhanddeiliaid: gwasanaethau eiriolaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc a chanlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a...
Lynne Neagle: Nid wyf yn gwybod beth i’w ddweud, ar wahân i ‘diolch’. [Chwerthin.] Diolch i chi, Darren, am eich geiriau caredig. A gaf fi ddweud fy mod yn awyddus tu hwnt i’r pwyllgor weithio gyda’i gilydd fel tîm? Cawsom ddiwrnod cynllunio strategol rhagorol, ac roedd yn amlwg iawn ein bod i gyd yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, ac rwy’n gobeithio y byddwn...
Lynne Neagle: Iawn, diolch.