Sarah Murphy: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ganfod ac asesu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58055
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae wedi bod yn wych ymweld â llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar ar draws fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gwn eu bod yn falch o allu dychwelyd i drefniadau a gweithgareddau cyn COVID er budd y plant sy'n eu gofal. I lawer o rieni a disgyblion, gall ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn aml olygu dechrau'r daith ar gyfer asesu anghenion dysgu...
Sarah Murphy: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hynod bwysig hon i'r Siambr heddiw. Nos Lun, bûm mewn digwyddiad caffi menopos lleol a gynhaliwyd gan Sarah Williams o Equality Counts, lle daeth menywod a'r rhai sy'n ymdrin â materion iechyd tebyg at ei gilydd i drafod eu profiadau. Heb os, mae mannau agored fel caffis menopos a digwyddiadau fel hyn yn fy nghymuned yn...
Sarah Murphy: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch ichi am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Iechyd meddwl plant a'r glasoed yw un o'r prif faterion y mae pobl ifanc yn ei ddwyn i fy sylw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, roedd yn wych cynnal ein ffair pobl ifanc ar yr union bwnc hwn gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, lle y daeth ysgolion, disgyblion...
Sarah Murphy: Diolch. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r cynnig hwn i’r Siambr heddiw. Llywodraeth Cymru oedd un o’r rhai cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac roedd yn arloesol. Cofiaf glywed y cyhoeddiad a meddwl am bob un yn ein cymunedau sydd wedi addasu i ailgylchu eu gwastraff, beicio i’r gwaith, cerdded i’r gwaith i liniaru llygredd aer, plant ysgol sy’n defnyddio...
Sarah Murphy: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ofod Genedlaethol Llywodraeth Cymru? OQ58163
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n wych clywed am y cyfleoedd a fydd yn deillio o'r strategaeth honno. Siaradais yn ddiweddar â'r Sefydliad Ffiseg, sydd wedi bod yn gweithredu cynllun Ein Gofod, Ein Dyfodol ar draws naw ysgol yng Nghymru, gan gynnwys blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Brynteg yn fy etholaeth. Nod y cynllun yw newid y canfyddiadau fod y diwydiant gofod yn llwybr gyrfa i leiafrif bach, a...
Sarah Murphy: Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, fy nghyd-Aelodau a chlercod ac ymchwilwyr y pwyllgor. Fel pwyllgor, rydym wedi gosod yr amcan i'n hunain o hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar draws y Senedd, felly mae craffu ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhan hanfodol o hyn. Ac wrth inni agosáu at...
Sarah Murphy: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod menywod yn cael mynediad cyfartal at ddiagnosis a chymorth ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol?
Sarah Murphy: Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hwn am y cynllun gweithredu heddiw. Yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu, fel y gwnaethoch ei ddweud, beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd y Cymro, Terrence Higgins, ac yn cofio iddo farw 40 mlynedd yn ôl o salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS. Enwyd Terry fel y person cyntaf yn y DU i farw o AIDS, ond arweiniodd yr argyfwng at ddynion hoyw a deurywiol yn...
Sarah Murphy: Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch ei gynllun datblygu lleol?
Sarah Murphy: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ofalu am gŵn sy'n cael eu hachub rhag bridio anghyfreithlon? OQ58248
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â chanolfan Hope Rescue gyda Huw Irranca-Davies, fel y soniodd, a chredaf y gallwn i gyd gytuno bod yr ymweliad gan Hope Rescue ac ymgyrch achub milgwn de Cymru wedi gadael argraff enfawr ar lawer ohonom, yn ôl y cwestiynau a gawsom heddiw. Ond rwy'n credu y gallwn i gyd weld, fel y dywedoch chi, pa mor rhagorol oedd y gofal am y cŵn. Ar ein...
Sarah Murphy: Prif Weinidog, bu tipyn o ewyllys da ym maes deintyddiaeth y GIG ers amser maith. Ar ôl siarad â deintyddion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, yn anffodus, mae'n wir, gyda'r contractau newydd, fod practisau'r GIG yn gweld llawer o gleifion newydd a bod angen iddyn nhw gyrraedd targedau uchel o gleifion. Mae'n rhaid i bractisau dalu am gost y driniaeth oherwydd lefel...
Sarah Murphy: Diolch, Gweinidog, am hyn. Gwn fod iechyd menywod yn flaenoriaeth i chi a'n Llywodraeth, ac felly rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr heddiw. Nid wyf eisiau dweud pethau sydd eisoes wedi'u dweud; rwyf eisiau cefnogi'r hyn yr ydych chi, Gweinidog, a Jenny Rathbone wedi'i ddweud am y dyfarniad a gafodd ei wrthdroi yn yr Unol Daleithiau—y Roe v. Wade—ac rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd yn...
Sarah Murphy: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau gweithredu diwydiannol gan fargyfreithwyr o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58290
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych wedi'i ddweud: mae bargyfreithwyr yng Nghymru yn dioddef yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn tanariannu'r system gyfiawnder yng Nghymru. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar fargyfreithwyr sy'n gweithio yn y diwydiant—mae'r diffyg buddsoddiad a chefnogaeth iddynt gan Lywodraeth y DU...
Sarah Murphy: Bydd prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn cael ei adnabod fel polisi hanesyddol yn y Siambr hon. Mae'r polisi hwn yn cydnabod, er gwaethaf y gwahaniaethau o ran cefndir, pan fydd disgyblion yn mynd i mewn trwy gatiau'r ysgol byddan nhw'n cael cyfle cyfartal i gael bwyd. Mae darparu prydau ysgol yn atal plant rhag cael eu niweidio'n anuniongyrchol mewn sefyllfa economaidd sy'n...
Sarah Murphy: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch hefyd i’m cyd-Aelodau, y Cadeirydd a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr adroddiad hollbwysig ac amserol hwn, ‘Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd’, yn ogystal â’r rheini a roddodd dystiolaeth ac a siaradodd gerbron y pwyllgor. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb naill ai drwy dderbyn argymhellion...
Sarah Murphy: Diolch i chi, Gweinidog, am roi'r datganiad hwn i ni heddiw. Dim ond ar gyfer mynd ar drywydd eich pwyntiau chi nawr a'ch cwestiynau chi, Luke, am borthladdoedd rhydd, fe fyddwn i'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n golygu na fyddai Llywodraeth Cymru byth yn gwneud unrhyw gytundeb â DP World, sef perchnogion P&O Ferries a ddiswyddodd 800 o'u staff. Nid syndod, ond siomedig, yw bod y ddau...