Delyth Jewell: Yn bellach i'r hyn sydd newydd gael ei ddweud, roedd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i drosglwyddo'r baich o ddarparu trwyddedau am ddim i bobl dros 75 yn gwbl sinigaidd. Canlyniad hyn oedd rhoi'r cyfrifoldeb ar y BBC i weithredu ymrwymiad a wnaeth y Torïaid yn eu maniffesto eu hunain. Roedd y BBC wedyn mewn sefyllfa anodd iawn o orfod dewis torri nôl ar y trwyddedau am ddim, neu...
Delyth Jewell: Roeddwn yn drist iawn o glywed y newyddion ddydd Llun fod 280 o weithwyr yn fy rhanbarth yn wynebu cael eu diswyddo am fod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Fel y dywedwyd, roeddent yn bobl ffyddlon a gweithgar a roddodd flynyddoedd o wasanaeth rhagorol i'r cwmni. Mae fy nghalon yn gwaedu dros bob un ohonynt a'u teuluoedd. Weinidog, hoffwn wybod a oeddech yn ymwybodol o'r...
Delyth Jewell: Diolch i'r Llywydd. Fel arfer buaswn yn hoffi agor dadl fel hon drwy egluro pam ei bod yn amserol, ond mewn sawl ffordd, nid yw hon yn ddadl amserol. Mae gwella'r M4 wedi bod yn destun dadl ers cyn dechrau datganoli. Fe'i cynigiwyd gyntaf yn 1981 gan y Swyddfa Gymreig, ac eto dyma ni 27 mlynedd yn ddiweddarach ac rydym yn dal i'w drafod. Gadewch imi fod yn glir: gwrthod y llwybr du...
Delyth Jewell: 1. Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OAQ54087
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Prif Weinidog, nid oes neb mewn gwell sefyllfa, does bosib, i wneud penderfyniadau cytbwys am gynllunio lleol na'r bobl sy'n byw yno. Yn 2016, pleidleisiodd cynghorwyr Caerffili yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn Hendredenny. Roedd trigolion lleol yn ddig, a hynny'n briodol iawn, o weld y penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi gan...
Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth? OAQ54086
Delyth Jewell: Diolch am eich ateb. Cymerais ran fawr mewn gwaith a arweiniodd at gyflwyno'r gyfraith rheolaeth drwy orfodaeth pan roeddwn i yn San Steffan, felly mae hwn yn faes sy'n agos iawn at fy nghalon, ond gweithredu deddfwriaeth sydd bwysicaf, ac mae pryderon yn parhau ynghylch y nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant yn y maes hwn. Tan y bydd pob gwasanaeth cyhoeddus yn cael hyfforddiant o'r safon...
Delyth Jewell: Ar 13 Ebrill eleni, fe wnaethom ddihuno i'r newyddion fod fandaliaid wedi dinistrio rhan o furlun 'Cofiwch Dryweryn' ger Aberystwyth. Yn ddiau, roedd yn weithred wleidyddol, ac mae wedi arwain at ymdrechion i atgynhyrchu'r murlun ledled Cymru. Ond yr elfen fwyaf barbaraidd i mi oedd y ffaith eu bod wedi chwalu drwy'r gair 'cofiwch'—ymgais i ddileu a chwalu ein cof am ein gorffennol. Nawr,...
Delyth Jewell: Rwyf eisoes wedi cyfeirio at y bardd hwnnw o'r chweched ganrif, Aneirin. Mae ei gampwaith, 'Y Gododdin', yn record lenyddol o luoedd y Gododdin a fu farw mewn brwydr yn yr Hen Ogledd, ardal ger Catterick, neu Catraeth, i roi ei enw Brythoneg. Mae'n amhosib gorbwysleisio arwyddocâd llenyddol a hanesyddol y gerdd hynod hon, gan ei bod ymysg yr hynaf o'i math yn Ewrop—ac mewn sawl ffordd, hap...
Delyth Jewell: I gloi, Lywydd, hoffwn ddyfynnu rhagor o eiriau gan Gwyn Alf Williams, a dynnodd sylw at y ffaith bod y Cymry wedi creu eu hunain drwy adrodd ac ailadrodd eu stori o un genhedlaeth i'r llall. Dywedodd mai arteffact yw Cymru, un y bydd y Cymry'n ei gynhyrchu os dymunant wneud hynny. Mae'n galw am weithred o ddewis. Nawr, rwyf wedi siarad am furluniau ac arteffactau yn fy nghyfraniad heddiw,...
