Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion?
Jack Sargeant: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontract economaidd newydd Llywodraeth Cymru i fusnesau? OAQ53407
Jack Sargeant: Diolch, Weinidog. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o gael arwain dadl fer gyda chefnogaeth drawsbleidiol ar gontract ar gyfer gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle. Gwn fod y Gweinidog yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, fel finnau a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr ei fod yn credu ei bod yn gwneud synnwyr, o safbwynt dynol ac ariannol,...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gan chwaraeon ran enfawr i'w chwarae yn y broses o ysbrydoli cenedlaethau a chymunedau, ac mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar wella iechyd meddwl. Nid yw'r rhain ond yn rhai o'r rhesymau pam rwyf eisiau dymuno'n dda i dîm pêl-droed Nomads Cei Connah o fy etholaeth ar gyfer eu gêm gynderfynol yn erbyn Dinas Caeredin yng Nghwpan Irn Bru. Mae cymunedau...
Jack Sargeant: Trefnydd, roeddwn i wedi gobeithio codi gyda'r Prif Weinidog yn gynharach, gynnydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hymwreiddio yn ei gwahanol adrannau. O ran deddfwriaeth, rwy'n credu mai’r Ddeddf yw un o gyflawniadau mwyaf canmoladwy Llywodraeth Cymru, oherwydd ei bod hi’n eich herio chi i feddwl a gwneud yn wahanol. Rydym ni...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Jack Sargeant: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith trafnidiaeth eco-gyfeillgar ar lefelau llygredd? OAQ53454
Jack Sargeant: Diolch, Weinidog, a chroesawaf y cyfle hwn i ofyn fy nghwestiwn cyntaf i chi yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod lefelau llygredd plastig yn broblem fyd-eang, ond mae gan Gymru gyfle i arwain. Weithiau, mae angen inni hefyd edrych yn rhywle arall o ran sut rydym yn meddwl am drafnidiaeth mewn modd gwahanol. Yn Surabaya, y ddinas fwyaf ond un yn Indonesia,...
Jack Sargeant: Rwyf am ddechrau heddiw drwy groesawu'r adroddiad hwn a'r gwaith caled a wnaeth y pwyllgor ar y mater, ac ategaf y sylwadau a wnaed gan Aelodau ar draws y Siambr y prynhawn yma hefyd. Mae'n hen bryd inni drafod y mater hynod bwysig hwn yn Siambr y Senedd, ac wrth baratoi ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, roeddwn yn meddwl y buaswn yn mynd yn ôl at rywbeth y daeth fy mam a minnau ar ei draws...
Jack Sargeant: Diolch, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn cadw hyn yn fyr iawn, ond rwyf yn falch iawn o glywed drwy gydol y datganiad hwn heddiw gyfeiriadau at y Bil trais yn erbyn menywod a'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a hefyd y datganiad a'r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thlodi misglwyf a chynhyrchion misglwyf am ddim. Gwn fod Jenny Rathbone wedi gweithio'n agos gyda fy...
Jack Sargeant: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gogledd-ddwyrain Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes rhyngwladol?
Jack Sargeant: Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Mae prentisiaethau yn hollbwysig, ac rwyf i o'r farn gref mai prentisiaid heddiw yn arweinwyr y dyfodol. Fe glywsom ni'n gynharach fod yr wythnos ddiwethaf yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. I nodi hynny, cefais gyfle ardderchog i fynd yn ôl at fy ngwreiddiau fel prentis o beiriannydd. Cefais fy nhywys o...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Credaf ei bod yn dilyn ymlaen yn dwt o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe ac Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos cyn hynny. Fel cyn brentis, rwy'n falch iawn o gael cyfle i drafod fy mhrofiadau a chyfrannu heddiw. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar ddau beth yn benodol. Yn gyntaf, mae...
Jack Sargeant: A gaf i ddechrau drwy ymuno ag arweinwyr ar draws y Siambr a'r Prif Weinidog i longyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych dros y penwythnos? Fe ddylent fod yn hynod o falch o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n dod yn eu holau o Japan ddiwedd mis Tachwedd gyda Chwpan y Byd gan ddod â'r fasnach twristiaeth gyda...
Jack Sargeant: Fel aelod o bwyllgor yr economi, rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw ar y cynllun gweithredu ffonau symudol wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, mae'n rhywbeth y gwn ei fod yn effeithio ar fusnesau yn fy etholaeth, a rhywbeth rwy'n teimlo'n wirioneddol angerddol yn ei gylch mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn adroddiad y...
Jack Sargeant: Fel y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, cyn dod i'r Cynulliad, roeddwn i'n gweithio fel peiriannydd ymchwil a datblygu. Prif Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno â mi bod cysylltiadau diwydiant yn hanfodol yn y maes hwn a bod angen i ni sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y gogledd, yn debyg i'r sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil yr ydym ni wedi ei weld yn llwyddo ar safle Airbus?
Jack Sargeant: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cynhwysiant digidol? OAQ53671
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod mynediad at gysylltedd digidol yn ffordd wych o sicrhau bod pobl ledled y wlad yn gallu cael mynediad at blatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys amrywiaeth o apiau ar-lein. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod y broses o ddarparu'r cysylltedd hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad at...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng ngogledd Cymru?
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ?