Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, gyda'r holl wleidyddiaeth sy'n digwydd yn y wlad ar hyn o bryd, wrth i arweinyddiaethau newid mewn deddfwrfeydd eraill, a sgil-effeithiau’r refferendwm Brexit, mae rhai o'r materion bara 'menyn yn tueddu i gael eu hesgeuluso. A hoffwn dynnu eich sylw at adroddiad Bliss a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, gan yr elusen, yr wyf yn credu sy’n ddogfen...
Andrew RT Davies: Rwy’n gwerthfawrogi’r ateb manwl yna, ac mae'n fap ffordd o ryw fath. Ond rwy’n credu mai un peth a fyddai wir yn cael ei werthfawrogi fyddai gwybod sut, yn y Cynulliad hwn, y byddwn yn mesur eich llwyddiant—gan fynd o 20 y cant i 50 y cant o unedau â digon o staff, neu, yn wir 100 y cant o unedau â digon o staff. Oherwydd yr hyn sy'n allweddol yma yw nodi’r ffordd i lwyddiant, o...
Andrew RT Davies: Un o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yw cadw staff. Hynny yw, yn aml iawn, rydym ni’n canolbwyntio ar ddenu staff newydd i'r gwasanaeth iechyd, ond, yn enwedig ar unedau newyddenedigol, y gallu i gadw staff ar ôl i chi eu denu nhw i’r uned sy’n bwysig. Yn arbennig, bydd 40 y cant o famau yn dioddef iselder ôl-enedigol ac yn cael pwl yn yr unedau hyn. Yn y pen draw, dim ond pump...
Andrew RT Davies: Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n rhaid imi ddatgan fy siom ynghylch datganiad mor ysgafn, sy'n defnyddio iaith flodeuog iawn, ond nad yw'n cynnig llawer o sylwedd, i fod yn onest gyda chi. Yr wyf yn credu bod llen fwg—[Torri ar draws.] Yr wyf yn credu bod llen fwg canlyniad y refferendwm yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu anallu'r Llywodraeth i ddod i gytundeb...
Andrew RT Davies: Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac yn wir, rwy’n llongyfarch fy ngrŵp Ceidwadwyr fy hun am mai dyma’r grŵp sydd wedi cyflwyno cynigion yn gyson gerbron y Cynulliad er mwyn myfyrio ar rai o’r mentrau pwysig y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith a dangos undod go iawn gyda’n cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog, lle bynnag y gallent fod yn gwasanaethu....
Andrew RT Davies: Rwy’n cytuno bod angen i ni weithredu ar gyngor a’r cyngor sy’n cael ei roi, ond cyfeiriaf Ysgrifennydd y Cabinet at adroddiad y pwyllgor iechyd ar yr ymarfer casglu data penodol hwn a gynhaliwyd gan y pwyllgor iechyd yn y trydydd Cynulliad, a chasglodd dystiolaeth helaeth gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan gyn-filwyr a chan deuluoedd. Mewn gwirionedd, fe gynigiodd y pwyllgor iechyd...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Yn fy sylwadau, anghofiais sôn—dylwn fod wedi sôn, ac rwy’n gobeithio y gwnewch eu cymeradwyo hefyd—am Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, a oedd mor ganolog i ddigwyddiadau coffáu Coed Mametz. Rwy’n gwybod eu bod yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau arfog, ac mae llawer o’r aelodau hynny ym Mro Morgannwg.
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roeddech chi yn America yn hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi yn y DU, ac mae Cymru yn amlwg eisiau cael cyfran fawr o’r gacen honno. Ar ddiwedd yr ymweliad, gwnaethoch ddewis defnyddio araith i siarad am chwalu’r Deyrnas Unedig. Roedd yn ymddangos braidd yn rhyfedd, pan eich bod chi’n...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, roedd yn ymddangos yn eglur fel eich bod yn breuddwydio eto am chwalu’r Deyrnas Unedig, sydd yn rhywbeth yr ydych chi’n treulio llawer o amser yn siarad amdano y dyddiau hyn, ac fel unrhyw un sy'n mynd o flaen entrepreneur fel yn ‘Dragon’s Den’ dydych chi ddim yn beirniadu’r cynnyrch yr ydych chi’n ceisio ei werthu iddyn nhw, Brif Weinidog. Ond un peth y gallech...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, rwy’n gresynu’r ffaith nad oedd Ford yn Detroit yn barod i gyfarfod â chi, oherwydd, fel y deallaf, dyna lle gwnaed y penderfyniad am y buddsoddiad ac mae’n ymddangos eu bod wedi pasio’r bêl yn ôl i Ford Ewrop ar y mater hwn. Ond ceir tri chwestiwn dilys iawn yr wyf yn gobeithio bod eich Llywodraeth a chi eich hun fel Prif Weinidog wedi bod yn rhyngweithio gyda Ford...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, diolch ichi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi. Rwy'n credu eu bod wedi rhoi eglurder mewn rhai meysydd. Rwyf yn croesawu eich ymyriad wrth ddweud eich bod am fynd i Detroit. Nododd y Prif Weinidog yn glir, fodd bynnag, wrth ymateb i mi yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, cyn belled ag y mae Ford yn y cwestiwn, mae'r datblygiadau parhaus yn y ffatri yn...
Andrew RT Davies: Weinidog, diolch i chi am eich atebion y prynhawn yma. Byddwn ychydig yn llai hael nag Angela drwy ddweud bod 50 y cant o'r Byrddau Iechyd Lleol yn destun mesurau arbennig neu dan ryw fath o oruchwyliaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd; mewn gwirionedd mae chwech ohonynt yn fyrddau iechyd sydd ag ysbytai cyffredinol dosbarth o fewn eu cylch gwaith, a dwy ran o dair ohonynt yn awr—pedwar...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth ar y cynnydd o ran y gwelliannau i Five Mile Lane ym Mro Morgannwg? Yn yr atebion blaenorol yr wyf wedi eu cael, roedd awgrym y byddai'r dyddiad cychwyn ddiwedd y mis hwn, Medi 2016. Rwyf wedi cyflwyno rhai cwestiynau ysgrifenedig i’r Cynulliad yn ystod misoedd yr haf i geisio egluro materion caffael tir a chost hyd...
Andrew RT Davies: Rwy’n meddwl y dylwn i ymyrryd. [Chwerthin.]
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf ofyn am eglurder, os gwelwch yn dda, ar un maes allweddol? Rydych chi’n cytuno i, ac rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno i symudiad mor rhydd â phosibl o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod masnach yn dda ar gyfer unrhyw wlad, a'r mwyaf o rwystrau y byddwch yn eu rhoi ar waith, y lleiaf o gyfleoedd gwaith a’r...
Andrew RT Davies: Nid ydym ni wedi cael llefarydd eto.
Andrew RT Davies: Dim ond dweud nad ydym ni wedi cael llefarydd eto.
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy llongyfarchiadau i’r holl ddynion a merched chwaraeon sydd wedi perfformio ar wahanol leiniau mewn gwahanol ddinasoedd mewn chwaraeon amrywiol, ledled y byd mewn gwirionedd, drwy gydol haf o ragoriaeth a disgleirdeb mewn chwaraeon yr wyf yn meddwl ein bod i gyd wedi’u...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd y gellir cefnogi’r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yw drwy’r ardoll hyrwyddo sy’n cael ei rhoi ar dda byw wrth eu prosesu. Nawr, mae llawer o Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet, ynghyd ag Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet eraill o bob cwr o’r DU, wedi ceisio mynd i’r afael â’r ardoll hyrwyddo, gan ei bod yn cael...