Delyth Jewell: Lywydd, nid yw Plaid Cymru wedi ceisio diwygio'r cynnig hwn gan Blaid Brexit; mae mor bell oddi wrth realiti fel mai'r peth mwyaf caredig i'w wneud yw ei wared o'i ddioddefaint cyn iddo suddo o dan bwysau ei wrthddywediadau ei hun. Ag ystyried mai un peth yn unig sydd o bwys i Blaid Brexit—Brexit—mae'n gwbl ryfeddol wynebu dyfnder eu hanwybodaeth ynglŷn â sut y byddai'n gweithio. Mae'n...
Delyth Jewell: Iawn, fe gymeraf ymyriad.
Delyth Jewell: Ar hynny, o leiaf, efallai y gallwn gytuno, o ran Brexit. Byddai gadael heb gytundeb yn debygol o arwain at ddirywiad sydyn yng ngwerth sterling, a fyddai'n golygu na fyddai dim byd yn rhatach, felly beth yw ateb Plaid Brexit i hyn? Sut y byddent yn cadw prisiau i lawr? Eu polisi, hyd y gellir gweld, fyddai lleihau tariffau'n unochrog i sero. Wrth gwrs, o dan reol 'cenedl a ffefrir fwyaf'...
Delyth Jewell: Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw i'n goleuo, Mark. Serch hynny, byddai Brexit Sefydliad Masnach y Byd yn arwain at embargo masnachol, gan arwain at atal allforio cynhyrchion anifeiliaid o'r DU fel cig, wyau a chynnyrch llaeth i'r UE—tybed a fyddech chi'n anghytuno â hynny hefyd—ergyd ddwbl i ffermwyr Cymru trwy garedigrwydd Plaid Brexit. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym yr honiad truenus...
Delyth Jewell: A minnau'n Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i fynd i'r afael â'r problemau tagfeydd o amgylch Casnewydd. Oherwydd y rhoddwyd y farwol i'r ffordd liniaru bellach, yr ydym ni wedi ei groesawu, mae angen inni edrych ar ffyrdd amgen o fynd i'r afael â'r materion penodol hynny, ynghyd ag uwchraddio ein seilwaith trafnidiaeth i'w wneud yn addas i ni fel...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel unrhyw ddatganiad uchelgeisiol o fwriad ynghylch y math o genedl yr ydym ni am ei chreu yng Nghymru, boed hynny yn datgan argyfwng hinsawdd neu geisio sicrhau dyfodol yr iaith, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y ddelfryd yn cael ei hatgyfnerthu yn ein gweithredoedd ac yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n rhaid cydnabod nad ar chwarae bach y mae gwyrdroi...
Delyth Jewell: Diolch am hynny. Mi fuaswn i'n dweud, gyda pharch, mai pwrpas swyddfa'r comisiynydd yw i ddiogelu ac atgyfnerthu statws y Gymraeg, nid y di-Gymraeg, ac rwy'n meddwl byddai hynny yn cymhlethu pethau efallai, yn tanseilio y swyddogaeth hynny yn gyffredinol pe byddem ni'n ei wneud e trwy'r un peth. Ond diolch am yr ymyriad yna. Efallai fod hyn ddim yn llawer o syndod—ac mi fuaswn i yn dweud...
Delyth Jewell: Weinidog, polisi newydd Brexit Llafur yw cefnogi refferendwm ar Brexit ac ymgyrch dros aros os yw Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn Brif Weinidog, gyda'r bwriad o ailnegodi a gadael os yw Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pobl sydd wedi bod yn dilyn esblygiad polisi Llafur yn dod i'r casgliad fod cymaint o gamau'n ôl wedi bod erbyn hyn am bob cam ymlaen fel bod traed Jeremy...
Delyth Jewell: Weinidog, a ydych yn cytuno felly, os ceir etholiad cyffredinol, y byddai'n gwneud synnwyr i bobl sy'n dymuno gweld Llafur yn ymgyrchu dros aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol bleidleisio dros bleidiau a fydd yn ymgyrchu i aros mewn unrhyw amgylchiadau?
Delyth Jewell: Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ymgais ddewr i gyfiawnhau'r ffurf ddiweddaraf ar bolisi Brexit eich plaid, er fy mod yn tybio y bydd y bobl sy'n gwylio am ffurfio'u casgliadau eu hunain p'un a yw'r ddadl honno'n dal dŵr. Dywedodd Boris Johnson yn ddiweddar, pe bai'n Brif Weinidog y byddai am weld dylanwad Ceidwadol cryf dros y modd y gwerir y cynllun i adnewyddu cyllid yr UE—y gronfa...