Sam Rowlands: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall ffermwyr ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod am gyflwyno cwestiwn pwysig iawn mewn perthynas â chludo nwyddau ar reilffyrdd ac economi Cymru. Weinidog, mae rheilffordd dyffryn Conwy yn fy rhanbarth yn mynd o Llandudno i lawr i Flaenau Ffestiniog, yn etholaeth yr Aelod, mewn gwirionedd, ac mae'n parhau i fod yn llwybr trafnidiaeth pwysig iawn i lawer o bobl. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld Network Rail yn buddsoddi...
Sam Rowlands: Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb a'r ddadl bwysig hon heddiw. Dyma fy nadl gyntaf ar ddeiseb ers dod yn Aelod o’r Senedd, ac yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Mr Sargeant ar gadeirio’r pwyllgor a chyflwyno’r eitem hon heddiw, ac ar yr hyn a oedd, i mi, yn gyfraniad teimladwy gennych chi, Jack. Mae'n sicr yn rhoi'r ddeiseb o'n blaenau yma heddiw mewn persbectif. Er...
Sam Rowlands: Rwyf yn dal i synnu at y sylwadau sy'n ceisio awgrymu bod cysylltiadau rhwng terfysg y Capitol a'r drafodaeth ar gynhwysiant pleidleiswyr yma heddiw. Ond diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ddechrau ailadrodd y pwyntiau y mae Aelodau wedi'u codi eisoes: pwysigrwydd etholiadau rhydd a theg. Rwy'n cefnogi symudiadau i sicrhau bod gan y rhai sy'n gymwys i...
Sam Rowlands: Felly, gan ddod yn ôl at yr ensyniad y byddai dull adnabod pleidleiswyr yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl o'u hawliau democrataidd sylfaenol, mae'n amlwg nad yw wedi cael unrhyw effaith yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae gennym broblem yn etholiadau'r Senedd ac mae'n rhaid i ni wynebu hyn: pleidleisiodd 46.6 y cant o bobl yn etholiadau mis Mai o'i gymharu â 67 y cant yn etholiadau...
Sam Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau chwaraeon elît yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: Weinidog, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, bob tro y soniwch am y Dirprwy Weinidog yn cynnal astudiaeth ddofn—deep dive—rwy’n ei ddychmygu’n gorfforol yn plymio’n ddwfn o bryd i’w gilydd. [Chwerthin.] Ond diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn ynghylch effaith bosibl datganoli rheolaeth ar Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol,...
Sam Rowlands: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch hyrwyddo manteision addysgol prentisiaethau yng Ngogledd Cymru? OQ57147
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y byddech chithau'n ei gydnabod hefyd, rwy'n siŵr, mae gan brentisiaethau fudd enfawr i'w gynnig ac yn aml gallant fod yn ddechrau i lwybrau gyrfa hynod lwyddiannus i lawer o bobl ledled fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, ac yn wir, ledled Cymru yn gyffredinol, gan ddatblygu sgiliau a rhoi mwy o ddilyniant i bobl yn aml na'r bobl sy'n dewis llwybr amgen...
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl a glywsoch heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon mae wedi bod yn galonogol gweld yr holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr, yn cefnogi prif fyrdwn ein cynnig Ceidwadol heddiw i fynd i'r afael â sbeicio. Ac rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon i galon democratiaeth yng Nghymru yma yn y...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae ffermydd ledled y gogledd â rhan enfawr yn y gwaith o gefnogi ein heconomi leol ni, ein cymunedau ni ac yn wir ein cadwyn fwyd ni. Mae llawer o ffermwyr yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn ystod y misoedd diwethaf ochr yn ochr â'r NFU wedi codi eu pryderon nhw am raglen dileu TB buchol nad ydyw hi'n ddigon cadarn ac nad...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf yn sicr yn croesawu'r amcanion cyffredinol o geisio cael cynifer o bobl ifanc i ymwneud â gwaith, gyda hunangyflogaeth, gyda hyfforddiant neu addysg. Felly, rwyf yn sicr yn croesawu hynny. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfeiriad penodol at geisio cymorth i bobl ifanc i entrepreneuriaeth hefyd. Mae'n wych bod cynifer o bobl ifanc yn dymuno...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch am eich gohebiaeth yn ddiweddar i ddarparu diweddariad ar yr ymgynghoriad nesaf ar gyd-bwyllgorau corfforedig. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar hynny heddiw. Yn gyntaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â chyn-ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus mai'r hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog. Ac er eglurder, nid dyfynnu Julie James roeddwn yn ei wneud; y Gweinidog cyn Julie, a daeth y dyfyniad drwy'r pwyllgor llywodraeth leol. Ond diolch am eich ateb. Pryder enfawr sydd gennyf ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig, ac un yr ymddengys bod llawer o gynghorwyr ac arweinwyr cynghorau ledled y wlad yn ei rannu, yw eu natur ddemocrataidd, neu ddiffyg natur ddemocrataidd...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog. Yn sicr, rhoesoch ateb rhannol ynglŷn â chyfrifoldeb pleidleisio'r arweinwyr ar y cyd-bwyllgorau corfforedig hynny, ond wrth gwrs, fel yn fy rhanbarth i, mae gennych chwe chyngor, felly chwe arweinydd, ac mae'n debyg fod gennych bron i 400 o gynghorwyr ar draws y rhanbarth sydd wedi'u hethol yn lleol. A chredaf fod hwn yn faes nad yw'n cael ei werthfawrogi ar hyn o bryd,...
Sam Rowlands: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y rôl y gall ffermwyr ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd? OQ57206
Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn am eich ateb cyntaf, Weinidog. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael y pleser, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, o ymweld â dwy fferm wahanol iawn yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru—fferm Llyr Jones, Derwydd, ar ffin Conwy-sir Ddinbych, ac ystâd Rhug ger Corwen, y byddwch yn gyfarwydd â hi hefyd, rwy'n siŵr. Gan barhau i sicrhau bod gennym fwyd ar ein...
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw gallu cyfrannu yn y ddadl hon heddiw ar Fil bwyd a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, gyda'r potensial i greu cyfleoedd enfawr i bobl ar hyd a lled Cymru? Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn hefyd fy mod wedi mwynhau cyfeiriadau'r Aelodau at fwyd yn eu cyfraniadau, megis 'bara menyn ein heconomi' o'r fan hon a 'cut the mustard'...
Sam Rowlands: 6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OQ57254
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Hoffwn i gymryd eiliad hefyd i dynnu sylw at adroddiad damniol Holden a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, y mae fy nghyd-Aelod, Darren Millar wedi ei godi gyda chi yn gynharach heddiw, oherwydd ei fod yn adroddiad mor arwyddocaol i fy nhrigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd. A, Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn yn frawychus. Mae'n...